Posted: 16.09.2024
Author: jack
Fe wnaeth y biliau tanwydd parhaol uchel hefyd daro ar bobl hŷn yn 2023/24, ac er bod prisiau ynni wedi gostwng ychydig erbyn diwedd y cyfnod, hyd yn oed yn awr mae prisiau ynni 39% yn uwch nag oeddent yn ystod gaeaf 2021/22.
Gwelwyd cynnydd arall flwyddyn-ar-flwyddyn yn y galw am ein gwasanaethau. Mae’r tueddiad hirdymor hwn oherwydd cynnydd enfawr mewn costau llafur a deunyddiau adeiladu, llai o incwm gwario ac anghenion mwy cymhleth gan bobl hŷn – caiff y materion hyn eu hystyried yn llawn yn ein hadroddiad pwysig Cyflwr Tai Pobl Hŷn yng Nghymru.
Blwyddyn o alw cynyddol
Bu cynnydd sylweddol yn y gwasanaethau y gwnaethom eu darparu y llynedd o gymharu â 2022/23, gyda 24% yn fwy o wasanaethau wedi eu darparu i gefnogi pobl hŷn i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, a chwblhau 10% yn fwy o swyddi gwella cartrefi. Gwelsom hefyd gynnydd o 19% yng ngwerth y gwaith a gwblhawyd a chynnydd o 32% mewn budddaliadau a sicrhawyd ar gyfer ein buddiolwyr oedd â hawl iddynt.
Mae cyllid yn hanfodol i’n gwaith. Felly, roeddem yn hynod falch i Lywodraeth Cymru, drwy gydnabod y pwysau arnom ac effaith ein gwaith, gynyddu cyllid Gofal a Thrwsio gan 6%. Yn ychwanegol, roedd cynnydd o £0.5 miliwn yn ystod cyfnod y gaeaf i gefnogi pobl i fynd adre o ysbyty a buddion ataliol ein Rhaglen Addasiadau Brys ledled Cymru.
Fe wnaethom hefyd sicrhau ffrydiau cyllid rhagorol yn ystod y flwyddyn yn 2023/24 gyda cheisiadau llwyddiannus i:
Uchafbwynt y flwyddyn oedd ennill gwobr bwysig Effaith Iechyd GSK a Kings Fund. Roeddem yn un o ddim ond deg enillydd o 520 o blith ymgeiswyr trydydd sector yn y Deyrnas Unedig, gan gydnabod effaith ein gwaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth. Roedd y wobr o £40,000, fideos cyhoeddusrwydd a gynhyrchwyd yn broffesiynol ynghyd â hyfforddiant ar arweinyddiaeth a chyfleoedd rhwydweithio yn dderbyniol iawn.
Drwyddi draw, bu’n flwyddyn foddhaol o gyflawni nodau darpariaeth gwasanaeth ar gyfer ein cleientiaid a thyfu fel sefydliad. Fel Cadeirydd a Phrif Weithredwr, hoffem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein gwaith yn ystod 2023-24; Asiantaethau Gofal a Thrwsio, Llywodraeth Cymru, partneriaid cenedlaethol a lleol, partneriaid trydydd sector a’n holl gyllidwyr.
Hoffem hefyd dalu teyrnged i dîm staff gwych Care & Repair Cymru am eu gwaith caled a’u hymroddiad ac am wneud cymaint o wahaniaeth i ansawdd bywyd pobl hŷn ledled Cymru.
Chris Jones, Prif Weithredwr
Saz Willey, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr