Posted: 25.07.2025
Author: sarah
Mae Judith Williams, sy’n nain 80 oed, yn un o fwy na 5,500 o bobl a gafodd gefnogaeth dros y flwyddyn ddiwethaf gan Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych sy’n gwasanaethu ardal eang, yn ymestyn o Lanfairfechan i Langollen.
Mae’r sefydliad di-elw, sy’n is-gwmni i gymdeithas dai Grŵp Cynefin, yn rhoi cymorth i bobl dros 60 oed mewn eiddo preifat neu eiddo ar rent.
Y nod yw eu helpu i barhau i fyw’n ddiogel, yn gynnes ac yn annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
Dros y 12 mis diwethaf mae’r elusen, sy’n cwmpasu Conwy a Sir Ddinbych i gyd, wedi helpu 276 o bobl i gynyddu eu hincwm budd-daliadau lles £931,813 ac wedi helpu i ddod o hyd i gyllid ar gyfer gwelliannau, addasiadau a chyngor sydd wedi newid bywydau.Helpodd gweithwyr achos Judith Williams i sicrhau cyfradd uwch y Lwfans Gweini wythnosol o £110.40 ar ôl i’w hymchwiliadau ddatgelu nad oedd yn derbyn y budd-dal yr oedd ganddi hawl iddo. Ac ariannodd yr asiantaeth hefyd welliannau allweddol i gartref Judith, sy’n gyn-athrawes gerddoriaeth, y mae’n ei rannu gyda’i gŵr Gwilym, 83 oed.
Cysylltodd Mrs Williams, o Fae Penrhyn, gyda Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych ar ôl dioddef cwymp yn ei chartref.
Fe wnaeth yr asiantaeth osod rheiliau ar ddrysau blaen a chefn cartref y pâr oedrannus a gwneud gwelliannau i’r grisiau blaen.
Gosodwyd rheiliau hefyd ar y grisiau, yn y neuadd a’r porth, ac yn y toiled i lawr y grisiau, ac yn ogystal fe wnaeth staff Gofal a Thrwsio gynllunio adnewyddu’r ystafell ymolchi i fyny’r grisiau, gan ei throi’n ystafell wlyb hawdd ei defnyddio gyda rheiliau diogelwch.
Er bod y Judith a Gwilym wedi talu’n breifat am y gwaith yn yr ystafell ymolchi, trefnodd yr asiantaeth eithriadau TAW a chostau llafur ar eu rhan.
Yn ôl Mrs Williams, mae’r sefydliad yn “un mewn miliwn”.
Dywedodd: “Mi wnes i syrthio wrth y giât yn ceisio dod â’r bin i mewn. Mi wnes i syrthio am nôl, a bu’n rhaid i mi gael cymorth dwy wraig a oedd yn pasio heibio i godi, yn ffodus roedd un ohonyn nhw’n barafeddyg.
“Mi wnaethon nhw fynnu fy mod i’n mynd i’r Adran Ddamweiniau oherwydd fy mod i wedi taro fy mhen. Y diwrnod canlynol fe wnaeth cymydog ar draws y ffordd fy nghynghori i ffonio Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych.”
Dywedodd Mrs Williams, a oedd yn arfer dysgu cerddoriaeth yn Ysgol John Bright yn Llandudno, ei bod wrth ei bodd gan fod y gwelliannau wedi caniatáu iddi aros yn y tŷ yr oedd hi wedi byw ynddo am 38 mlynedd.
Dywedodd bod cael y mesurau diogelwch ychwanegol yn rhoi mwy o hyder iddi o gwmpas y tŷ, yn enwedig pan mae’n gofalu am blant ei merch Bethan, sef Megan, pedair oed, ac Ifan, dwy oed.
Dywedodd Mrs Williams, sy’n bianydd dawnus ac yn perfformio gyda Chôr Alaw ym Mae Colwyn: “Rydyn ni’n gofalu am ein hwyrion ddeuddydd yr wythnos ac maen nhw’n ein cadw ni’n brysur o gwmpas y tŷ.
“Rydych chi’n colli hyder ar ôl cwympo, felly mae cael y rheiliau yn helpu, mae’n gwneud i mi deimlo’n fwy diogel. Fedra i ddim plygu a chodi nôl i fyny heb golli fy ngwynt a chael pendro, felly mae’n bwysig cael y rheiliau i ddal gafael ynddyn nhw. Mi gawson ni waith wedi’i wneud ar y grisiau blaen, oherwydd eu bod yn rhy uchel, ac am ein bod wedi cael dau achos o syrthio ar y grisiau. Mae’r ystafell ymolchi wedi’i thrawsnewid bellach, mae’n wych. Mae ganddi gawod cerdded i mewn a rheiliau llaw i’m helpu. Roeddwn i’n ei chael yn anoddach dringo dros y bath i fynd i’r gawod, oherwydd bod y gawod wedi’i gosod dros y bath cyn hyn. Heb holl gymorth yr asiantaeth, dydw i ddim yn gwybod sawl tro y byddwn i wedi cwympo. Roedd y gweithwyr a ddaeth yma i wneud y gwaith yn wych, a phob nos roedden nhw’n glanhau ar eu holau, doedd dim rhaid i mi wneud dim.”
Dywedodd Mrs Williams nad oedd hi erioed wedi clywed am y Lwfans Gweini, heb sôn am sylweddoli ei bod hi’n colli allan.
Dywedodd ei bod wedi defnyddio’r cyllid i dalu am rywun I wneud gwaith glanhau a smwddio.
Roedd y gweithiwr achos Amanda Derbyshire yn falch eu bod wedi gallu gwneud cymaint o wahaniaeth i fywyd Mrs Williams, a dywedodd fod y gefnogaeth a gynigiwyd yn nodweddiadol o’r gwaith y gall yr elusen ei wneud.
Dywedodd: “Mae’r cyfan yn helpu gydag annibyniaeth ac aros yn eich cartref, oherwydd dyna beth rydyn ni i gyd eisiau.
“Mae’n ymwneud ag aros yn eich cartref cyn hired â phosibl, aros yn rhywle lle rydych chi eisiau bod.”
Yn ogystal â chysylltu â thimau cwympiadau y GIG a roddodd gyngor, fe wnaethon nhw gysylltu ag elusen leol hefyd i roi arweiniad i Mrs Williams, sy’n drwm ei chlyw, ar systemau ffôn sain uwch.
Fe wnaethon nhw helpu’r cwpl i wneud cais llwyddiannus am drwydded parcio Bathodyn Glas, ac fe wnaeth y sefydliad hyd yn oed gysylltu gyda’r gwasanaeth tân, gan ofyn iddynt wirio larymau mwg Gwilym a Judith. Gosododd y gwasanaeth tân larymau mwg newydd a rhoi cyngor diogelwch.
Dywedodd Amanda nad oedd llawer o bobl yn ymwybodol o’r budd-daliadau yr oeddent yn colli allan, fel y Lwfans Gweini.
Dywedodd: “Mae’r Lwfans Gweini yn fudd-dal anabledd heb brawf modd i bobl o oed pensiwn y wladwriaeth a gallant ei hawlio os ydyn nhw’n cael anawsterau gyda thasgau gofal personol o ddydd i ddydd. Dydy llawer o bobl ddim eisiau gweld eu hunain yn anabl neu’n cael anawsterau ond rydw i bob amser yn dweud ei bod hi’n werth gwneud cais, oherwydd gall agor y drysau i bethau eraill fel Credyd Pensiwn.”
Ychwanegodd y Prif Swyddog Lynda Colwell: “Rydym hefyd yn darparu cyngor ac arweiniad hanfodol er mwyn helpu pobl hŷn i reoli eu defnydd o ynni, lleihau biliau, a chadw’n gynnes – sy’n arbennig o bwysig yn ystod misoedd oerach.
“Mae ein gwaith yn mynd y tu hwnt i’r cartref corfforol; Rydym yn cefnogi pobl i aros yn eu cymunedau, sy’n hanfodol ar gyfer eu lles a’u ysylltiadau cymdeithasol. Rhan allweddol o’n gwasanaeth yw adolygu incwm aelwydydd i sicrhau bod pobl hŷn nid yn unig yn gwresogi eu cartrefi ond hefyd yn gallu fforddio bwyd maethlon. Rydyn ni’n eu helpu i gael mynediad at y budd-daliadau y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw, a all wella ansawdd eu bywyd yn sylweddol a lleihau teimladau o ynysu ac unigrwydd. Mae’r dull gweithredu cyfannol yma wrth wraidd popeth rydyn ni’n ei wneud.”