Posted: 29.09.2023
Author: jack
“Mae Gofal a Thrwsio wedi fy helpu oherwydd pan oeddwn i’n dod allan o’r bath roeddwn yn gorfod cael step ac roedd gen i ofn mawr y byddwn yn colli fy malans ac yn syrthio”, meddai Dai.
Roedd Dai wedi prynu ei gartref am ddim ond £350 yn 1965 ac mae’n falch ei fod yn dal i fyw yno. Anfonodd Gofal a Thrwsio y gweithiwr achos Heulwen i weld sut gallem helpu.
Dywedodd Heulwen, “Fel ateb tymor byr fe wnaethom roi canllawiau bach dros y bath i’w helpu i fynd mewn ac allan. Ond roedd yn dal yn anodd, felly fe wnes atgyfeiriad i therapi galwedigaethol gydag argymhellion ar gyfer grant cyfleusterau i’r anabl ar gyfer addasiadau i’r ystafell ymolchi.”
Gosodwyd cawod ystafell wlyb newydd ar gyfer Dai, gan olygu y medrai ymolchi heb ofni syrthio.
Sylwodd Heulwen hefyd nad oedd Dai yn clywed gystal ag yr oedd. Dywedodd, “Mae Mr Meredith wedi colli peth o’i glyw, felly roedd clywed cloch y drws yn un o’r pethau oedd yn anodd iddo. Felly fe wnes archebu cloch drws gyda goleuadau yn fflachio arni. Os na all glywed cloch y drws, gall weld y goleuadau’n fflachio.
Trefnwyd hefyd i i roi canllawiau yn yr ardd ac wrth ymyl y drysau i gartref Dai. Mae hyn wedi galluogi Dai i fynd o amgylch yn ddiogel ac yn rhwydd.
Mae gan wasanaeth Ymdopi’n Well Gofal a Tthrwsio weithwyr achos neilltuol, fel Heulwen, sy’n cefnogi pobl gyda cholli clyw, colli golwg, dementia neu’r rhai sy’n delio gydag effaith strôc.
Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os ydych angen cymorth i gadw’n ddiogel ac annibynnol yn eich cartref.