Beth yw Prosiect Attic?

Mae Prosiect Attic yn wasanaeth rhad ac ddim a all eich helpu i gael gwared, ailgylchu neu ad-drefnu eich pethau. Gall didoli drwy eitemau ddod â llawer o atgofion yn ôl, mae Prosiect Attic yn cynnig cyfleoedd i siarad am y straeon tu ôl i’ch eiddo. Os dymunwch, gellir recordio hyn fel y gallwch eu trosglwyddo i gyfeillion a theulu.

 

Ar gyfer pwy mae hyn?

Mae’r gwasanaeth ar gael i unrhyw un 50+ oed sy’n byw yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bro Morgannwg.

Gwyliwch: Sut wnaethon ni Helpu Naomi

Sut y gallwn eich helpu

  • Ymweliad am ddim i’ch cartref i drafod eich anghenion

  • Symud eitemau o’ch cartref yn rhad ac am ddim

  • Ei gwneud yn rhwyddach i chi fynd o amgylch eich cartref

  • Gostwng eich risg o dân, syrthio a damweiniau

  • Eich helpu i symud i gartref llai neu fwy addas

  • Eich helpu i ddychwelyd adre o’r ysbyty yng nghynt

  • Rhoi cyfleoedd i chi siarad am yr atgofion tu ôl i eitemau pwysig i chi (ni fyddwn byth yn cael gwared ag eitemau os nad ydych yn cytuno)

Cysylltu

Yn anffodus, daeth Prosiect Attic i ben. I siarad gyda ni am y prosiect a’i effaith yng Nghymru, anfonwch e-bost at enquiries@careandrepair.org.uk.

Wyddech chi...

Dros y tair blynedd o fis Medi 2017 i fis Hydref 2017, cafodd 257 o bobl hŷn gymorth i wneud eu cartrefi yn fwy diogel a galluogi cynnal atgyweiriadau neu addasiadau.

Adnoddau

Adroddiad Prosiect

Cynhaliodd cwmni ymchwil annibynnol werthusiad trwyadl o Brosiect Attic ac mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o’r canfyddiadau allweddol.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.