Mae adroddiad newydd gan Care & Repair Cymru yn cynnig cipolwg prin ar waith beunyddiol sy’n helpu miloedd o bobl hŷn a bregus i fyw’n ddiogel ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Yn seiliedig ar 52 cyfweliad manwl gyda staff o bob rhan o Gymru – yn cynnwys gweithwyr achos, gweinyddwyr, tasgmyn a swyddogion technoleg – mae’r adroddiad yn adlewyrchu calon ac enaid gwaith y sefydliad. Mae’n dangos sut mae ymddiriedaeth, tosturi a gwaith tîm yn sylfaen i bopeth a wnaiff Gofal a Thrwsio.

O’r galwad ffôn cyntaf i’r gwaith trwsio terfynol, mae staff yn gyson yn mynd yr ail filltir. Nid dim ond unioni problem maen nhw – maent yn edrych am risgiau cudd, yn cynnig cyngor ymarferol ac yn cysylltu cleientiaid gyda chymorth ehangach. Mae’r dull rhagweithiol “person cyfan” yma yn helpu i atal argyfyngau cyn iddynt ddigwydd ac yn cadw pobl yn ddiogel, cynnes ac iach yn eu cartrefi eu hunain.

Dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru:

“Ar ôl ymwneud â Gofal a Thrwsio am 35 mlynedd fel partner Awdurdod Lleol yn darparu cyllid lleol, Cadeirydd Asiantaeth Gofal a Thrwsio a bellach fel Prif Weithredwr Care & Repair Cymru, rwyf bob amser wedi gwybod mai ein staff rheng-flaen yw’r hyn sy’n gwneud i Gofal a Thrwsio sefyll allan.

Mae’r adroddiad yn cadarnhau yn gryf fod y “sut” yr un mor bwysig â’r “beth” a wnawn. Y gwerthoedd cryf, ymrwymiad ac ymroddiad staff ar y rheng flaen yw’r hyn sy’n golygu y caiff Gofal a Thrwsio ei barchu a’i werthfawrogi fel y mae. Diolch enfawr i’r holl staff sy’n ein gwneud ni yr hyn ydym”.

52 cyfweliad manwl

Rhwng diwedd 2024 hyd at haf 2025, cynhaliodd y tîm ymchwil gyfweliadau un-i-un gyda staff o bob Asiantaeth Gofal a Thrwsio ar draws Cymru. Dewiswyd cyfweliadau fel y prif ddull i gipio profiadau staff yn fewnol, gan godi cwr y llen yn glir ar eu gwerthoedd a’u harferion dydd i ddydd. Fe wnaeth y dull hwn hefyd ei gwneud yn bosibl ymchwilio sylwadau cynnil ac ystyron na ddaw i’r amlwg heb sgwrs fewnol.

Cynhaliwyd cyfanswm o 52 cyfweliad: 36 wyneb yn wyneb a 16 ar-lein. Roedd pob cyfweliad yn parhau rhwng 25 a 40 munud ac yn dilyn fformat lled-strwythuredig. Ymatebodd y sawl a gyfwelwyd i 8-10 cwestiwn penagored a chawsant eu hannog i lywio’r drafodaeth, yn cyflwyno pynciau newydd a rhannu’r enghreifftiau mwyaf ystyrlon iddynt.

Mae’r pedair rôl swydd a gafodd eu dewis yn cynrychioli’r rhai sydd yn aml yn derbyn cyllid craidd ac sy’n bodoli ym mhob Asiantaeth Gofal a Thrwsio: gweithwyr achos, gweinyddwyr, tasgmyn a swyddogion technegol. Cymerodd staff o bob un o’r 13 Asiantaeth yng Nghymru ran, gyda chymryd rhan yn hollol wirfoddol a rheolwyr llinell yn cefnogi’r broses ddethol.

Mae’r canfyddiadau yn amlygu ymroddiad, arbenigrwydd a hyblygrwydd staff Gofal a Thrwsio, sy’n parhau i fod yn ased fwyaf sefydliad wrth gyflwyno cymorth sy’n newid bywyd i’r rhai sydd mewn angen.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.