Manyleb Swydd

Asiantaeth: Conwy and Denbighshire Care & Repair 

Lleoliad: St Asaph

Cyflog: £22,057 - £23,809 per annum pro rata

Oriau: 21 hours per week

Dyddiad cau: 08/05/2025

Am y Swydd

Diolch am eich diddordeb yn y swydd Gweinyddydd Swyddfa

Byddwch yn ymgymryd â thasgau gweinyddol sy’n sicrhau fod y gwasanaeth yn cael ei redeg yn llyfn a chysylltu gyda chleientiaid, contractwyr ac asiantaethau cyfeirio i sicrhau fod y gwasanaeth yn cael ei gyflenwi yn effeithlon ac effeithiol.

Y weledigaeth ar draws mudiad Gofal a Thrwsio cyfan yw bod holl bobl hŷn yn byw mewn cartrefi sy’n gwella ansawdd eu bywyd.

Mae Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn sicrhau bod anghenion pobl hŷn neu bobl fregus yn aros yn ganolog i ddarpariaeth ein gwasanaethau a’i bod yn parhau i dderbyn gwasanaeth holistic “dal dwylo” ardderchog sydd ar gael am hyd oes y cleient. Rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth â sefydliadau statudol a gwirfoddol eraill â chyfeirio ar draws pob gwasanaeth.

Llinell strap ein Asiantaeth yw: “Gwell Cartrefi, Gwell Iechyd” sy’n cael ei gefnogi drwy ein datganiad o fwriad:-

“I alluogi pobl hŷn neu bregus  i barhau i fyw yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain yn saff, cyfforddus, cynnes a diogel”

Ac ein gweledigaeth yw i fod yn:-

Ddarparwr blaenllaw o wasanaethau arloesol sy’n; gwella ansawdd bywyd pobl hŷn neu fregus

Fe ddaeth Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych yn is-gwmni o Grŵp Cynefin ar y 1af o Orffennaf 2015:  Cwmni Cyfyngedig trwy Warant ac Elusen Cofrestredig.  Rydym yn cydymffurfio ag ymarfer da cydnabyddedig ac mae ganddynt bolisïau personél blaengar sy’n rhoi amodau gwaith teg a chyfeillgar i’r teulu.

Os oes gennych yr ysfa a’r angerdd i fod yn allweddol wrth wneud gwahaniaeth i ddyfodol pobl, hon yw’r swydd i chi.

Adnoddau

Cyfleoedd Swydd eraill

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.