Care & Repair Cymru yn croesawu adroddiad hirddisgwyliedig y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai ar yr Hawl i Gael Tai Digonol.

Ar ôl galw am ailgyflwyno arolwg tebyg i hen Arolwg Cyflwr Tai Cymru, rydym yn falch i weld hyn fel argymhelliad gan y pwyllgor.

Yn gyffredinol, mae Gofal a Thrwsio yn fodlon gyda chanfyddiadau ac argymhellion y Pwyllgor a gynhwysir yn yr adroddiad. Er y byddem wedi hoffi gweld ychydig yn fwy o fanylion a materion penodol mewn rhai argymhellion i sicrhau y gellir eu cyflawni, rydym yn falch gweld y cafodd nifer o gyfraniadau ysgrifenedig a llafar gan Faye Patton, ein Rheolwr Polisi, eu cynnwys yn yr adroddiad a’u bod wedi ffurfio dau argymhelliad penodol:

  • Argymhelliad 3: Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod grwpiau anabledd a chynrychiolwyr pobl hŷn yn cael eu cynrychioli ar grŵp cynghori rhanddeiliaid Llywodraeth Cymru.
  • Argymhelliad 10:  Dylai Llywodraeth Cymru, wrth ddadansoddi’r ymatebion a gaiff i’r Ymgynghoriad Papur Gwyrdd, roi ystyriaeth bellach i’r rhinweddau o gyflwyno arolwg tai blynyddol.

Cyfraniadau

Fe wnaethom ddefnyddio nifer o brofiadau ac astudiaethau o fewn ein hymateb, a chysylltu mynediad i gartref digonol gyda gwell deilliannau iechyd, cyfleoedd i gymdeithasu, ymgysylltu â’r gymuned a mwy. Cafodd ein hargymhelliad penodol o ymgyfraniad ac ymgysylltu profiad bywyd ei fabwysiadu fel argymhelliad penodol, ac fe wnaethom danlinellu:

“…mae’r hawl hwn yn siarad am dargedu grwpiau bregus, ac mae sylfaen cleientiaid Gofal a Thrwsio yn hanfodol yn hynny. Rydym yn helpu pobl hŷn ond hefyd mae pedwar allan o bump o’n cleientiaid yn uniaethu fel anabl. Felly rwy’n credu ei bod yn hanfodol cael sgyrsiau gyda’r bobl hynny sy’n byw mewn cartrefi nad ydynt eisoes yn cyflawni eu hanghenion ac yna’r hyn maent ei angen i gael eu cefnogi i fyw’n ddiogel ac annibynnol adre.”

Cefnogwyd hyn gan randdeiliaid eraill, yn cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Drwy gael sgyrsiau penodol gyda rhai o grwpiau a dangynrychiolir yn cynnwys pobl hŷn  a phobl anabl credwn fod cyfle i Lywodraeth Cymru glywed o lygad y ffynnon am rai o’r heriau tai sydd yn eu hwynebu, a hefyd rai o’r datrysiadau a gynigir gan y rhai sydd wrth graidd yr ymgyrch.

Rydym hefyd yn cefnogi cydnabyddiaeth y Pwyllgor ac ymateb y Gweinidog i’n hargymhelliad uniongyrchol fod pob awdurdod lleol yn ymrwymo i greu targed tai hygyrch. Byddai’r targed hwn yn sicrhau fod gan awdurdodau lleol gofnod o’r nifer o gartrefi hygyrch ac y gallant weithio gyda phobl anabl a phobl sydd angen cartref hygyrch i ddiwallu eu hanghenion. Yn ein hymateb dywedwn mai dim ond un o’r 22 awdurdod lleol sydd wedi cofnodi targed o dai hygyrch a ‘heb gynllunio ymlaen llaw a buddsoddiad yn seiliedig ar angen y boblogaeth, bydd stoc tai Cymru yn gynyddol anaddas i’r diben ar gyfer poblogaeth sy’n heneiddio gydag anghenion cynyddol gymhleth’. Mae’r ymateb hwn wedi bwydo i Argymhelliad 6: ‘Dylai Llywodraeth Cymru nodi ei hasesiad o sut y bydd yr 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd y mae’n bwriadu eu creu yn cyfrannu at ddiwallu’r angen cyffredinol am dai yng Nghymru. Dylai hyn gynnwys asesiad o sut y bydd y mathau o gartrefi a ddarperir yn mynd i’r afael â meysydd angen penodol, megis eiddo un ystafell wely.

Fe wnaethom hefyd alw’n benodol am ailgyflwyno arolwg tebyg i hen Arolwg Cyflwr Tai Cymru. Heb ddata ar yr ystod daliadaethau yng Nghymru, mae’n anodd deall y tirwedd tai a darparu cymorth wedi’i dargedu. Cefnogwyd yr argymhelliad hwn gan gyfraniadau gan CIH Cymru, Propertymark ac eraill, a chafodd ei dderbyn fel un o’r deg argymhelliad penodol. Dengys hyn fod angen brys amdano ar draws y sector, a chydnabyddir ei fod yn fwlch wrth gydnabod a chyflawni’r hawl yma.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Wrth ymateb i’r adroddiad mae Llywodraeth Cymru wedi dynodi nifer o ffyrdd i symud ymlaen gyda’r gwaith. Maent yn cydnabod ‘Mae’n bwysig bod Llywodreath Cymru a’r sector tai yn deall yn llawn beth yw anghenion tai pobl Cymru, er mwyn sicrhau fod datrysiadau tai yn addas i ddiwallu’r anghenion hynny. Mae angen data gwell ar y mathau o gartrefi sydd eu hangen yn awr ac yn y dyfodol’ a ‘Mae’n glir o’r dystiolaeth a gyflwynwyd i ni, er mwyn medru cyflwyno hawl i dai digonol, y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddynodi tai fel un o’i brif feysydd blaenoriaeth. Bydd hyn yn golygu bod angen ffocws strategol ar dai, adnoddau digonol ac ymrwymiad gan bob adran o’r llywodraeth, yn cynnwys deall sut y gall tai gwell fod o fudd i feysydd eraill, tebyg i well deilliannau iechyd ac addysg.’

Maent wedi ymrwymo i gynnwys cwestiynau ychwanegol ar rai materion penodol a godwyd yn ymatebion y Pwyllgor yn yr ymgynghoriad Papur Gwyrdd, ac maent wedi gwneud hynny.

Y Camau Nesaf

Yn ddilynol dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd y caiff y cynnig i gyflwyno Hawl i Dai Digonol ei gynnwys yn Papurau Gwyrdd a Gwyn. Ar hyn o bryd, mae Gofal a Thrwsio yn y broses o ymateb i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ‘Galw am Dystiolaeth ar greu llwybr tuag at dai digonol gan gynnwys rhent teg a fforddiadwyedd’. Dyma ymgynghoriad y Papur Gwyrdd a fydd yn gam olaf ymgynghoriad ysgrifenedig cyn cyhoeddi Papur Gwyn yn haf 2024. Bydd y papur yn amlinellu cynlluniau gweithredu’r Hawl a phob cynllun a phenderfyniad a wnaed fel canlyniad i gyfraniadau rhanddeiliaid.

Maes o law nod y papurau hyn yw ffurfio Bil fydd yn coleddu’r hawl yn y gyfraith ac yn rhoi mwy o ddiogeliad i bobl Cymru. Cafodd hyn ei gadarnhau gan y Gweinidog ei hun a ddywedodd, “Rwy’n credu ei bod yn hawl dynol sylfaenol i gael cartref digonol, ac y bod darparu tai digonol i’n dinasyddion yn arwydd o gymdeithas wâr. Ni chredaf fod llawer o anghytuno am hynny.”

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.