Mae Liz Truss wedi cyhoeddi Gwarant Pris Ynni, a gaiff hefyd ei alw yn rhewi prisiau, a ddaw i rym ar 1 Hydref. Ond beth mae hyn yn ei olygu?

Beth yw’r Warant Pris Ynni?

Mae’n warant na fydd cyflenwyr ynni yn codi mwy na phris gosod fesul uned (neu awr kilowat/kWh) am ddefnydd ynni ar eu cwsmeriaid. Bydd y warant yn parhau am 2 flynedd a bydd yn ei lle o 1 Hydref 2022 i 30 Medi 2024.

Gan y bydd y cynnydd mewn prisiau ynni yn dal i ddigwydd ym mis Hydref 2022 ond ni fydd unrhyw gynnydd pellach mewn prisiau cyn 30 Medi 2024.

A gaiff fy miliau eu cyfyngu i £2,500?

Yn fyr, na. Nid yw’n gwarantu uchafswm biliau o £2,500 fesul aelwyd y flwyddyn. Gallai rhai pobl dalu llai na £2,500 y flwyddyn ar eu biliau ynni cartref, bydd rhai pobl yn talu mwy. Mae hyn oherwydd nad oes uchafbwynt ar eich bil, ond ar gost yr uned y gallech ei defnyddio. Felly, po fwyaf o ynni a ddefnyddiwch, y mwyaf y byddwch yn ei dalu.

Nid yw chwaith yn disodli’r cynnydd pris ynni oedd ar y gweill ym mis Hydref, a bydd hynny yn dal i ddigwydd. Bydd y Warant Pris Ynni yn digwydd ar yr un pryd â’r cynnydd mewn prisiau, a dylai leihau effaith lym y cynnydd mewn costau ynni, yn arbennig y rhai oedd i ddod ym mis Ionawr 2023.

Beth mae hyn yn ei olygu i fi?

Ni fydd y pris y gall cyflenwr ynni ei godi am yr ynni y mae’n ei gyflenwi yn newid rhwng 1 Hydref 2022 a 30 Medi 2024.

Caiff ynni ei fesur mewn oriau kilowat (kWh). Yr uchafswm prisiau a warentir fesul kWh o 1 Hydref yw [ii]:

Trydan Nwy
Tariff amrywiol safonol 34p 10.3p
Tariffau sefydlog* -17p -4.2p

*Os ydych eisoes wedi clymu i dariff sefydlog, sy’n:

uwch na 34c fesul kWh ar gyfer trydan, bydd eich cyflenwr yn gostwng tariff gan 17c fesul kWh
uwch na 10.3c fesul kWh ar gyfer nwy, bydd eich cyflenwr yn gostwng y tariff gan 4.2c fesul kWh
Bydd costau sefydlog o 1 Hydref 2022 yn parhau ar y cynnydd a fwriadwyd i 46c fesul diwrnod ar gyfer trydan a 28c fesul diwrnod ar gyfer nwy.

A oes angen i mi wneud unrhyw beth?

Nid oes angen i gwsmeriaid ynni wneud unrhyw beth – caiff unrhyw newidiadau eu gosod yn awtomatig gan gyflenwyr.

Os nad ydych ar y grid, er enghraifft yn byw mewn cartref parc neu’n rhan o rwydwaith gwres, mae’r cynllun yn gwarantu mynediad i chi i gronfa ddewisol. Disgwyliwn fanylion (12 Medi 2022)

Cafodd cyflenwyr saib ar yr ardoll a dalant fel arfer i Lywodraeth y Deyrnas Unedig (Cyfraddau Newid Hinsawdd – GOV.UK (www.gov.uk)) a chaiff holl gyflenwyr ynni y Deyrnas Unedig gymhorthdal gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig am y costau ychwanegol a gânt o’r warant pris ynni.

Ble gallaf ganfod os yw’n effeithio arnaf fi?

Edrychwch ar eich biliau ynni diweddaraf i wirio’r gyfradd kWh a’r gyfradd tâl sefydlog y byddwch yn ei dalu o 1 Hydref 2022. Os yw’r cyfraddau a gawsoch yn uwch na’r cyfraddau a restrir yn y tabl uchod, bydd y warant pris ynni yn gostwng y swm y disgwylir i chi dalu fesul kWh.

Gallwch gysylltu â’ch cyflenwr ynni os oes angen i chi.

Mae Swyddogion Ynni Cartref penodol gan Gofal a Thrwsio a all eich helpu i ddeall eich biliau a helpu i gadw eich cartref yn ddiogel. Gallwch gysylltu naill ai â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio neu â Jo Harry: Jo.harry@careandrepair.org.uk neu drwy ffonio: 07375 205005

Amcangyfrif biliau blynyddol yn ôl mathau eiddo

Mae’r bil o £2,500 y flwyddyn yn gyfartaledd cyffredinol ar draws yr holl wlad. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi dadansoddiad pellach o amcangyfrifon yn defnyddio gwybodaeth am ddefnydd ynni aelwydydd cyfartalog yn 2019 i baratoi’r canllawiau hyn. Dan Warant Prisiau Ynni Llywodraeth Cymru, mae’n debyg y bydd y biliau cyfartalog blynyddol yn:

Cyfartaledd pob annedd: £2,500

Cyfartaledd pob tŷ: £2,650

Cyfartaledd pob fflat: £1,750

Tŷ ar wahân: £3,300

Tŷ pâr: £2,650

Tŷ pen teras: £2,450

Tŷ canol teras: £2,350

Byngalo: £2,450

Fflat wedi’i throsi: £1,950

Fflat pwrpasol: £1,750

Ble gallaf gael help os wyf yn bryderus am fy miliau ynni yn y gaeaf?

Gwneud yn siŵr eich bod yn derbyn y taliadau cymorth ariannol costau byw y mae gennych hawl iddynt, yn defnyddio ein canllawiau i gymorth ariannol costau byw.
Cysylltu â’n gwasanaeth 70+ Cymru neu Jo Harry Rheolwr, 70+ Cymru Jo.harry@careandrepair.org.uk 07375 205005 a all eich rhoi mewn cyswllt gyda’ch Swyddog Ynni Cartref lleol., Gallwch hefyd:
Cysylltu â’ch cyflenwr ynni. Os nad ydych yn sicr pwy yw hynny, gallwch wirio yma: Canfod eich cyflenwr ynni neu weithredwr rhwydwaith | Ofgem
Gwasanaeth Arian a Phensiynau: Beth i’w wneud am y cynnydd mewn biliau ynni | MoneyHelper
Gwirio os gallwch gynilo ar eich biliau dŵr: Cymorth gyda biliau | Dŵr Cymru (dwrcymru.com)
Os oes gennych bryderon dyled, dewch o hyd i gynghorydd ar ddyledion: Defnyddio ein canfyddwr cyngor dyledion | MoneyHelper
Dalen ffeithiau Nyth ar ddyledion ynni gyda gwybodaeth ar help cyflenwyr ar gyfer cwsmeriaid sy’n profi caledi: support-for-those-in-energy-de-5ac614799537c.pdf (gov.wales)
Mynd i’ch Canolfan Cyngor ar Bopeth: Chwilio am eich canolfan leol Cyngor ar Bopeth – Citizens Advice
Cyngor ar Bopeth ar-lein: Eich cyflenwad ynni – Cyngor ar Bopeth

[i] Energy bills support factsheet: 8 September 2022 – GOV.UK (www.gov.uk)

[ii] Energy bills support factsheet: 8 September 2022 – GOV.UK (www.gov.uk)

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.