Posted: 05.12.2022
Author: jack
C. Pryd ddaethoch chi i gysylltiad gyntaf gyda Gofal a Thrwsio?
Roedd fy nghysylltiad cyntaf gyda Gofal a Thrwsio tua 15 mlynedd yn ôl. Roeddwn yn gweithio fel Gweithiwr Achos Cynghori gyda Cyngor ar Bopeth (CAB), yn gweithio mewn canolfannau iechyd.
Hi oedd fy nhrydydd cleient cyntaf erioed ac es i’w gweld yn ei chartref a’i helpu i lenwi ei ffurflen lwfans gweini. Roeddem yn sgwrsio a dywedodd ei bod yn bwriadu sefyll ar stôl yn y prynhawn a thrwsio llen oedd wedi syrthio. Roedd hon yn fenyw nad oedd prin yn gallu symud. Llwyddais i’w chael i addo na fyddai’n gwneud hynny ac y byddwn yn gweld beth fedrwn ei wneud. Es i nol i’r swyddfa a meddwl beth yn y byd y gallwn i ei wneud. Roedd clychau larwm yn canu gan ei bod eisoes yn eithaf bregus ac eiddil, gallai pethau fynd yn flêr iawn. Soniodd rhywun am Gofal a Thrwsio yn y Fro a bod ganddynt wasanaeth tasgmon. Fe aethant draw a rhoi’r polyn llenni yn ôl yn ei le ac ychydig o fân swyddi eraill. Roedd yn hollol wych.
Ar ôl hynny bûm yn rheolwr gwahanol ganolfannau CAB ac roeddwn bob amser yn gwneud yn siŵr ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Gofal a Thrwsio.
C. Rydych chi’n angerddol iawn am helpu pobl hŷn, o ble daeth hynny?
Ers yn blentyn bach rwyf bob amser wedi dod ymlaen yn dda gyda phobl hŷn, Efallai fod hynny oherwydd fy mod yn eu cael yn ddiddorol, ac y byddent yn gwrando arnaf.
Roeddwn yn astudio Economeg Amaethyddol yn y brifysgol felly roedd ein coleg allan yng nghanol y wlad ac roeddem yn byw mewn bwthyn bach.
Roedd y fenyw drws nesaf i ni ac wedi bod yn weddw ddwywaith. Doedd dim ffys o gwbl yn ei chylch ond fe fyddai bob amser yn gwneud beth fedrai dros bobl eraill. Byddai weithiau’n gwneud cinio rhost i fi a doeddwn i ddim wedi sylweddoli pa mor wael oedd ei golwg nes i mi ei gweld yn coginio ryw ddiwrnod a byddai’n cyffwrdd pethau i weld os oeddent yn dwym. Roedd yn gwneud bwyd i mi a hithau bron yn ddall.
Ddylai hi ddim bod wedi byw fel hynny felly rydw i’n gallu gweld gwerth gwasanaethau Gofal a Thrwsio.
C. Pam wnaethoch chi ymuno â Bwrdd Ymddiriedolwyr Care & Repair Cymru?
Roeddwn eisiau gwneud gwaith Bwrdd ac roedd gen i beth profiad blaenorol o wneud hynny, ond roeddwn yn gwybod os y byddai gennyf byth amser rhydd bod cwpl o sefydliadau y byddai gennyf ddiddordeb ynddynt, ac roedd Gofal a Thrwsio yn un ohonynt. Pan ddaeth cyfle, chwech neu saith mlynedd yn ôl, fe wnes gais.
Po fwyaf a wnes, y mwyaf pendant rydw i wedi bod am ba mor wych yw Gofal a Thrwsio. Pe gallwn droi’r cloc yn ôl, fe fyddwn wedi bod wrth fy modd pe byddai’r gwasanaethau wedi bod ar gael i’r bobl roeddwn yn eu hadnabod – yn broffesiynol ac yn bersonol.
C. Beth ydych chi’n feddwl sy’n gwneud ymddiriedolydd da?
Mae’n rhaid i chi fod yn chwilfrydig, i fod eisiau gwybod mwy.
Mae’n rhaid i chi fod â’r gallu i wrando ac wedyn ystyried, ac yna haelioni ysbryd i roi yn ôl. Nid yw hynny am faint o arian a gyfrannwch, mae am fod yn hael gyda’ch sgiliau a’ch amser.
Rwyf hefyd yn meddwl amdano fel profiad bywyd. Gallwch fod â phrofiad bywyd a bod yn ifanc, gallech fod yn llawer hŷn a bod yn gymharol ddibrofiad oherwydd nad ydych wedi bod â diddordeb.
Pa gyngor fyddech chi’n ei roi i ymddiriedolwyr eraill?
Dyw hynny ddim yn gwestiwn ffôl.
Mae ein papurau bwrdd wedi cael eu mireinio ond gallant yn aml fod dros 100 tudalen gyda llawer o fanylion. Felly mae’n helpu’r cyfarfod os gall ymddiriedolwyr holi ymlaen llaw am unrhyw rifau neu fanylion.
Rwyf wedi bod mewn cymaint o gyfarfodydd bwrdd, naill ai fel aelod o staff neu fel aelod bwrdd, a gallwch weld y rhai sy’n gweithio’n dda a’r rhai nad ydynt.
Weithiau rydych chi’n cael cyfarfodydd bwrdd lle nad yw pobl yn troi lan ac mae’n fwy am ei roi ar eu CV. Ond mae’n rhaid i chi fod ag angerdd a rheswm.
C. Beth yw heriau bod yn ymddiriedolydd Care & Repair Cymru?
Yr ansicrwydd. Delio gyda chyllid prosiect, oherwydd eich bod chi’n gwybod mai dim ond am hyn a hyn y mae gennych.
Mae cyllid un flwyddyn y mae’n rhaid i ni dreulio cymaint o amser arno yn rhwystredig iawn. Dyna’r darn gwirioneddol rwystredig, pan y gwyddoch fod y gwasanaeth yn gwneud gwahaniaeth go iawn, ei fod yn effeithiol ac yn effeithlon a bod ganddo gronfa fawr o dalent. Yna mae hynny dan fygythiad. O safbwynt ymddiriedolydd, mae hynny’n wirioneddol anodd.
C. Unrhyw sylwadau eraill?
Mae henoed yn fraint a dylid ei groesawu. Ond i rai sy’n unig, mewn iechyd gwael neu mewn cartref gwael neu’n pryderu am arian, nid yw mwynhau blynyddoedd diweddarach yn realaeth nac yn bosibilrwydd. Dyna pam mod i’n credu’n angerddol yn yr hyn y mae Gofal a Thrwsio yn ei wneud.