Ymunwch â ni ar gyfer y digwyddiad mwyaf yng Nghymru yn arbennig ar gyfer tai pobl hŷn.
Bydd Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2024 yn ymchwilio sut y gall cartrefi gwell yng Nghymru greu dyfodol iachach i bawb ohonom.
Bydd y diwrnod yn cynnwys siaradwyr gwadd, gweithdai, paneli trafod a neuadd arddangos. Ymunwch â ni wrth i ni drafod yr heriau tai sy’n wynebu ein cenedlaethau hŷn a’r datrysiadau iddynt.
Mae’r digwyddiad yn berffaith ar gyfer unrhyw un sydd eisiau darganfod sut mae tai, iechyd a gofal cymdeithasol yn cysylltu. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr tai proffesiynol, gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol, sefydliadau dim er elw a llywodraeth leol.
Caiff ein cynhadledd eleni ei noddi gan Wales & West Utilities.
Lleoliad
Rydym yn falch iawn i fod yn y Gogledd ar gyfer Cynhadledd 2024. Cynhelir y gynhadledd yn Venue Cymru yn Llandudno.
Y cyfeiriad llawn yw: Venue Cymru, Y Promenâd, Penrhyn Cres, Llandudno LL30 1BB
Mae mwy o wybodaeth am y lleoliad ar gael ar wefan Venue Cymru.
Teithio a Pharcio
Mae Venue Cymru yn gweithredu maes parcio Talu ac Arddangos yng nghefn yr adeilad, gyda mannau parcio penodol i’r anabl ar chwith y brif fynedfa.
Mae lleoedd parcio eraill ar gael yn ac o amgylch Llandudno, yn cynnwys rhai lleoedd parcio di-dâl am gyfnod. Yr orsaf reilffordd agosaf yw Llandudno, sydd tua 12 munud ar droed o’r lleoliad.
Cinio a Iluniaeth
Bydd cinio bwffe ar gael i bob cynrychiolydd. Os na wnaethoch ein hysbysu am ofynion dietegol wrth archebu, gwnewch hynny os gwelwch yn dda drwy anfon e-bost at events@careandrepair.org.uk
Bydd te a choffi ar gael drwy gydol y dydd ond dylid nodi, am resymau cynaliadwyedd, nad yw’r lleoliad yn rhoi dŵr ar y byrddau. Felly, efallai y byddwch yn dymuno dod â photel ddŵr gyda chi.
Cylch Clywed
Gellir lawrlwytho gwybodaeth am ddefnyddio’r cylch clywed yng Nghynhadledd Gofal a thrwsio drwy glicio yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y gynhadledd, anfonwch e-bost at events@careandrepair.org.uk.