Dyma ddeg ffordd syml y gallech arbed ynni gartref, bob un am lai na £20.

Amserwyr soced gweithio â llaw

Energy saving plug timer.jpg

Mae’r amserwyr bach yma yn troi cyfarpar i ffwrdd yn y plwg fel nad oes yn rhaid i chi gofio gwneud. Gallwch osod yr amser i beth bynnag sy’n addas i chi. Gallai troi eich teledu i ffwrdd yn y soced gyda un o’r rhain arbed £30 y flwyddyn.

Cost arferol:: £4.99

Brand a argymhellwn: Defender – Solon Equipment

Bylbiau golau effeithiol o ran ynni

Energy saving bulb.jpg

Gallech arbed rhwng £3 a £6 fesul bwlb y flwyddyn drwy newid i fylbiau golau effeithiol. Maent yn dda i’ch poced ac yn dda i’r blaned.

Cost arferol: £5.99

Brand a argymhellwn: Status International

Goleuadau nos

Energy saving night light.jpg

Ydych chi’n gadael goleuadau ymlaen yn ystod y nos er mwyn eich diogelwch neu i gael sicrwydd? Wel, mae’r goleuadau nos yma yn rhai ynni isel – byddai eu defnyddio yn lle gadael golau mawr ymlaen drwy’r nos yn arbed arian ac ynni.

Cost arferol: £4.99

Brand a argymhellwn: Defender – Solon Equipment

Socedi plygiau o bell

Energy saving plug remote.jpg

Mae’r rhain fel amserwyr soced gweithio â llaw, ond yn cael eu rheoli o bell. Mae soced plwg o bell yn fwy hyblyg nag amserwr, maent yn arbennig o ddefnyddiol os ydych yn ei chael yn anodd plygu i ddefnyddio’r brif soced. Bonws, maent yn arbed ynni’r un fath.

Cost arferol: £5.99

Brand a argymhellwn: Status International

Brwshys blwch llythyrau

Energy saving letterbox brush.jpg

Gall brwshys syml o amgylch blwch llythyrau atal drafftiau a chynyddu cynhesrwydd. Cyngor da: efallai y gallech hefyd ddefnyddio’r brwshys o amgylch agoriadau atig. Mae atal drafftiau yn arbed arian.

Cost arferol: £9.99

Brand a argymhellwn: Stormguard

Tâp insiwleiddio

Energy saving draught excluder tape.jpg

Gellir defnyddio’r tâp syml a hyblyg hwn yn allanol mewn mannau gwlyb ac yn fewnol. Mae’n llenwi bylchau o amgylch drysau a ffenestri, gan atal drafftiau.

Cost arferol: £9.99

Brand a argymhellwn: Stormguard

Rhimynnau drafft drws

Energy saving draught excluder.jpg

Daw rhimynnau drafft mewn llawer o wahanol fathau a gallant fod y ffordd rwyddaf i atal eich gwres rhag dianc. Gallai atal drafftiau arbed E25 y flwyddyn i chi.

Cost arferol: £11

Brand a argymhellwn: Tesa

Ffoil rheiddiadur

Energy saving radiator foil.jpg

Paneli adlewyrchol sy’n mynd tu ôl i’ch rheiddiadur. Mae’r ffoil yn adlewyrchu gwres o’r rheiddiadur yn ôl i’r ystafell, gan ostwng colli gwres a’ch cadw yn gynhesach.

Cost nodweddiadol: £19.99 (3 sheets)

Brand a argymhellwn: Radflex

Larymau oer

Energy saving cold alarm.jpg

Mae’n well cadw eich cartref ar dymheredd cyson – os yw’r tymheredd yn gostwng gormod, gall eich system wresogi fod angen defnyddio llawer o ynni i godi’r tymheredd eto. Mae larwm oer yn rhoi cyfres o rybuddion gweledol a sain pan mae’r tymheredd yn eich cartref yn gostwng.

Cost nodweddiadol: £9.99

Brand a argymhellwn: Gti

Gobennydd yn y simnai

Energy saving chimmney baloon.jpg

Mae simnai yn sugno aer gynnes allan o’ch cartref Mae gobennydd yn y simnai (a caiff weithiau ei alw’n falŵn simnai) i atal y gwres rhag dianc – mae fel gwydr dwbl ar gyfer eich simnai.

Cost nodweddiadol: £14.99

Brand a argymhellwn: Stormguard

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.