Posted: 30.06.2022
Author: jack
Roedd angen gwaith i’w gartref ac roedd wedi ceisio ei foderneiddio yn ddiweddar. Fodd bynnag, oherwydd y costau uchel, ni fedrodd orffen y gwaith.
Heb unrhyw wres canolog, cysylltodd â Nyth i holi os oedd yn gymwys i foeler newydd gael ei gosod. Fe wnaethant ei asesu a’i gynghori i gysylltu â Gofal a Thrwsio Bae Gorllewinol gyda rhestr o’r gwaith oedd ei angen cyn y gallent ddechrau ar y gwaith gosod.
Magu Ymddiriedaeth
Ymwelodd Swyddog Technegol Gofal a Thrwsio, fodd bynnag roedd Mr Taylor yn mynnu ei fod yn berson annibynnol iawn ac y gallai ofalu amdano’i hun. Gallodd y Swyddog Technegol ganfod fod problem gyda’r sil uwchben y drws blaen lle’r oedd crac wedi datblygu gan adael i ddŵr ddod i mewn yn ymyl y bwrdd ffiwsiau, oedd yn aml yn tripio. Yn anffodus, roedd Mr Taylor yn anghytuno gyda’r asesiad ac yn mynnu nad oedd problem uwchben y drws na’r gwaith trydan gan ei fod wedi ei drwsio ei hun. Ar ôl peth darbwyllo, caniataodd i waith gael ei wneud ar y drychiad blaen.
Aeth Mr Taylor wedyn drwy gyfnod o beidio ateb ein galwadau. Fodd bynnag, ar ôl peth amser, yn araf cynyddodd ei hyder yn y bobl oedd yn ceisio ei helpu, gan olygu y gallai’r gwaith ailddechrau. Unwaith y cwblhawyd y gwaith, roedd Mr Taylor yn ymddiried ynom a gallodd gysylltu â ni am broblem arall yr oedd yn ei chael: roedd pibell ddŵr yn gollwng ac wedi dymchwel y nenfwd. Fe aethom yn ôl i’w gartref a mynd i’r afael â’r broblem ar unwaith.
Mae pob cleient yn wahanol, ond mae Gofal a Thrwsio yn gwybod fod magu ymddiriedaeth yn allweddol i fedru cefnogi pobl mewn modd holistig. Esboniodd Gweithiwr Achos Gofal a Thrwsio Bae Gorllewinol: “Wyddom ni byth beth yw holl broblemau cleient nes i ni ymweld â nhw yn eu cartref. Rydym yn gweithio gyda’r cleient i fagu ymddiriedaeth dros gyfnod, gan fod yno i’w cefnogi a’u cynghori. Cawn lawer iawn o fodlonrwydd swydd pan welwn y gwahaniaeth y mae ein help yn ei wneud”.
Ariannu’r Gwaith
I gwblhau’r gwaith dechreuol yn yr annedd gallasom sicrhau cyllid o’r Gronfa Gofal Integredig, Grant Cartrefi Iach yn ogystal â’r Grant Gofal Sylfaenol oedd yn ddigon am y rhan fwyaf o’r costau. Cafodd y gweddill ei dalu gan Grant Cysur, Diogelwch a Sicrwydd Cyngor Abertawe. Roedd hyn yn golygu nad oedd yn rhaid i Mr Taylor gyfrannu at ddim o’r gwaith a wnaed gan ein contractwyr. Cafwyd costau’r contractwr ar gyfer y bibell ddŵr yn gollwng a’r difrod i’r nenfwd hefyd drwy wneud cais i’r Grant Pwysau Gaeaf gan Care & Repair Cymru.
Unwaith y gorffenwyd y gwaith, fe wnaeth ein Swyddog Ynni Cartref gefnogi Mr Taylor gyda chais newydd i Nyth a chafodd y boeler ei osod.
Cafodd mynediad i gyllid effaith gadarnhaol fawr ar lesiant, ansawdd bywyd yn ogystal â iechyd meddwl Mr Taylor.
“Roedd yr holl staff yn dda iawn”
Cysylltodd Mr Taylor â ni nifer o weithiau i ymddiheuro am y ffordd yr oedd wedi oedi a gwrthod ein help i ddechrau oherwydd ei lefelau pryder. Rydym i gyd yn falch iawn i fod wedi sicrhau ymddiriedaeth cleient arall.
Dywedodd Mr Taylor: “Roedd yr holl staff yn dda iawn. Mae’r gwaith hwn yn bwysig, hebddyn nhw gellid cymryd mantais ar yr henoed. Mae’r elusen yma’n haeddu’r holl ganmoliaeth a gânt. Da iawn chi!”
– Radek Maciaszek
Nodyn: cafodd enwau eu newid a ffotograffau eu golygu i warchod hunaniaeth ein cleientiaid.