Posted: 10.10.2025
Author: sarah
Gall y Nadolig fod yn amser gorau y flwyddyn i lawer o bobl. Ond gall hefyd fod yn gyfnod anodd, yn arbennig i bobl sy’n teimlo’n unig neu ar ben eu hunain. Dyna pam fod Gofal a Thrwsio yn lledaenu ychydig o ysbryd yr Ŵyl eleni drwy ein Apêl Blwch Rhoddion.
Nid yw’n rhaid i’r rhoddion fod yn ddrud, a chi sydd i benderfynu beth i’w gynnwys. Efallai yr hoffech addurno eich parsel, efallai gyda phapur lapio Nadolig neu gynllun tymhorol arall. Gall hyn fod yn weithgaredd y gall yr holl deulu ymuno ynddo. Gofynnir i chi beidio selio’r blychau gan y bydd angen i ni weld y cynnwys, ond defnyddiwch linyn neu fand rwber i gadw’r caead yn ei le.
Gallwch gymryd rhan yn Apêl Blwch Rhodd Nadolig Gofal a Thrwsio gyda’r pump cam syml hyn:
• Dod o hyd i flwch esgidiau a lapio’r blwch a’r caead ar wahân mewn papur Nadolig.
• Llenwi’r blwch esgidiau gyda rhoddion.
• Peidiwch â selio’r blwch. Rhowch y caead arno a defnyddio band elastig i’w gadw yn ei le.
• Rhowch label yn nodi os yw’ch blwch a gyfer dyn, menyw neu y naill neu’r llall.
• Mynd ag ef draw i’ch swyddfa Gofal a Thrwsio leol.
Syniadau ar gyfer eich Blwch Rhodd
Mae Gofal a Thrwsio yn arbennig o hoff o’r syniad o gynnwys rhywbeth a all helpu i gadw person hŷn yn dwym drwy gydol misoedd y gaeaf ac nid dim ond y Nadolig. Mae sgarffiau, hetiau, menig neu sanau clud bob amser yn rhoddion poblogaidd neu gallech ystyried un o’r llu o declynnau sydd bellach ar gael yn rhad i gadw dwylo yn gynnes, gwadnau wedi’u gwresogi neu lawes i gadw diodydd yn dwym.
Mae rhai pethau na allwn eu derbyn yn y parseli. Yn arbennig, gofynnir i chi gofio na allwn gynnwys eitemau sydd wedi ei defnyddio neu eitemau ail law yn y blychau rhodd. Gofynnir i chi hefyd beidio cynnwys unrhyw wybodaeth bersonol amdanoch eich hun er fod croeso mawr i chi gynnwys neges neu gerdyn Nadolig fel rhan o’ch rhodd.
Beth am rannu lluniau o’ch Blychau ‘Rhodd ar y cyfryngau cymdeithasol yn defnyddio hashnod #ApelBlwchRhodd #GiftBoxAppeal.
Noder mai’r dyddiad cau ar gyfer dosbarthu i’r cyfeiriadau isod yw dydd Gwener 12 Rhagfyr 2025.
Aberdare
Age Connects Morgannwg, Cynon Linc, Seymour Street, Aberdare, CF44 7BD (Google Map Link)
Bangor
Gofal a Thrwsio Gwynedd & Môn, Tý Silyn, Penygroes, Caernarfon, Gwynedd, LL54 6LY (Google Map link) Phone number: 01286 889360
Blaenau Gwent & Caerphilly
Blaenau Gwent & Caerphilly Care & Repair, Unit 1A-1B, Foxes Lane, Business Park Oakdale, Blackwood NP12 4AB
Phone number: 01495 321091
Bridgend
Care & Repair Bridgend, Avon Court, Cowbridge Road, Bridgend CF31 3SR (Google Map link)
Phone number: 01656 646755
Cardiff
Care & Repair Cymru, Mariners House, East Moors Road, Cardiff, CF24 5TD. (Google Map Link)
Phone number: 029 2010 7580
Age Connects Cardiff and the Vale, Unit 10, Sbectrwm, Bwlch Road, Fairwater, Cardiff CF5 3EF (during working hours) (Google Map Link)
Ferndale
Care & Repair Cwm Taf, 38-39 Duffryn Street, Ferndale, Rhondda Cynon Taf CF43 4ER (Google Map link)
Phone number: 01443 755696
Llanelli
Care & Repair Carmarthenshire, 3 Eastgate, Llanelli, Carmarthenshire SA15 3YF (Google Map link)
Phone number: 01554 744300
Newport
Care & Repair Newport, Exchange House, High Street, Newport NP20 1AA (Google Map link)
Phone number: 01633 233887
Newtown
Care & Repair in Powys, Tŷ Canol, Ffordd Croesawdy, Newtown, Powys, SY16 1AL (Google Map Link)
Phone number: 01686 620760
Pontypool
Care & Repair Monmouthshire and Torfaen, S2, Sycamore Suite, Caerleon House, Mamhilad Park Estate, Pontypool NP4 0HZ (Google Map link)
Phone number: 01495 745936
Age Connects Torfaen, The Widdershins Centre, East Avenue, Sebastopol, Pontypool NP4 5AB. (drop off Monday – Friday during working hours). (Google Map Link)
St Asaph
Conwy and Denbighshire Care & Repair, Unit 10/11 Ffordd Richard Davies, St Asaph Business Park, St Asaph, Denbighshire LL17 0LJ (Google Map link)
Phone number: 0300 111 2120
Swansea
Care & Repair Western Bay, Llys Tawe Complex, Players Industrial Estate, Clydach, Swansea, SA6 5BQ (Google Map link)
Phone number: 01792 798599
Mwy o wybodaeth
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Apêl Blwch Rhodd, cysylltwch â 029 2010 7580 neu e-bost giftboxappeal@careandrepair.org.uk