Mae perygl Categori 1 ym mhob 1 mewn 5 cartref yng Nghymru, gan olygu fod y cartref mewn cyflwr sy’n niweidiol i iechyd.
Bob dydd rydym yn gweld pobl hŷn yng Nghymru sy’n byw mewn cartrefi heb fod yn addas a heb fod yn ddiogel i fyw ynddynt. Mae pobl hŷn yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp arall yn y boblogaeth i fod yn berchen eu cartref eu hunain, ond i fod yn byw mewn rhai o’r tai mewn cyflwr gwaethaf yng Nghymru. Yn aml yn byw ar bensiwn gwladol yn unig, a gyda nifer gyfyngedig o ffyrdd ar gael iddynt i dalu am waith trwsio sydd ei fawr angen, gwelwn filoedd o gartrefi bob blwyddyn lle na all anghenion pobl hŷn gael eu hateb oherwydd diffyg adnoddau.
Credwn y dylai stoc tai Cymru fod yn ased genedlaethol i gadw pobl hŷn yn ddiogel gartref, gostwng anghenion gofal cymdeithasol a diogelu’r stoc tai ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu grant rhwyd ddiogelwch i helpu datrys achosion o dai mewn cyflwr gwael yng Nghymru, sy’n golygu ei bod yn beryglus i bobl hŷn fyw yno.