Bob dydd mae Gofal a Thrwsio yn gweld pobl hŷn yng Nghymru yn byw mewn tai anaddas a heb fod yn ddiogel, heb fawr o gyfleoedd i gael iawn neu wella eu sefyllfa.
Hyd at fis Ebrill 2023 roedd gan Gofal a Thrwsio wasanaeth arbenigol ar dlodi tanwydd a chyngor ynni. Roedd bron pob cleient a ddaeth i gysylltiad â’r gwasanaeth hwn yn byw mewn tlodi tanwydd. Gan ddefnyddio sampl dienw o’n cleientiaid, fe wnaethom gyfrifo gwariant cyfartalog ar ynni dros gyfnod o dair blynedd ar gyfer cleientiaid Gofal a Thrwsio a ddefnyddiodd y gwasanaeth ac a gafodd gymorth gan y llywodraeth.
Canfyddiadau allweddol
- Hyd yn oed gyda phecynnau cymorth y llywodraeth a gostyngiad yn y cap pris ynni, bydd cleientiaid cyffredin Gofal a Thrwsio yn gwario 19% o’u hincwm ar gyfleustodau yn ystod gaeaf 2023-24, gan wario 15% o’u hincwm ar nwy a thrydan yn unig. Mae hyn yn rhoi ein cleient cyffredin mewn tlodi tanwydd, gan ei chael yn anodd gwresogi eu cartrefi i lefel foddhaol.
- Yn ein sampl o aelwydydd Gofal a Thrwsio a gysylltodd â’n gwasanaeth cyngor ynni 70+ Cymru, roedd 96% o aelwydydd yn byw mewn tlodi tanwydd. Mae cleientiaid Gofal a Thrwsio mewn risg neilltuol o oblygiadau iechyd cartrefi oer; mae 75% o farwolaethau ychwanegol y gaeaf yn bobl 75 oed a throsodd.
- Hyd yn oed gyda chynnydd yn y pensiwn gwladol yn unol â chwyddiant, dengys ein hamcangyfrif fod pobl hŷn yn dal i wario cyfran uwch o’u hincwm ar filiau cyfleustodau o gymharu â lefelau 2021/2022. Mae ein cleientiaid hefyd yn ymaflyd gyda chynnydd mewn costau eraill, tebyg i’r siopa bwyd wythnosol cyfartalog sydd wedi codi gan 28% ers 2021.
Nid yw pecynnau cymorth y llywodraeth yn ddatrysiad parhaol i helpu pobl i aros allan o dlodi tanwydd; mae angen datrysiadau hirdymor i gadw pobl hŷn yn gynnes yn eu cartrefi, atal salwch cysylltiedig ag oerfel a mwy o bobl yn gorfod mynd i ysbyty.