Posted: 23.07.2022
Author: jack
Mae Sheila yn ei 40au hwyr, ond mae’n byw ar ben ei hun ac yn dioddef o ganser sy’n cyfyngu bywyd, lupus a ffibromyalgia. I waethygu pethau ymhellach, mae ei chartref yn Sir y Fflint yn oer a llaith gyda llwydni ynddo – mae’r gwteri yn gollwng a’r drysau’n pydru.
Dywedodd Sheila, “Rwyf wedi cael diagnosis o gyflyrau sy’n bygwth bywyd dros y 5-6 mlynedd ddiwethaf. Gofal a Thrwsio oedd fy ngobaith olaf, ac roedd gofyn am help yn beth mawr i mi.”
Aeth Kathryn Massie, Gweithiwr Achos Gofal a Thrwsio Gogledd Ddwyrain Cymru, ati i gefnogi Sheila a chael gwaith trwsio i’w chartref i wneud yn addas iddi fyw ynddo. Dywedodd, “Ffoniodd mam Sheila ni ym mis Medi 2021 a gofyn os y gallem helpu. Byddai’n her oherwydd bod Sheila mor wael, ond rydym bob amser yn gwneud ein gorau glas i helpu pawb sy’n dod atom. Roedd yn arbennig o anodd i Sheila gan iddi golli ei thad ychydig fisoedd cyn hynny ac roedd ei gŵr wedi ei gadael pan gafodd ddiagnosis o ganser.”
Rhoddodd Kathryn gefnogaeth i Sheila ar y ffôn i ddechrau oherwydd ei fod yn ystod Covid. Roedd iechyd Sheila yn golygu ei bod yn fregus iawn, yn neilltuol gan ei bod yn derbyn triniaeth cemotherapi. Fodd bynnag gofynnodd Sheila a’i mam am ymweliad wyneb i wyneb. Dywedodd Kathryn, “Roeddwn yn bryderus am ymweld â hi yn ystod Covid. Ond rydyn ni’n mynd gyda’r hyn mae’r cleient ei eisiau ac fe wnes yn siŵr fod gen i PPE ac yn cadw pellter cymdeithasol. Mae’n rhaid i mi fod wedi bod yno am tua 3 awr yn ystod fy ymweliad cyntaf gan fod ganddon ni gymaint i’w drafod.”
Gwelodd Kathryn ar ei hymweliad cyntaf nad oedd gan Sheila unrhyw system wresogi, dim ond hen dân nwy yn ei hystafell fyw. Mae gwresogi da yn hanfodol i cael gwared â lleithder o’r tŷ, felly gwnaeth Kathryn atgyfeiriad i Nyth i osod gwres canolog nwy yn y tŷ.
Roedd angen atgyweirio’r gwteri i atal mwy o ddŵr rhag dod mewn ac achosi mwy o ddifrod. Ar gyfer hyn, fe wnaeth Kathryn ymestyn i gyngor Sir y Fflint am Grant Atgyweirio eiddo.
Roedd y drysau wedi pydru gormod i’w hatgyweirio ac ar ôl cael cyngor a dyfynbrisiau, gwnaeth Kathryn geisiadau am gyllid i dalu’r costau. Dywedodd Kathryn, “Oherwydd ei hoedran, gan ei bod dan 60, roedd yn arbennig o anodd i gael cyllid oherwydd na fedrem wneud cais am lawer o gyllid.”
Eto, nid dim ond cadw’r tŷ yn dwym oedd pryder Kathryn. Oherwydd anallu Sheila i symud yn rhwydd, roedd yn ei chael yn anodd camu i’r gawod. Aeth Kathryn ati i ganfod mwy o gyllid ar gyfer ystafell wlyb newydd.
Fedrai Sheila ddim credu’r gwahaniaeth a wnaeth y gwaith. Dywedodd, “Mae peidio byw mewn cartref llaith lle mae llwydni, gyda drysau sy’n fy ngadw’n dwym ac yn gostwng biliau gwresogi, a thawelwch meddwl gwybod na fydd fy nghartref yn gwaethygu, maent yn amhrisiadwy.”
Mae gwaith Kathryn yn golygu y gallodd Sheila gael:
Gwnaed y gwaith addasu’r ystafell ymolchi ym mis Mehefin 2022 a dyna’r darn olaf o waith. Roedd yn hollbwysig wrth alluogi Sheila i gymryd cawodydd yn ddiogel, yn ogystal â chadw ei hurddas a’i hannibyniaeth.
Dywedodd Sheila: “Mae’r gwaith wedi gwella fy mywyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, mewn llawer o ffyrdd. Ni wnaf byth anghofio’r holl garedigrwydd a gefais gan yr elusennau.”
Wrth edrych yn ôl ar y gwaith, dywedodd Kathryn “Rwy’n credu ei fod yn ganlyniad gwirioneddol dda. Fe ysgrifennodd lythyr hyfryd atom wedyn, ac roedd ei mam mor ddiolchgar hefyd.”
I ganfod sut y gall Gofal a Thrwsio eich helpu, cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol.
Cafodd enwau yn y stori eu newid er mwyn cadw cyfrinachedd.
“Mae’r gwaith wedi gwella fy mywyd, yn gorfforol ac yn feddyliol, mewn llawer o ffyrdd. Ni wnaf byth anghofio’r holl garedigrwydd a gefais gan yr elusennau.”