Bu Dai Meredith yn byw yng nghefn gwlad Ceredigion am dros 50 mlynedd, ym mhentref bach Pontrhydfendigaid. Mae ei iechyd yn dechrau gwaethygu, ond nid yw eisiau symud bant o’r cartref a’r gymuned y mae’n eu caru. Dyna lle camodd Gofal a Thrwsio i mewn.

“Mae Gofal a Thrwsio wedi fy helpu oherwydd pan oeddwn i’n dod allan o’r bath roeddwn yn gorfod cael step ac roedd gen i ofn mawr y byddwn yn colli fy malans ac yn syrthio”, meddai Dai.

Roedd Dai wedi prynu ei gartref am ddim ond £350 yn 1965 ac mae’n falch ei fod yn dal i fyw yno. Anfonodd Gofal a Thrwsio y gweithiwr achos Heulwen i weld sut gallem helpu.

Dywedodd Heulwen, “Fel ateb tymor byr fe wnaethom roi canllawiau bach dros y bath i’w helpu i fynd mewn ac allan. Ond roedd yn dal yn anodd, felly fe wnes atgyfeiriad i therapi galwedigaethol gydag argymhellion ar gyfer grant cyfleusterau i’r anabl ar gyfer addasiadau i’r ystafell ymolchi.”

Gosodwyd cawod ystafell wlyb newydd ar gyfer Dai, gan olygu y medrai ymolchi heb ofni syrthio.

Sylwodd Heulwen hefyd nad oedd Dai yn clywed gystal ag yr oedd. Dywedodd, “Mae Mr Meredith wedi colli peth o’i glyw, felly roedd clywed cloch y drws yn un o’r pethau oedd yn anodd iddo. Felly fe wnes archebu cloch drws gyda goleuadau yn fflachio arni. Os na all glywed cloch y drws, gall weld y goleuadau’n fflachio.

Trefnwyd hefyd i i roi canllawiau yn yr ardd ac wrth ymyl y drysau i gartref Dai. Mae hyn wedi galluogi Dai i fynd o amgylch yn ddiogel ac yn rhwydd.

Mae gan wasanaeth Ymdopi’n Well Gofal a Tthrwsio weithwyr achos neilltuol, fel Heulwen, sy’n cefnogi pobl gyda cholli clyw, colli golwg, dementia neu’r rhai sy’n delio gydag effaith strôc.

Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os ydych angen cymorth i gadw’n ddiogel ac annibynnol yn eich cartref.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.