Posted: 07.11.2025
Author: sarah
Roedd Alison, menyw yn ei 80au sy’n byw â dementia, yn byw mewn cartref preswyl pan ddaeth dan ofal Qualia Law. Nid ei dewis hi oedd hynny, ond roedd rhwystrau ariannol ac ymarferol yn ei gwneud yn amhosibl iddi ddychwelyd i’w chartref ei hun. Roedd angen gwaith ar frys i’w chartref, roedd ei thaliadau incwm wedi eu hatal dros dro ac nid oedd ganddi bellach y gallu i wneud penderfyniadau ariannol cymhleth. Heb ymyriad, roedd yn ymddangos yn anochel y byddai’n rhaid iddi aros mewn gofal preswyl hirdymor.
Cafodd cyfreithiwr Qualia Law ei benodi gan y Llys Gwarchod fel Dirprwy i Alison ar gyfer Materion Eiddo ac Ariannol. Fel Cwmni Budd Cymunedol nid-er-elw yn seiliedig yng Nghaerdydd, cenhadaeth Qualia Law yw gwarchod cyllid a llesiant oedolion bregus gan eu galluogi i fyw yn yr amgylchedd a ddewisant lle bynnag mae hynny’n bosibl. Rydym yn cyfuno sgiliau cyfreithwyr arbenigol gyda dull gweithredu a gaiff ei yrru gan werthoedd ac sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn – a chaiff unrhyw warged a gynhyrchwn ei ailfuddsoddi i gefnogi oedolion bregus ledled Cymru.
Deall nodau ac anghenion Alison
Ein cam cyntaf oedd cynnal asesiad manwl o sefyllfa ariannol Alison, cyflwr ei chartref a’i gofynion gofal hirdymor. Fe wnaethom ymgynghori â chontractwyr, adolygu hawl i fudd-daliadau ac ystyried pob agwedd o’i hamgylchiadau. Yn hollbwysig, fe wnaethom wrando ar yr hyn oedd bwysicaf iddi: ei dymuniad dwfn i ddychwelyd i’r cartref roedd yn ei garu ac i barhau yn rhan o’i chymuned leol.
Fe wnaethom gyflwyno pecyn o gamau gweithredu wedi eu cydlynu i’w gwneud yn ddiogel ac yn gynaliadwy i Alison ddychwelyd i’w chartref:
Canlyniad cadarnhaol
Gallodd Alison symud yn ôl yn ddiogel i’w chartref ei hun o fewn ychydig fisoedd. Fe wnaeth adennill ei hannibyniaeth a’i hurddas, a gallai yn awr dderbyn ei gofal parhaus mewn amgylchiadau cyfarwydd. Drwy ddatrys rhwystrau ariannol a hefyd rwystrau ymarferol, fe wnaeth Alison osgoi bod mewn gofal preswyl hirdymor diangen – gan wella ei hansawdd bywyd a sicrhau defnydd doeth o adnoddau cyhoeddus.
Mae achos Alison yn dangos sut y gall dirprwyaeth ragweithiol drawsnewid bywydau. Dengys hefyd na ddylai galluedd neu anawsterau dros dro unigolyn i ymdrin â’u materion ariannol fod yn rhwystr i fyw’n annibynnol pan fo’r cymorth cywir ar gael.
Cymorth wedi ei deilwra ar gyfer gwahanol anghenion
Mae Qualia Law CIC yn cynnig ystod o wasanaeth:
Pam fod ein gwaith yn bwysig
Ledled Cymru mae llawer o bobl yn wynebu newidiadau cyflym mewn galluedd neu amgylchiadau: gall strôc, salwch ymledol neu golli cymar olygu anrhefn mewn cyllid a threfniadau tai. Heb gymorth cyfreithiol medrus, mae’r unigolion hyn mewn risg o gael eu rhoi yn ddiangen mewn cartrefi gofal, camfanteisio ariannol arnynt neu fod mewn dyled heb ei rheoli. Drwy gamu i mewn fel dirprwyon neu atwrneiaid, mae Qualia Law CIC yn rhoi sefydlogrwydd ac yn sicrhau y caiff penderfyniadau eu gwneud yn gyfreithiol, yn dryloyw a gyda thosturi.
Cael cymorth gan Qualia Law
Gall unrhyw un – p’un ai yn aelod teulu, cyfaill, awdurdod lleol neu gorff trydydd sector – gysylltu â ni yn uniongyrchol i gael sgwrs gyfrinachol na fydd yn rhwymo. Byddwn yn gwrando, esbonio opsiynau yn glir a’ch llywio drwy’r camau nesaf.
Gwefan: www.qualia-law.org
Ffôn: 0333 305 3057
E-bost: info@qualia-law.org
Mae Qualia Law CIC yn falch i helpu pobl ledled Cymru i aros lle maent yn perthyn: yn eu cartrefi eu hunain, yn rheoli eu bywydau eu hunain, ac yn cael eu cefnogi gan gymuned ofalgar.
Mae Qualia Law CIC yn Aelod Masnachol Care & Repair Cymru. Gallwch ddarllen mwy a gweld ein holl Aelodau Masnachol