Care & Repair Cymru a Wales & West Utilities yn uno i ddosbarthu larymau CO arbenigol

Mae cynllun newydd, a arweinir gan elusen Care & Repair Cymru, yn anelu i ddarparu larymau CO hygyrch i’r rhai sy’n neilltuol o fregus oherwydd colli clyw.

Mae’r prosiect yn gynllun ar y cyd gyda Wales & West Utilities (WWU) sydd â’r nod o ddiogelu oedolion hŷn sy’n Fyddar neu’n drwm eu clyw rhag peryglon gwenwyn carbon monocsid (CO).

Mae carbon monocsid, nwy na fedrir ei weld na’i arogli, yn fygythiad sylweddol i iechyd a diogelwch, yn arbennig ar gyfer unigolion hŷn sydd â chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes. Nid yw larymau CO traddodiadol, sy’n dibynnu ar sain i rybuddio preswylwyr, yn addas ar gyfer unigolion sy’n Fyddar neu sydd â cholled clyw. Gan gydnabod y bwlch hollbwysig hwn, aeth Care & Repair Cymru a WWU ati i sicrhau fod gan yr unigolion hyn fynediad i dechnoleg a all achub bywydau.

Astudiaeth Achos; Technoleg achub bywyd ar gyfer Mrs O’Reilly

Mae Mrs O’Reilly, menyw 69 oed gyda cholled clyw difrifol a’r bendro, yn byw ar ei phen ei hun yng Ngogledd Cymru ac yn dibynnu ar ddarllen gwefusau ar gyfer cyfathrebu. Cysylltodd â Gofal a Thrwsio ar ôl cael trafferth i symud yn ddiogel o amgylch ei chartref. Cafodd ei chartref ei asesu gan Amanda Derbyshire, Gweithiwr Achos Ymdopi’n Well, ac argymhellodd osod canllawiau i’w chynorthwyo gyda symud.

Dywedodd Amanda: “Es i ymweld â hi i ddechrau i edrych ar ganllawiau a’r offer oedd ei angen o amgylch y cartref ac yn amlwg, oherwydd ei cholli clyw, aethom ymlaen i drafod technoleg a fedrai fod o fudd iddi. Dyna pryd soniais am y larymau CO y gallem ei rhoi iddi am ddim.”

Ar ôl i’r larwm CO gael ei osod, esboniodd Mrs O’Reilly: “Roedd popeth yn syml iawn: daeth Amanda draw i fy helpu a soniodd y gallai roi larwm CO i mi gan fy mod yn fyddar. Roeddwn wedi ei gael o fewn ychydig wythnosau ac fe wnaethant ddangos sut i’w ddefnyddio a phopeth.” Ychwanegodd, “Rwy’n gwybod yn bendant na fyddwn yn clywed larwm yn y nos, felly mae’n gyfleus. Mae fel cael oriawr fawr ar fy mraich. Mae’n dirgrynu i fy neffro i ddweud fod rhywbeth yn digwydd yn y tŷ. Mae’n wych, fe fyddwn yn ei argymell.”

Drwy’r datrysiad blaengar yma, mae cartref Mrs O’Reilly yn fwy diogel, gan ei galluogi i aros yn annibynnol yn hirach.

Offer arbenigol

Bydd y prosiect yn dosbarthu 60 o systemau larwm CO arbenigol, a gafwyd o Bellman a Symfon, darparydd blaenllaw ar gyfer dyfeisiau gwrando cynorthwyol. Mae pob system yn cynnwys trawsyrrydd canfod CO y gellir wedyn ei gysylltu gyda nifer o ddyfeisiau yn dibynnu ar yr hyn sydd ei angen. Gall anfon rhybuddion i  ddyfais galwr, dyfais ysgwyd gwely neu ddyfais arall gydweddol.

I fod yn gymwys am yr offer hwn, mae’n rhaid i unigolion fod yn 50 oed neu drosodd, bod â cholled clyw neu yn Fyddar, a bod heb larwm CO presennol sy’n diwallu eu hanghenion. Bydd gweithwyr achos Ymdopi’n Well yn cydweithio gyda sefydliadau partner tebyg i’r RNID a Chymdeithas Brydeinig y Byddar (BDF) i gyrraedd y rhai a fedrai gael budd o’r cynllun hwn.

Ymdopi’n Well

Caiff y larymau CO eu dosbarthu fel rhan o brosiect Ymdopi’n Well, gwasanaeth rhad ac am ddim sy’n ymweld â chartrefi i roi cyngor a chymorth ymarferol i unigolion hŷn sydd â cholled clyw, colled golwg, dementia neu sydd wedi dioddef strôc.

Bydd gweithwyr achos Ymdopi’n Well yn integreiddio dosbarthu larymau CO arbenigol i’r cymorth cynhwysfawr maent eisoes yn ei ddarparu. Bydd gweithwyr achos yn cynnal Gwiriadau Cartref Iach i sicrhau diogelwch yr amgylchedd byw, yn cynnwys gosod y dyfeisiau hyn a all achub bywydau. Bydd y gwiriadau hyn yn helpu i adnabod unigolion sy’n gymwys am y systemau larwm CO, gan sicrhau fod y rhai sydd fwyaf mewn risg yn derbyn y diogeliad maent ei angen.

Mae Ymdopi’n Well yn gynllun ar y cyd rhwng pump elusen yng Nghymru, yn cynnwys Care & Repair Cymru, Cymdeithas Alzheimer Cymru, RNIB Cymru, RNID a’r Gymdeithas Strôc.

Gwneud cais am larwm CO

Os byddech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael budd o un o’r larymau CO arbenigol hyn, cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os gwelwch yn dda.

Yn ogystal â thrin problem ddiogelwch hollbwysig, mae’r larymau CO arbenigol hyn yn rhoi’r offer i boblogaeth fregus i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol.

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau na chaiff neb eu gadael heb eu diogelu rhag peryglon carbon monocsid, beth bynnag yw eu gallu clyw. Ymunwch â ni yn yr ymgyrch bwysig hon i greu cartrefi mwy diogel a bywydau mwy iach i bawb.

 

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.