Dengys ymchwil Care & Repair Cymru fod pobl dros 60 oed dair gwaith yn llai tebygol o fod yn byw mewn eiddo sy’n effeithiol o ran ynni.
Gan ddefnyddio sampl o 2,479 o gleientiaid Gofal a Thrwsio, wedi’i gwasgaru ar draws pob un o’r 22 ardal Awdurdod Lleol yng Nghymru, fe wnaethom ddadansoddi sgorau Tystysgrif Perfformiad Ynni (EPC) i ddeall effeithiolrwydd ynni yr eiddo y mae pobl hŷn yng Nghymru yn byw ynddynt.
Am y tro cyntaf, gallwn ddangos data EPC yn seiliedig ar oedran y person sy’n byw yn yr eiddo yn ogystal â lleoliad. Mae hyn yn bwysig oherwydd fod gan bobl hŷn risg uwch o salwch tebyg i haint anadlol, strôc a thrawiad calon o eiddo oer, sy’n aneffeithiol o ran ynni.
Gan ddefnyddio data gan 2,479 o bobl hŷn yng Nghymru ac EPC eu cartrefi, gwelsom:
- Nad oedd gan 3 mewn 5 o’n sampl EPC cyfredol ar gyfer eu heiddo.
- Dim ond 1 mewn 10 o’n sampl sydd ag EPC C neu uwch.
- Dywedwyd fod hanner ein sampl yn y Sector Rhent Preifat yn byw mewn cartrefi heb fod yn cyrraedd isafswm gofynion cyfreithiol EPC ar gyfer landlordiaid.