Aeth 45 mlynedd heibio ers sefydlu’r asiantaeth gwella cartrefi gyntaf yng Nghymru, gyda’r nod o gefnogi pobl hŷn i fyw’n ddiogel yn eu cartrefi eu hunain.

Ers sefydlu’r asiantaeth gyntaf yn Ferndale yn 1979, tyfodd Gofal a Thrwsio i fod yn elusen genedlaethol o fri, a gafodd effaith sylweddol iawn ar fywydau pobl hŷn ym mhob rhan o Gymru.

Caiff pwysigrwydd gwaith Gofal a Thrwsio ei gydnabod yn gynyddol am wella deilliannau iechyd a chefnogi byw annibynnol, Yn 2023 yn unig, fe wnaeth Gofal a Thrwsio arbed tua £24m i GIG Cymru oherwydd y bu’n rhaid i lai o bobl fynd i’r ysbyty a galw am ambiwlans.

Yn yr un flwyddyn, darparodd Gofal a Thrwsio £21.8 miliwn mewn gwaith trwsio a gwella tai, cwblhau 60,258 swydd a helpu sicrhau £12.5 miliwn mewn budd-daliadau nad oedd pobl hŷn yn eu hawlio er fod ganddynt hawl iddynt.

Esblygodd gwasanaethau Gofal a Thrwsio dros y blynyddoedd. Roedd y ffocws dechreuol ar amodau tai gwael yn y cymoedd ac ardaloedd gwledig, mae’r sefydliad yn awr yn integreiddio tai gyda iechyd a gofal cymdeithasol ym mhob rhan o Gymru. Cafodd y gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach, a gyflwynir gan Gofal a Thrwsio, ei ymestyn ledled Cymru yn 2019 ac mae’n awr yn gweithio gyda 17 ysbyty mewn pump Bwrdd Iechyd.

Amserlen 45 Mlynedd

I nodi’r pen-blwydd, rydym wedi cyhoeddi adroddiad yn rhoi sylw i amserlen Gofal a Thrwsio a chrynodeb o’r heriau cyfredol sy’n wynebu pobl hŷn yng Nghymru.

Dywedodd Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol:

“Mae cyrraedd y garreg filltir hon yn dyst i’r effaith anhygoel a gafodd Gofal a Thrwsio wrth gefnogi pobl hŷn i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Drwy eu gwasanaethau gwerthfawr iawn, maent wedi grymuso cynifer o unigolion i gadw eu hannibyniaeth a’u hurddas – p’un ai yw hynny drwy gyflwyno addasiadau i gartrefi neu roi cyngor neu gymorth ymarferol, mae effaith gadarnhaol eu gwaith yn amlwg ym mywydau’r rhai a gefnogant.

“Mae’n ddi-os bod eu hymroddiad i wneud cartrefi yn fwy diogel, mwy cysurus a mwy cyfleus wedi helpu nifer di-rif o bobl i gadw mewn cysylltiad gyda’u cymunedau a byw bywydau bodlon yn y lleoedd maent yn eu hadnabod ac yn eu caru. Mae’r ymrwymiad hwn i feithrin cymdeithas sy’n gwerthfawrogi’n fawr ei chenhedlaeth hŷn a’i hymroddiad i ansawdd bywyd pobl anabl a phobl hŷn yn ysbrydoliaeth go iawn ac yn haeddu cael ei ddathlu.”

Oriel – Gofal a Thrwsio drwy’r Blynyddoedd

Amserlen — Hanes Gofal a Thrwsio yng Nghymru

1979

Cynllun newydd yn Ferndale

Sefydlwyd yr asiantaeth gwella cartrefi gyntaf yng Nghymru yn Ferndale yn 1979. Cafodd Gwasanaeth Gwella Cartrefi Ferndale ei gefnogi gan Shelter a gan Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymdeithasau Tai (HACT).

1987

Cymorth gan y Swyddfa Gymreig =

Penderfynodd y Swyddfa Gymreig roi arian cyfatebol ar gyfer chwe chynllun peilot Gofal a Thrwsio. Fe wnaethant hefyd ariannu Swyddog Datblygu Gofal a Thrwsio ar gyfer Cymru, a gefnogwyd gan Gofal a Thrwsio Cyf ac yn gweithio o swyddfa Cymdeithas Tai Corlan yng Nghaerdydd.

1991

Lansio Care & Repair Cymru

Ar 25 Hydref 1992 cafodd Care & Repair Cymru (CRC) ei lansio mewn digwyddiad yng Nghastell Caerdydd gan Nicholas Bennett AS ac aelod o’r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig. Sefydlwyd CRC fel y corff cenedlaethol ar gyfer y cynlluniau Gofal a Thrwsio newydd, yr oedd 18 ohonynt erbyn 1992.

1997

Ehangu Cyflym

Caiff 10fed pen-blwydd cyllid y Swyddfa Gymreig ei ddathlu gyda digwyddiadau yng Nghadeirlan Llandaf a Theatr y Grand yn Abertawe. Mae’r ehangu yn parhau ac erbyn 1997 roedd 27 Asiantaeth Gofal a Thrwsio yng Nghymru.

2002

Gwasanaeth i Gymru Gyfan

Cyflawnir y weledigaeth o wasanaeth i Gymru gyfan yn 2002. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ymrwymo i gyllido gwasanaeth newydd Gofal a Thrwsio gyda theitl y Rhaglen Addasiadau Brys.

2008

Brand Newydd

Cyflwynir y logo cylch gwyrdd, yn ogystal ag isbennawd newydd. Cafodd y rhain eu mabwysiadu gan bob Asiantaeth Gofal a Thrwsio gan sicrhau brand unedig ledled Cymru.

2015

Uno

Oherwydd gostyngiad mewn cyllid, mae Gofal a Thrwsio yn dechrau ar broses uno. Mae 22 Asiantaeth ar gyfer pob sir yn gostwng i 13. Ar yr un pryd, daw Care & Repair Cymru yn elusen gofrestredig ac mae’n dechrau ar raglen codi arian.

2020

Prosiectau Arloesol

Mae cyfres o gynigion llwyddiannus am gyllid yn arwain at i Gofal a Thrwsio gyflwyno prosiectau newydd ar draws Cymru. Mae Ymdopi’n Well (2016), Prosiect Attic (2017), Ysbyty i Gartref Iachach (2019) a 70+ Cymru (2020) oll yn cyrraedd pobl newydd ac yn arwain at gynnydd sylweddol yn y gwasanaeth a gynigir.

Heddiw a thu hwnt

Beth yw’r dyfodol?

Mae her tai mewn cyflwr gwael yn wynebu llawer o bobl hŷn yng Nghymru. Mae cyfuniad o bandemig Covid-19, yr argyfwng costau byw a phrinder contractwyr wedi golygu na chafodd llawer o dai mewn cyflwr gwael eu gwirio na’u datrys. Rydym wrthi’n edrych am atebion i hyn sydd yn her heddiw ac i’r dyfodol.

From Wear and Tear to Disrepair

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.