Posted: 19.01.2024
Author: jack
Mae Partneriaeth Cymru yn erbyn Sgamiau yn annog pobl hŷn a phobl eraill agored i niwed i geisio cyngor cyn cytuno i insiwleiddio eu hatigau drwy chwistrellu ewyn yn dilyn nifer o achosion o fasnachwyr twyllodrus yn camarwain pobl hŷn.
Mae’r Bartneriaeth, y mae Gofal a Thrwsio yn rhan ohoni, yn rhybuddio er fod chwistrellu ewyn yn gyfreithiol, mai dim ond mewn amgylchiadau penodol a chyfyngedig iawn y mae’n addas ac mai dim ond arbenigwyr ddylai ei osod. Ni ddylai byth gael ei farchnata fel datrysiad cyflym i broblemau insiwleiddio atig gan y gall o bosibl achosi niwed strwythurol a’i gwneud yn anodd gwerthu eiddo.
Dywedodd Chris Jones, prif weithredwr Care & Repair Cymru: “Mae gwneud eich cartref yn fwy effeithiol o ran ynni yn dal yn bwysig ar gyfer eich iechyd, eich cyllid a’r hinsawdd. Fodd bynnag, byddem yn annog pobl i fod yn ofalus ac i wneud llawer o ymchwil cyn symud ymlaen gyda gwaith insiwleiddio chwistrellu ewyn.
“Mae gan rai awdurdodau lleol restri o fasnachwyr dibynadwy, a dylai pob awdurdod lleol fedru rhoi cyngor ar ymholiadau am dai ac iechyd yr amgylchedd.
“Bydd gan Safonau Masnach restri o fasnachwyr cymeradwy dan eu gwasanaeth ‘Hyder wrth Brynu’ a gall canghennau lleol Care & Repair Cymru gynnig cyngor ar gontractwyr dibynadwy sy’n gweithio yn eu hardaloedd.”
Problem insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau
Mae insiwleiddiad chwistrellu ewyn yn gynnyrch a ddaeth yn fwy poblogaidd mewn blynyddoedd diweddar, yn arbennig gyda phobl eisiau gwario llai ar filiau ynni a ‘gwneud eu pwt’ dros yr amgylchedd. Y broblem gyda’r cynnyrch neilltuol hwn yw y caiff ei roi’n syth ar y preniau yn y to, gan olygu na all y to anadlu a gall hynny achosi neu waethygu problemau lleithder. Mae rheoliadau adeiladu’n pwysleisio’r angen am draws-awyriad mewn gofodau atig ac mae ewyn wedi’i chwistrellu yn groes i hyn, mae’n cyfyngu cylchrediad aer a gall achosi i’r preniau bydru.
Mae cwmnïau insiwleiddiad chwistrellu ewyn yn aml yn ffonio pobl ac yn cuddio dan gochl gwahanol gynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth, gan ddweud wrth bobl y gallent fod yn gymwys am grantiau neilltuol os ydynt yn cael insiwleiddiad chwistrellu ewyn. Nid yw Care & Repair Cymru yn gwybod am unrhyw grantiau llywodraeth a fyddai’n cynnwys y math hwn o waith.
Yn waeth byth, mae gan lawer o fenthycwyr amodau yn eu canllawiau na fyddant yn benthyca ar gyfer eiddo sydd ag insiwleiddiad chwistrellu ewyn yn yr atig.
Yr hyn a welsom ar draws Cymru
Beth mae Care & Repair Cymru yn ei argymell?
Er nad yw insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau yn anghyfreithlon, mae’n wirioneddol bwysig cael ail farn broffesiynol os ydych yn ystyried gwneud unrhyw newidiadau i’ch eiddo. Mae’r cwmnïau hyn yn gwneud i chwistrellu ewyn edrych yn soffistigedig iawn, yn arbennig os ydynt yn addo ei fod yn gynnyrch a gefnogir gan y llywodraeth, felly gall hyn ddigwydd i unrhyw un.
Mae llawer o ganllawiau ar gael am wneud newidiadau i gartrefi. Lle da i ddechrau yw canllawiau Sefydliad Brenhinol Syrfewyr Siartredig (RICS) am insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau su’n nodi manteision ac anfanteision ystyried yr opsiwn yma. Yn gyffredinol, ni fyddai Care & Repair Cymru byth yn argymell insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atig ar gyfer cartref cleient.
Mae cynlluniau a gefnogir gan y llywodraeth sy’n rhoi grantiau i wneud gwelliannau effeithiolrwydd ynni i’ch cartref. Mae’n syniad da cysylltu â’ch awdurdod lleol neu asiantaeth leol Gofal a Thrwsio i wirio cymhwyster a pha fesurau fyddai’r mwyaf addas ar gyfer eich cartref.