Posted: 10.10.2024
Author: jack
Gall y Nadolig fod yr amser gorau o’r flwyddyn i lawer o bobl. Ond gall hefyd fod yn gyfnod anodd, yn arbennig ar gyfer pobl sy’n teimlo’n unig neu’n ynysig. Dyna pam fod Gofal a Thrwsio wedi cydweithio gyda Age Cymru ac Age Connects Cymru eleni i ledaenu peth o hwyl yr ŵyl drwy Apêl Blwch Rhodd Age Cymru.
Nid yw’n rhaid i’r rhoddion fod yn ddrud, a chewch chi benderfynu beth i’w gynnwys. Efallai y byddwch am feddwl am addurno eich parsel, efallai gydag ychydig o bapur lapio’r Nadolig neu gynlluniau tymhorol eraill. Gallai fod yn weithgaredd y gall yr holl deulu gymryd rhan ynddo. Gofynnir i chi beidio selio’r blychau gan y bydd angen i ni wirio’r cynnwys. Gallwch ddefnyddio llinyn neu fand rwber i gadw’r caead yn ei le.
Gallwch gymryd rhan yn Apêl Blwch Rhodd Age Cymru gyda’r pedwar cam syml yma:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu angen help gydag unrhyw beth ar y dudalen hon, cysylltwch â David Jones: 029 2010 7580, david.jones@careandrepair.org.uk.
Edrychwch ar dudalen gwefan Apêl Blwch Rhodd Age Cymru i weld awgrymiadau gwych. Mae Gofal a Thrwsio yn neilltuol o hoff o’r syniad o gynnwys rhywbeth a all helpu i gadw person hŷn yn gynnes, nid dim ond adeg y Nadolig ond drwy gydol misoedd y gaeaf. Mae sgarffiau, hetiau, menig neu sanau clud bob amser yn anrhegion poblogaidd neu gallech ystyried un o’r llu o ddyfeisiau rhad sydd nawr ar gael tebyg i dwymwyr dwylo, mewnwadnau cynnes ar gyfer esgidiau neu lawes insiwleiddio i gadw diodydd yn dwym.
Mae rhai pethau na fedrwn eu derbyn yn y parseli. Yn arbennig, gofynnir i chi gofio na allwn gynnwys eitemau sydd wedi’u defnyddio neu ail law yn y blychau rhodd. Hefyd gofynnir i chi beidio rhoi unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch eich hun er fod croeso cynnes i chi gynnwys neges neu gerdyn Nadolig fel rhan o’ch rhodd.
Beth am rannu eich lluniau o’ch Blychau Rhodd ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio hashnod #ApêlBlwchRhodd #GiftBoxAppeal.
Dylid nodi mai’r dyddiad cau ar gyfer dosbarthu i’r cyfeiriadau isod yw 6 Rhagfyr 2024.
Abertawe
Gofal a Thrwsio Bae Abertawe, Llys Tawe Complex,Stad Ddiwydiannol Players, Clydach, Abertawe, SA6 5BQ (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 01792 798599
Bangor
Gofal a Thrwsio Gwynedd a Môn, Uned 8/9, Llys y Fedwen, Parc Menai, Bangor, Gwynedd LL57 4BL (Dolen Map Google)
Rhif ffôn: 01286 889360
Caerdydd
Care & Repair Cymru, Llawr 1af, Tŷ Mariners, Trident Court, Heol East Moors, Caerdydd CF24 5TD (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 02920 107580
Casnewydd
Gofal a Thrwsio Casnewydd, Tŷ Exchange, Stryd Fawr, Casnewydd NP20 1AA (dolen Google Map )
Rhif ffôn: 01633 233887
Coed-duon
Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Chaerffili, Uned 1A-1B, Parc Busnes Foxes Lane, Oakdale, Coed Duon NP12 4AB (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 01495 321091
Ferndale
Gofal a Thrwsio Cwm Taf, 38-39 Stryd Dyffryn, Ferndale, Rhondda Cynon Taf CF43 4ER (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 01443 755696
Llanelwy
Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych, Uned 10/11 Ffordd Richard Davies, Parc Busnes Llanelwy, Llanelwy, Sir Ddinbych, LL17 0LJ (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 0300 111 2120
Llanelli
Gofal a Thrwsio Sir Gaerfyrddin, 3 Eastgate, Llanelli, Sir Gaerfyrddin SA15 3YF (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 01554 744300
Pen-y-bont ar Ogwr
Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, Avon Court, Heol y Bontfaen, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 3SR (dolen Google Map)
Rhif ffôn: 01656 646755
Pont-y-pŵl
Gofal a Thrwsio Sir Fynwy a Thorfaen, S2, Sycamore Suite, Tŷ Caerleon, Stad Parc Mamhilad, Pont-y-pŵl NP4 0HZ (dolen Google Map )
Rhif ffôn: 01495 745936
Mae gan Age Cymru ac Age Connects hefyd safleoedd lle gallwch anfon eich blychau rhodd. Cliciwch ar y botwm isod i fynd i dudalen gwefan Apêl Blwch Rhodd Age Cymru gyda mwy o wybodaeht a mwy o leoliadau gadael.
Os oes gennych fwy o gwestiynau am Apêl Blwch Rhodd Age Cymru, cysylltwch â David Jones:029 2010 7580 david.jones@careandrepair.org.uk