Adeiladwyr twyllodrus yn manteisio ar y cynnydd mawr mewn biliau ynni

Mae Partneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau yn annog pobl hŷn a phobl eraill agored i niwed i geisio cyngor cyn cytuno i insiwleiddio eu hatigau drwy chwistrellu ewyn yn dilyn nifer o achosion o fasnachwyr twyllodrus yn camarwain pobl hŷn.

Mae’r Bartneriaeth, y mae Gofal a Thrwsio yn rhan ohoni, yn rhybuddio er fod chwistrellu ewyn yn gyfreithiol, mai dim ond mewn amgylchiadau penodol a chyfyngedig iawn y mae’n addas ac mai dim ond arbenigwyr ddylai ei osod. Ni ddylai byth gael ei farchnata fel datrysiad cyflym i broblemau insiwleiddio atig gan y gall o bosibl achosi niwed strwythurol a’i gwneud yn anodd gwerthu eiddo.

Dywedodd Chris Jones, prif weithredwr Care & Repair Cymru: “Mae gwneud eich cartref yn fwy effeithiol o ran ynni yn dal yn bwysig ar gyfer eich iechyd, eich cyllid a’r hinsawdd. Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i fod yn ofalus ac i wneud llawer o ymchwil cyn symud ymlaen gyda gwaith insiwleiddio chwistrellu ewyn.

“Mae gan rai awdurdodau lleol restri o fasnachwyr dibynadwy, a dylai pob awdurdod lleol fedru rhoi cyngor ar ymholiadau am dai ac iechyd yr amgylchedd.

“Bydd gan Safonau Masnach restri o fasnachwyr cymeradwy dan eu gwasanaeth ‘Hyder wrth Brynu’ a gall canghennau lleol Care & Repair Cymru gynnig cyngor ar gontractwyr dibynadwy sy’n gweithio yn eu hardaloedd.”

Problem insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau

Mae insiwleiddiad chwistrellu ewyn yn gynnyrch a ddaeth yn fwy poblogaidd mewn blynyddoedd diweddar, yn arbennig gyda phobl eisiau gwario llai ar filiau ynni a ‘gwneud eu pwt’ dros yr amgylchedd. Y broblem gyda’r cynnyrch neilltuol hwn yw y caiff ei roi’n syth ar y preniau yn y to, gan olygu na all y to anadlu a gall hynny achosi neu waethygu problemau lleithder. Mae rheoliadau adeiladu’n pwysleisio’r angen am draws-awyriad mewn gofodau atig ac mae ewyn wedi’i chwistrellu yn groes i hyn, mae’n cyfyngu cylchrediad aer a gall achosi i’r preniau bydru.

Mae cwmnïau insiwleiddiad chwistrellu ewyn yn aml yn ffonio pobl ac yn cuddio dan gochl gwahanol gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth, gan ddweud wrth bobl y gallent fod yn gymwys am grantiau neilltuol os ydynt yn cael insiwleiddiad chwistrellu ewyn. Nid yw Care & Repair Cymru yn gwybod am unrhyw grantiau llywodraeth a fyddai’n cynnwys y math hwn o waith.

Yn waeth byth, mae gan lawer o fenthycwyr amodau yn eu canllawiau na fyddant yn benthyca ar gyfer eiddo sydd ag insiwleiddiad chwistrellu ewyn yn yr atig.

Yr hyn a welsom ar draws Cymru

  • Talodd un cleient fwy na £4,000 ar gyfer insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atig a werthwyd gan fasnachwr ar garreg y drws. Roedd y cleientiaid yn bobl hŷn gyda gwahanol broblemau iechyd, yn cynnwys nam ar y golwg a chlyw a byddent wedi ymddangos yn fregus i’r masnachwr twyllodrus.
  • Darbwyllwyd cleient arall i dalu ernes o £2,000 am chwistrellu ewyn. Fe wnaeth teulu’r cleient atal y gwaith rhag mynd yn ei flaen.
  • Dywedodd un masnachwr twyllodrus y byddai grant gan y llywodraeth yn talu am y rhan fwyaf o’r gwaith ac na fyddai’n rhaid i’r cleient ‘ond’ talu £2,500 ar gyfer ei osod.
  • Prynodd cleient hŷn insiwleiddiad chwistrellu ewyn ar gyfer atig am £3,500 a chanfod eu bod yn methu gwerthu eu tŷ fel canlyniad. Fe gostiodd £2,000 i dynnu’r ewyn cyn y gellid rhoi’r tŷ yn ôl ar y farchnad. Fodd bynnag, roedd y tŷ oddi ar y farchnad am ddau fis a roedd gwerth yr eiddo wedi gostwng gan £15,000 yn ystod y cyfnod hwnnw.

Beth mae Care & Repair Cymru yn ei argymell?

Er nad yw insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau yn anghyfreithlon, mae’n wirioneddol bwysig cael ail farn broffesiynol os ydych yn ystyried gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo. Mae’r cwmnïau hyn yn gwneud i chwistrellu ewyn edrych yn soffistigedig iawn, yn arbennig os ydynt yn addo ei fod yn gynnyrch a gefnogir gan y llywodraeth, felly gall hyn ddigwydd i unrhyw un.

Mae llawer o ganllawiau ar gael am wneud newidiadau i gartrefi. Lle da i ddechrau yw canllawiau Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS) am insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau su’n nodi manteision ac anfanteision ystyried yr opsiwn yma. Yn gyffredinol, ni fyddai Care & Repair Cymru byth yn argymell insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atig ar gyfer cartref cleient.

Mae cynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth sy’n rhoi grantiau i wneud gwelliannau effeithiolrwydd ynni i’ch cartref. Mae’n syniad da cysylltu â’ch awdurdod lleol neu asiantaeth leol Gofal a Thrwsio i wirio cymhwyster a pha fesurau fyddai’r mwyaf addas ar gyfer eich cartref.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.