Manyleb Swydd

Asiantaeth: Care & Repair Cymru

Lleoliad: Caerdydd

Cyflog: £16,205

Oriau: 21 awr yr wythnos

Dyddiad cau: 08/07/2024

Am y Swydd

Gan adrodd i’n Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol, byddwch yn rhoi cefnogaeth i ni redeg a gwella llawer o’n swyddogaethau swyddfa gefn a gweinyddol. Rydym yn edrych am rywun gydag egni, syniadau ac agwedd gadarnhaol, gallu gwneud. Byddwch yn ymuno â ac yn cyfrannu at dîm blaengar o bobl a sefydliad sy’n gwella bywydau miloedd o bobl hŷn bregus bob blwyddyn.

Prif ddiben

  • Darparu cefnogaeth i’r Tîm Gwasanaethau Corfforaethol, gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol a chydweithwyr eraill.
  • Cefnogi’r Rheolwr Gwasanaethau Corfforaethol a Thîm Prosiect Cynadleddau wrth gynllunio trefniadau ar gyfer Cynhadledd Flynyddol Gofal a Thrwsio.
  • Cefnogi’r Rheolwr Cyllid gyda gweinyddiaeth cyllid dyddiol.
  • Monitro a darparu adroddiadau ar ddefnydd y rhif ffôn 0300 ar draws Care & Repair Cymru ac Asiantaethau Gofal a Thrwsio.
  • Darparu cefnogaeth weinyddol a chefnogaeth arall i’r gwaith ehangach o fewn Care & Repair Cymru fel sydd angen ac yn ôl cyfarwyddyd staff uwch, yn cynnwys ateb galwadau ffôn.

Sut i Wneud Cais

Am becyn cais gweler y dolenni lawrlwytho isod. Dychwelwch y ceisiadau at Louise Parry, Uwch Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol louise.parry@careandrepair.org.uk erbyn dydd Llun 8 Gorffennaf, 12pm


Sylwch nad ydym yn derbyn CV’s.

Adnoddau

Pecyn Swydd

Hysbysiad Preifatrwydd Ymgeiswyr Swydd

Cyfleoedd Swydd eraill

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.