Edrych am leoliad yng Nghaerdydd?
Mewn safle ar gyrion canol dinas Caerdydd, gyda mynediad rhwydd i’r M4, mae Care & Repair Cymru yn cynnig ystafelloedd cyfarfod i’w llogi.
Mae gennym ddesgiau sengl, podiau gwaith preifat ac ystafell fwrdd, i gyd ar gael ar sail hyblyg: llogi unwaith yn unig, archebion cyson neu ofod gwaith hirdymor.
Gall ein hystafell fwrdd fawr hwyluso cyfarfodydd hybrid yn defnyddio technoleg cynadledda fideo o’r math diweddaraf. Yn berffaith ar gyfer diwrnod hyfforddi, cyfarfod neu seminar, mae ein holl ofodau ar gael i’w llogi rhwng 8am-6pm dydd Llun i ddydd Gwener.
Fel elusen gofrestredig, aiff yr holl elw tuag at helpu pobl hŷn fregus sydd mewn angen.