Pan ddaeth y lori olew draw at Christine ar gyfer ei gwres canolog, credai ei bod yn barod am y gaeaf. Yn lle hynny, cafodd sioc i ddarganfod fod crac yn ei thanc olew ac na fedrid ei ail-lenwi.

Nid oedd y miloedd o bunnau oedd eu hangen i gael tanc olew newydd ganddi ac roedd yn wynebu gaeaf cyfan heb wres. Roedd ei chartref, a godwyd cyn 1860 yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin, yn rhewi a dechreuodd bryderu.

Dechreuodd edrych bob man am help. “Roeddwn wedi siarad gyda chynifer o wahanol sefydliadau a heb gyrraedd unlle”, meddai. “Weithiau byddai rhywun yn ffonio a dweud y byddent yn eich ffonio’n ôl, ac wedyn dim byd.”

Wrth i’r tywydd oeri, roedd yn effeithio ar y problemau iechyd oedd ganddi eisoes. “Roeddwn gennyf dân glo yn y lolfa a gwresogydd trydan yn yr ystafell wely ond roedd yn dal i fod yn rhewi oherwydd fod y tŷ fel y mae. Roeddwn yn mynd i’r gwely gyda mwgwd oherwydd ei fod yn cadw fy nhrwyn yn dwym!”

Yna clywodd Christine am Gofal a Thrwsio a chysylltodd â Wayne Hughes, Swyddog Ynni Cartref lleol Gofal a Thrwsio. “Roedd yn hollol wych,” meddai Christine. “Roeddwn wedi mynd drwy gryn nifer o opsiynau arall a phawb yn dweud ‘Na, fedrwn ni ddim gwneud hynny’.

Ond gyda Wayne, doedd e ddim yn rhoi lan, fe ddaliodd i fynd ac i fynd ac i fynd.” Roedd Wayne yn hapus i helpu, yn arbennig gan y gwyddai pa mor ddrud y gall tanc olew newydd fod.

Esboniodd, “Y rheolau presennol yw fod yn rhaid i danciau olew fod â chroen dwbl felly mae’n costio mwy i’w adnewyddu neu gael un newydd, mae’n £1200 ddim ond am y tanc. Ac yna mae symud yr olew allan, cael gwared â’r hen danc, gwneud yn siŵr fod y sylfaen yn wastad neu gael sylfaen newydd. Ac roedd hynny i gyd heb hyd yn oed edrych ar y boeler!”

Sicrhaodd Wayne arian o Gronfa Caledi Pwysau Gaeaf Gofal a Thrwsio i dalu holl gost y gwaith, ac roedd y tanc olew newydd yn ei le erbyn diwedd mis Ionawr. Gallodd Wayne archwilio’r gwaith ac roedd popeth yn iawn fel bod gwres Christine yn ôl ymlaen.

“Mae’n fendigedig, alla i ddim credu eu bod wedi ei wneud e”, meddai Christine. “Rwyf bob amser wedi bod yn annibynnol ac mae’n eithaf caled gofyn am bethau, ond wnaeth Wayne ddim gwneud i mi deimlo’n chwithig o gwbl. Roedd ei holl agwedd yn wych.”

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os gallwn eich helpu i gadw’n gynnes gartref y gaeaf hwn.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.