Posted: 22.08.2023
Author: jack
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth BBC Wales Today gydnabod ein gwaith, gan ddefnyddio eu rhaglen newyddion nosweithiol i roi adroddiad am ein cais i Lywodraeth Cymru gyflwyno grant rhwyd diogelwch trwsio tai i bobl hŷn sydd wedi cyrraedd y pen o ran gwella cyflwr eu cartref.
Bu gohebydd BBC Wales, Siôn Pennar, yn siarad â chleient Gofal a Thrwsio, Tony, o ardal Llandudno, sydd wedi bod yn aros am lawdriniaethau ar ei bengliniau.
“Nid un pen-glin ydi’r broblem, mae’r ddau yn ddrwg… hyd hynny mae’n rhaid i mi ymdopi gyda’r ddau, felly yn sicr roedd yn rhaid i mi wneud addasiadau yn y tŷ. Oherwydd roedd yr hyn oedd yn lle diogel unwaith, yr oeddwn yn ei gymryd yn ganiataol wedi mynd yn lle allai fod yn beryglus iawn.”
Er y gallwn yn aml helpu pobl fel Tony, sydd wedi cael canllawiau gan Gofal a Thrwsio, rydym yn gweld nifer gynyddol o bobl hŷn yn byw mewn tai anaddas na allwn eu helpu.
Yn aml nid yw pobl hŷn ar incwm isel yn gallu ariannu gwaith trwsio, ac ers y pandemig, mae materion brys heb eu datrys yn cynyddu.
Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru wrth y rhaglen “mae bwlch mawr o ran arian a pholisi i bobl sydd angen help i daclo diffyg trwsio difrifol yn eu heiddo, felly rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno grant rhwyd diogelwch i helpu’r bobl hŷn hynny ag incwm isel nad oes ganddyn nhw unrhyw le arall i droi.”
“Os gwnawn ni atal damweiniau a salwch oherwydd tai gwael, yna bydd hynny yn arbed tua £100 miliwn i’r GIG mewn costau triniaethau yn unig bob blwyddyn.”
Nid yw Gofal a Thrwsio yn derbyn y dylai unrhyw berson hŷn:
Byddwn yn parhau i weithio tuag at sicrhau y bydd y bobl hŷn yng Nghymru i gyd yn byw mewn cartref cynnes, diogel a chyfleus trwy alw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno grant rhwyd diogelwch ar gyfer gwaith trwsio brys.
Gallwch wylio adroddiad llawn y BBC yma.
Neu gwrandwch ar ein cyfweliadau ar radio’r BBC isod neu trwy glicio yma am y Saesneg ac yma ar gyfer y Gymraeg.