Aiff y canllawiau hyn â chi drwy bob un o’r mesurau gwahanol o gymorth sydd ar gael i chi.

Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Cymru

Faint?

£200

Pwy sy’n gymwys?

Pobl sy’n gyfrifol am dalu biliau ynni cartref ac sy’n derbyn un o’r budd-daliadau dilynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceiswyr Gwaith seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth
  • Credyd Cynhwysol
  • Credydau Treth Gwaith
  • Credyd Pensiwn
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gofalwyr
  • Budd-daliadau Cyfranogol
  • Cynllun Gostwng Treth Gyngor

Sut fyddaf yn ei dderbyn?

Bydd angen i chi wneud cais i’ch awdurdod lleol o 26 Medi 2022. Gall pob awdurdod lleol fod â gwahanol drefniadau ar gyfer prosesu ceisiadau.

Pryd fyddaf yn ei gael?

Hydref/Gaeaf 2022/23. Bydd gan bob awdurdod lleol ei amserlen ei hun a gallant adael i chi wybod y manylion pan wnewch gais. Cliciwch yma i ganfod eich awdurdod lleol.

Mae hwn yn daliad unigol o £200 i roi cymorth tuag at dalu biliau tanwydd y gaeaf. Mae hyn yn ychwanegol at y taliad tanwydd gaeaf a gynigir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Bydd y taliad ar gael i bob cwsmer ynni sy’n gymwys, sut bynnag y maent yn talu am danwydd. Mae hyn yn cynnwys taliadau a wneir ar fesurydd blaendalu, drwy ddebyd uniongyrchol, talu’n chwarterol neu ar gyfer rhai sy’n defnyddio tanwydd heb fod ar y grid. Mae’r cynllun hwn yn rhan o becyn cymorth £90m gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â phwysau uniongyrchol ar gostau byw.

Cynllun Cymorth Biliau Ynni

Faint?

£400

Pwy sy’n gymwys?

Pob person sydd â chyfrif trydan domestig.

Sut y byddaf yn ei dderbyn?

Yn awtomatig gan eich cyflenwr.

Pryd?

At some point between October 2022 and March 2023.

Rywbryd rhwng mis Hydref 2022 a mis Mawrth 2023.

Bydd pob cwsmer trydan domestig, sydd â chyfrif trydan yn eu henw, yn derbyn £400 yn uniongyrchol gan eu cyflenwr trydan. Bydd cyflenwyr trydan yn rhoi’r credyd o £400 yn awtomatig yn dibynnu ar sut ydych yn talu. Os oes gennych fesurydd blaendalu, bydd eich cyflenwr trydan yn ychwanegu £400 o gredyd at y mesurydd neu’n rhoi taleb i chi; os ydych yn talu drwy ddebyd uniongyrchol neu’n talu biliau chwarterol, bydd eich cyfrif trydan yn derbyn credyd o £400. Mae’r credyd hwn o £400 yn cymryd lle’r benthyciad gwreiddiol o £200 a gyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gynharach eleni. Ni fydd angen i chi ad-dalu’r £400.

Taliad Tanwydd Gaeaf

Faint?

£250 – £600 (varies depending on circumstances)

Pwy sy’n gymwys?

Pobl a gafodd eu geni cyn 25 Medi 1956

Sut y byddaf yn ei dderbyn?

I’ch cyfrif banc

Pryd?

Yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr 2022 (os ydych wedi ei gael o’r blaen, byddwch yn ei gael yn awtomatig. Os nad ydych wedi ei dderbyn o’r blaen, bydd angen i chi wneud hawliad – mae mwy o wybodaeth ar hyn islaw).

Mae swm y taliad yn amrywio o berson i berson yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae’n ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar fudd-daliadau eraill. Bydd y cyfanswm taliad a dderbyniwch yn cynnwys y taliad unigol costau byw i bensiynwyr (gweler islaw). os nad ydych wedi derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen bydd angen i chi wneud hawliad. Gallwch gysylltu â’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf drwy ffonio 0800 731 0160 neu drwy’r post: Winter Fuel Payment Centre, Mail Handling Site A, Wolverhampton WV98 1LR.

Medrir cael ffurflen hawlio ar-lein yma: Ffurflen Gais Taliad Tanwydd Gaeaf (publishing.service.gov.uk) Mae mwy o wybodaeth am y Taliad Tanwydd Gaeaf yma: Trosolwg Taliad Tanwydd Gaeaf – GOV.UK (www.gov.uk)

Taliad Unigol Costau Byw i Bensiynwyr

Faint?

£300

Pwy sy’n gymwys?

Pobl 66 oed neu uwch rhwng 19 a 25 Medi 2022.

Sut fyddaf yn ei dderbyn?

Yn awtomatig, drwy ddebyd uniongyrchol mae’n debyg

Pryd?

Tachwedd/Rhagfyr 2022

Mae’r taliad hwn yn ychwanegiad unigol at y Taliad Tanwydd Gaeaf blynyddol. Mae’n ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar unrhyw fudd-daliadau y gall pobl fod yn eu derbyn. Os ydych eisoes yn derbyn Taliad Tanwydd Gaeaf, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedignyn ychwanegu’r Taliad Unigol Costau Byw Pensiynwr ato y gaeaf hwn. os nad ydych yn derbyn y Taliad Tanwydd Gaeaf ond y cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1956 gallwch hawlio dros y ffôn neu drwy’r post (mae rhai amodau).

Taliad Costau Byw

Faint?
£650

Pwy sy’n gymwys?

Pob aelwyd sy’n derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau hyn:

  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Cynhwysfawr
  • Lwfans Ceiswyr Swydd seiliedig ar incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth cysylltiedig ag incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Treth Gwaith
  • Credyd Treth Plant

Sut y byddaf yn ei dderbyn?

Mewn dau ran-daliad, yn awtomatig i’r cyfrif lle telir eich budd-dal.

Pryd?

Rhandaliad cyntaf ym mis Gorffennaf, ail randdaliad yn hydref 2022.

Mae’r taliad hwn yn ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar hawliadau neu dderbyniadau budd-dal presennol. Mae manylion yn dal i gael eu cwblhau ac mae’n bwysig nodi fod rhai cyfyngiadau ar gymhwyster. I dderbyn y rhandaliad cyntaf, mae’n rhaid i chii naill ai fod wedi bod â hawliad byw ar 25 Mai 2022 neu fod wedi cael cais ar 25 Mai 2022 a ddaeth yn llwyddiannus wedyn.

Taliad Costau Byw Anabledd

Faint?

£150

Pwy sy’n gymwys?

Pawb sy’n derbyn o leiaf un o’r budd-daliadau hyn:

  • Lwfans Byw i’r Anabl
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Lwfans Gweini
  • Budd-daliadau Anabledd yr Alban
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Sut fyddaf ei dderbyn?

Yn awtomatig yn y cyfrif lle caiff eich budd-dal ei dalu.

Pryd?

Mis Medi 2022

Mae hwn yn daliad unigol gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i bob person sy’n derbyn un o’r budd-daliadau uchod. Mae ar gyfer eich helpu i dalu am y costau byw ychwanegol a all fod yn wynebu pobl sy’n byw gydag anableddau. Os ydych yn derbyn budd-dal prawf modd ynghyd â budd-dal anabledd o’r rhestr uchod, caiff y Taliad Costau Byw Anabledd o £150 ei dalu yn ogystal â’r Taliad Costau Byw o £650. Mae’r taliad yn ddi-dreth ac ni fydd yn effeithio ar hawliadau neu dderbyniadau budd-dal presennol. I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi naill ai fod wedi bod â hawliad byw am un o’r budd-daliadau uchod ar 25 Mai 2022 neu os oedd gennych gais byw ar 25 Mai 2022 sydd wedyn yn dod yn llwyddiannus.

Credyd Pensiwn

Mae gan filoedd o bobl yng Nghymru hawl i Gredyd Pensiwn ond heb sylweddoli hynny. Holwch os gwelwch yn dda, hyd yn oed os oes gennych hawl i swm bach, gall roi mynediad i fudd-daliadau eraill a’ch cefnogi gyda chostau byw dydd-i-ddydd.

Sut gallaf ganfod mwy?

  • Llinell gymorth Llywodraeth Cymru a Cyngor Ar Bopeth 0808 250 5700. Bydd cynghorydd yn gofyn rhai cwestiynau i chi yn gyfrinachol ac yn gwirio os oes gennych hawl i gredyd pensiwn a/neu fudd-daliadau eraill.
  • Gallwch wirio ar ba oed y mae gennych hawl i gredyd pensiwn yma: Gwirio eich oedran Pensiwn Gwladol – GOV.UK (www.gov.uk)
  • Gwnewch gais am Gredyd Pensiwn yma: Gwybodaeth y byddwch ei hangen i wneud cais ar-lein – Gwneud cais am Gredyd Pensiwn (apply-for-pension-credit.service.gov.uk)

Mwy o Help

Mae nifer o adnoddau annibynnol da ar gael os ydych yn ansicr os gallwch hawlio unrhyw un o’r budd-daliadau uchod. Dyma rai opsiynau:

Turn2Us

Turn2us Benefits Calculator – pob budd-dal. Yn bennaf gyfrifyddion ar-lein ond os na allwch ddefnyddio’r rhyngrwyd gallwch ffonio 0808 802 2000, 9.00 am – 5.00 pm dyddiau Llun-Gwener

Money Saving Expert

Benefits Calculator: What am I entitled to from the MoneySavingExpert pob budd-dal

Age Cymru

Pensions information from Age Cymru Llawer o gyngor a gwybodaeth ar-lein. Os na fedrwch ddefnyddio’r rhyngrwyd gallwch ffonio’r llinell gymorth 0300 303 44 98 (codir y gyfradd leol), 9:00am i 4:00pm dyddiau Llun – Gwener neu anfon e-bost at l Age Cymru yn advice@agecymru.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.