Mae Hynach Nid Oerach yn wasanaeth newydd gan Gofal a Thrwsio sy’n cefnogi pobl hŷn i gadw eu cartrefi yn gynnes a biliau ynni yn is.
Mae Swyddogion Ynni Cartref yn gweithio ledled Cymru fel rhan o’r gwasanaeth gan ymweld ac asesu cartrefi am ddim. Maent yn cynnig cyngor arbenigol a gallant eich helpu i ganfod cyllid os oes angen gwaith trwsio neu welliannau i gadw eich cartref yn gynnes.
Ar gyfer pwy mae’r gwasanaeth?
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi fod yn byw yng Nghymru, bod dros 60 oed ac yn berchen eich cartref eich hun neu yn rhentu’n breifat.
Sut y gall y gwasanaeth eich helpu:
- Ymweliad ac asesiad o’ch cartref am ddim
- Cyngor am ddim ar sut i wella effeithiolrwydd ynni eich cartref.
- Canllawiau ar gyfer rhai sy’n ei chael trafferthion gyda biliau.
- Cymorth i gael mynediad i’r Rhaglen Cartrefi Cynnes.
- Cymorth i gael y budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt.
- Help i wneud cais am grantiau a all gadw eich cartref yn gynnes.
Gofynnwch am ymweliad am ddim gan Swyddog Ynni Cartref
Mae ein Swyddogion Ynni Cartref yn barod ac yn aros i ymweld â’ch cartref a’ch cefnogi gyda’ch anghenion ynni cartref. Defnyddiwch y ffurflen isod i wneud cais am ymweliad cartref am ddim.