Posted: 08.04.2025
Author: sarah
Nod ein ymgyrch Grant Rhwyd Ddiogelwch yw sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â chartrefi mewn cyflwr gwael iawn yng Nghymru. Rydym eisiau sicrhau y gall pobl hŷn sy’n byw mewn cartrefi y maen nhw eu hunain yn berchen arnynt gael y gwaith trwsio brys maent ei angen i fyw’n ddiogel ac annibynnol.
Mae tai mewn cyflwr gwael iawn yn achosi risg sylweddol i iechyd a diogelwch. Gall materion fel gwaith weirio hen, waliau llaith a lloriau anwastad arwain at ddamweiniau a phroblemau iechyd difrifol. Heb waith trwsio iawn, caiff pobl hŷn eu gadael yn byw mewn tai heb fod yn ddiogel, a all gael effaith niweidiol ar eu lles corfforol a meddyliol.
Os nad ydym yn sicrhau’r Grant Rhwyd Ddiogelwch, bydd llawer o bobl hŷn yn parhau i fyw mewn tai mewn cyflwr gwael. Bydd mân broblemau yn gwaethygu, gan arwain at beryglon fydd angen ymyriadau mwy helaeth a chostus. Yn ogystal â bod yn risg i fywyd, mae hyn hefyd yn rhoi pwysau mawr ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Cysylltodd Mrs Thomas â Gofal a Thrwsio oherwydd nad oedd ei goleuadau yn gweithio’n iawn. Pan gynhaliodd y gweithiwr achos Wiriad Cartrefi Iach, gwelwyd fod y weirio yn ei thŷ yn hen iawn ac mewn cyflwr gwael. Roedd olion llosgi ar y bwrdd ffiwsys ac ni fedrid defnyddio mwy nag un teclyn mawr ar yr un pryd. Nid oedd y goleuadau ar y llawr cyntaf yn gweithio ac roedd cyflwr y weirio mor wael fel ei fod yn cael ei ystyried yn berygl Categori 1, gan olygu y gallai achosi tân.
Gallodd gweithiwr achos Gofal a Thrwsio sicrhau £2,500 o gyllid dyngarol gan SSAFA (elusen Lluoedd Arfog). Fodd bynnag, roedd cyfanswm cost yr ailweirio yn £3,360 gan olygu fod diffyg o £860. Roedd hyn yn gadael Mrs Thomas yn byw mewn cartref nad oedd yn ddiogel. Byddai Grant Rhwyd Ddiogelwch wedi darparu’r arian oedd ei angen i orffen y gwaith, gan wella effeithiolrwydd ynni y cartref a chadw Mrs Thomas yn ddiogel.
Gallwch wneud gwahaniaeth drwy ymrwymo eich cefnogaeth i’r Grant Rhwyd Ddiogelwch. Helpwch ni i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru gartref iach a diogel.
Gyda’n gilydd, gallwn wella cartrefi a newid bywydau. Ymrwymwch eich cefnogaeth heddiw ac ymuno â ni wrth wneud gwahaniaeth. (Gallwch weld y rhestr o’r llofnodion cyfredol ar y dudalen hon.)