Posted: 04.07.2023
Author: jack
Roedd y ddadl yn seiliedig ar adroddiad Gofal a Thrwsio ar Gyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru, a thynnodd sylw at y cynnydd yn nifer y cartrefi cleientiaid sydd â phroblemau cynyddol beryglus a chymhleth. Mae’r adroddiad hefyd yn sôn am yr heriau a gaiff ein gweithwyr achos a staff technegol wrth ganfod cyllid i gwblhau gwaith yng nghartrefi pobl i’w gwneud yn ddiogel.
Y llynedd trodd mwy na 62,000 o bobl hŷn yng Nghymru at Gofal a Thrwsio am help, 6,000 yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol. Daw mwy a mwy o’r cleientiaid hyn atom gyda phroblem fach, dim ond i’n gweithwyr achos ganfod llu o broblemau ychwanegol pan awn i’r eiddo i’w asesu.
Esboniodd Mabon ap Gwynfor AS y rhesymau dros hyn yn y Senedd, gan ddweud “Mae unigedd cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf diolch i gyfyngiadau symud COVID-19 yn golygu bod cefnogaeth anffurfiol gan ffrindiau neu deulu neu gymdogion wedi dod i ben bron dros nos. Yn ystod y cyfnod hwn, parhaodd cyflwr tai i ddirywio heb i neb allu nodi, archwilio na gwneud gwaith i’w cyweirio.”
Soniodd Aelod Plaid Cymru am achos yn Wrecsam i drwsio drws blaen, lle gwelsom nifer o broblemau brys arall. Pan aethom i’r tŷ gwelsom fod toiled yn gollwng yn uniongyrchol uwchben y gegin oedd yn ei dro wedi golygu fod y llawr pren crog yn y gegin wedi pydru ac yn strwythurol anniogel. Gyda risg y byddai’r llawr yn cwympo i’r seler islaw, fe wnaeth yr asiantaeth symud eitemau hanfodol allan o’r gegin.
“Nid oedd unrhyw help ar gael gan y cwmni yswiriant na’r cyngor lleol. Am na allent adael cleient mewn cartref anniogel, trefnodd Gofal a Thrwsio bropiau dros dro i gynnal y trawstiau pren a gwneud yr eiddo’n ddiogel rhag cwympo. Amcangyfrifwyd bod y gost o atgyweirio’r llawr oddeutu £1,000, a godwyd yn sgil oriau o wneud ceisiadau gan Gofal a Thrwsio i botiau cyllido bach i sicrhau’r arian, gan adael dim ar ôl ar gyfer y cais gwreiddiol am wasanaeth”
Roeddem yn falch i weld cydnabyddiaeth yn y Senedd i ddiffyg cefnogaeth i berchenfeddianwyr i gynnal a chadw eu cartrefi. Mae Safon Ansawdd Tai Cymru yn gosod safonau ar gyfer cartrefi cymdeithasol a Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 yn nodi safonau ar gyfer y sector rhent preifat, eto nid oes dim byd cyfatebol, ac felly ddim cefnogaeth, ar gyfer pobl yng Nghymru sy’n berchnogion eu cartrefi eu hunain.
Mae Gofal a Thrwsio yn gweld effaith y diffyg cymorth hwn drosto ei hun. Y llynedd, roedd nifer y gweithiau a gyllidwyd yn breifat y gwnaethom eu cwblhau y llynedd 11 y cant yn is i ychydig dros 1,300, tra bod nifer y gweithiau elusennol wedi cynyddu gan 130 y cant. Mae hyn yn dangos fod llai o bobl hŷn yn medru fforddio atgyweirio ac angen mwy o gymorth ariannol.
Roeddem yn falch y cafodd y ddadl gefnogaeth trawsbleidiol am ein cais am grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer pobl hŷn yn byw mewn cartrefi mewn cyflwr peryglus. Soniodd yr Aelodau Llafur Mike Hedges AS a Huw Irranca-Davies AM am y cymorth y mae Gofal a Thrwsio yn ei ddarparu yn eu hardaloedd lleol.
Rhoddodd Peredur Owen Griffiths, AS Plaid Cymru dros Dde Ddwyrain Cymru, enghreifftiau o sut mae tai mewn cyflwr gwael yn effeithio ar fywyd bob dydd ac yn aml yn broblem gudd oherwydd bod pobl hŷn yn dysgu sut i ymdopi. Soniodd am achosion o gleientiaid Gofal a Thrwsio yn defnyddio goleuadau Nadolig sy’n defnyddio batris i oleuo eu cartrefi oherwydd bod dŵr wedi difrodi gwaith trydan y tŷ, a’r poen meddwl a’r effeithiau ar iechyd meddwl y gall tai mewn cyflwr gwael ei gael ar bobl hŷn.
Cydnabu Mark Isherwood AS, Aelod Ceidwadol Gogledd Cymru, fod pedwar allan o bob pump cleient a ddaw i Gofal a Thrwsio yn dweud fod ganddynt anabledd, a bod pobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd angen mwy o gymorth i gynnal eu cartrefi.
Siaradodd Jane Dodds AS, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, am yr heriau penodol sy’n wynebu perchnogion tai gwledig yng Nghymru, gyda phobl hŷn yn yr ardaloedd hyn yn tueddu i fyw mewn eiddo sydd wedi eu hinsiwleiddio yn wael ac mewn cyflwr gwael, gydag incwm sefydlog sy’n golygu fod ganddynt lai o adnoddau ariannol i wneud atgyweiriadau.
Aeth Mabon ap Gwynfor ymlaen i ddweud: “Yr hyn sydd angen inni ei wneud, rwy’n credu, yw edrych yn iawn ar yr hyn y gallwn ei wneud i gefnogi perchnogion cartrefi incwm isel gydag atgyweiriadau brys, a byddai Gofal a Thrwsio, fel partner dibynadwy, mewn sefyllfa dda i ddarparu hyn yn effeithlon wrth iddynt fynd i’r afael â materion eraill, megis addasiadau a defnydd effeithlon o ynni. Felly, hoffwn glywed barn y Gweinidog ar sefydlu grant rhwyd ddiogelwch y gall perchnogion tai incwm isel ei gael i’w galluogi i wneud atgyweiriadau hanfodol i’w cartrefi fel y gallant fyw’n ddiogel, yn gysurus a chydag urddas.”