Posted: 31.03.2023
Author: jack
Rhedodd Prosiect 70+ Cymru rhwng 2021-2023 a hwn oedd yr unig brosiect o’i fath oedd yn gweithredu ledled Cymru. Gweithiodd y tîm yn ddiflino, yn dawel a diwyd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb a brofodd cynifer o bobl yn y cyfnod anodd hwn ym mhob rhan o’r wlad.
Gyda thîm o ddim ond wyth, cyrhaeddodd y gwasanaeth 2,988 aelwyd gyda chyngor a chymorth yn ystod 24 mis y prosiect. Roedd hyn yn cynnwys bron 1,000 o ymweliadau wyneb yn wyneb i gartrefi pobl. Roedd cyfanswm gwerth mesurau mawr i arbed ynni a osodwyd a’r buddion ariannol i’n cleientiaid yn gyfanswm o £1,127,556.
Er y sicrhawyd y canlyniadau cadarnhaol hyn mewn amgylchiadau eithriadol o heriol, a chefnogi pobl hŷn mewn ffordd nad oedd neb arall yng Nghymru yn ei wneud, buom yn aflwyddiannus yn ein cais i Energy Redress i barhau’r prosiect. Rwy’n ddiolchgar i Wales & Wales Utilities am gamu mewn i ariannu ein gwasanaeth i bobl ledled Cymru dros gyfnod gaeaf 2022-2023.
Cyflawnodd 70+ Cymru ei nodau yn dda. Cafodd y prosiect ddechrau anodd a chymerodd 5½ mis i ddod yn weithredol ym mis Chwefror 2021. Tarodd cyfyngiadau Covid ac effaith y feirws ei hun ar ein gwasanaeth ymweld â chartrefi drwy gydol 2021. Fe’i cawsom yn anodd iawn recriwtIo i swyddi rhan-amser pan oedd y cynllun ffyrlo ar waith, gan maes o law gynnal pump cylch recriwtio ac yn naturiol effeithiodd hynny ar ein cyllideb a darpariaeth gynnar ar ddeilliannau targed. Er hyn, cyflawnodd tîm 70+ Cymru ei brif nod o dargedu defnyddwyr ynni hŷn mewn angen yn y sector tai preifat. Cyflwynodd y tîm gymorth, cyngor ac ymyriadau ar ynni cartref ledled Cymru, a gweithiodd y cyfan i osgoi, gostwng a lleihau tlodi tanwydd. Cafodd ein prosiect effaith gadarnhaol wrth helpu pobl hŷn i fforddio bod yn gynnes a diogel yn eu cartrefi.
Clywsom fod cleientiaid yn gwerthfawrogi cyngor a gweithredu a allai liniaru’r problemau ynni cysylltiedig â thai yr oeddent yn byw gyda nhw. Datblygodd ein Swyddogion Ynni Cartref berthynas o ymddiriedaeth oedd yn galluogi cleientiaid i fod yn agored am yr anawsterau oedd yn eu hwynebu. Datblygodd y tîm sgiliau arbenigol drwy brofiad, dysgu, rhannu a hyfforddi a wnaeth gryfhau deilliannau ac adeiladu gwasanaeth tlodi tanwydd uchel ei barch a chyson ledled Cymru.
Mae pob aelod o’r tîm wedi bod yn hollol ymroddedig i herio a lliniaru tlodi tanwydd ac wedi gweithio gyda chydymdeimlad a phroffesiynoldeb. Ym mis Ionawr 2023 roedd yn wych dathlu gyda’r tîm pan gafodd ein gwaith ei gydnabod gan Wobrau Effeithiolrwydd Ynni Cymru fel ‘Sefydliad Cymorth Gorau y Flwyddyn ar gyfer Cwsmeriaid Agored i Niwed’.
Bydd dod â’r canlyniadau a’r hyn a ddysgwyd o’r prosiect ynghyd mewn adroddiad yn sicrhau y gellir ei rannu gyda’n partneriaid, cyrff trydydd sector ac eraill yn gweithio i drechu tlodi tanwydd. Cyhoeddir yr adroddiad y mis hwn a bydd dolen iddo o’r dudalen hon pan fydd ar gael.
Jo Harry
Rheolwr Prosiect 70+ Cymru