Posted: 22.11.2024
Author: jack
Mae Andrew Vye yn Gyfarwyddwr yn Pobl, cymdeithas tai fwyaf Cymru, a daeth yn Gadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Care & Repair Cymru ym mis Medi 2024. Mae Andrew yn brofiadol iawn yn y sector tai ac mae ganddo hefyd flynyddoedd lawer o brofiad o fod yn ymddiriedolydd.
Felly cawsom sgwrs gydag Andrew i ddod i’w adnabod ychydig yn well a chlywed beth mae’n ei olygu iddo i fod yn ymddiriedolydd.
Rwyf newydd wrando ar Patterns in Repeat, albwm newydd Laura Marling. Y peth olaf i mi fynd i’w weld oedd y Bluetones yn Sin City yn Abertawe. Band gwych o’r 90au sy’n dal i fynd.
Mae hynny bob amser wedi bod y bobl rwy’n gweithio gyda nhw … mae’r byd Tai, Gofal a Chymorth yn tueddu i ddenu’r bobl rwy’n cysylltu orau gyda nhw..
Fe wnaeth fy hen fos, Chris Jones, sy’n awr yn Brif Swyddog Gweithredol Care & Repair Cymru fy narbwyllo i ddod yn ymddiriedolydd .. ac rwy’n falch iawn iddo wneud hynny! Corff gwych sy’n gwneud gwahaniaeth mawr i bobl hŷn ar draws Cymru. A thîm gwych hefyd.
Ar hyn o bryd rwy’n aelod o fwrdd Cartrefi Cymunedol Cymru – corff aelodaeth cymdeithasau tai yng Nghymru. Corff gwych arall sy’n cyflawni llawer mwy na’i bwysau. Rwyf ar fin sefyll lawr ar ôl gwasanaethu am chwe mlynedd, ond wrth feddwl yn ôl rwy’n deall nawr faint oedd gennyf i ddysgu am rôl bod yn ymddiriedolydd yn hytrach na chyflogai. Gall fod yn anodd pontio ac mae’n rhywbeth sydd angen ei wneud gan fod yn wir agored i ddysgu ac ymdeimlad eich bod yn rhan o dîm sy’n rhannu gweledigaeth gyda’r tîm ehangach.
Edrychwch am gyfle gyda chorff gyda gwerthoedd cydnaws i’ch rhai chi ac sy’n gweithredu mewn maes sy’n bwysig i chi. Os nad yw’r hyn y mae’r sefydliad yn ei wneud yn bwysig i chi neu os nad ydych yn credu yn yr hyn maent yn ceisio ei gyflawni, mae’n debyg na fyddwch yn ymddiriedolydd da iawn.
Mae heriau poblogaeth sy’n heneiddio yn hysbys iawn ac mae llawer mwy o alw am ein gwasanaeth nag o gyflenwad ar gael. I waethygu pethau, mae’r amgylchedd cyllid mor heriol ag y gallaf ei gofio. Ond ar yr un pryd mae cyfleoedd sylweddol i ysgogi mwy o gyllid, cysylltu gyda gwahanol bartneriaid a chyrraedd mwy o bobl. Bydd ein ffocws ar sicrhau sefydlogrwydd ariannol ar gyfer Gofal a Thrwsio drwy ymrwymiadau cyllid hirdymor gan iechyd a chyrff eraill, gan ddweud ein stori mewn ffordd mor afaelgar fel na fedrir anwybyddu manteision buddsoddi yn Gofal a Thrwsio ac ymchwilio partneriaethau a chyfleoedd cyllid newid ar gefn buddsoddiad sylweddol gan y Llywodraeth mewn datgarboneiddio ac ynni adnewyddadwy.
Rwy’n credu fod gan Gofal a Thrwsio le unigryw i fod yn rhan o’r datrysiad ac ar yr un pryd i hybu ein huchelgais – mae gennym rwydwaith ledled Cymru o weithwyr achos a sefydliadau sy’n gweithio yng nghartrefi miloedd o bobl hŷn bob blwyddyn. Gallwn fod yn rhan o’r datrysiad i ddatgarboneiddio ac ar yr un pryd helpu i ddod â miloedd o bobl hŷn allan o gartrefi ansawdd gwael a thlodi tanwydd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â Care & Repair Cymru fel Ymddiriedolydd, edrychwch os gwelwch yn dda ar ein Pecyn Recriwtio Ymddiriedolwyr.