Mae diogelwch trydan yn aml yn ddarn hanfodol o’r pos wrth sicrhau y gall pobl hŷn ledled Cymru fyw’n ddiogel, annibynnol ac yn urddasol yn eu cartref, ond yn aml mae’n rhywbeth a gaiff ei ddiystyru. 

Mae cost uchel gwaith trwsio trydanol ynghyd â’r heriau ychwanegol sy’n wynebu pobl hŷn wrth gael gwaith wedi ei wneud yn y cartref (yn cynnwys diffyg mynediad i’r rhyngrwyd i chwilio am weithwyr gydag enw da, pryderon am sgamiau a heriau gwybyddol a chorfforol) yn golygu bod gwaith trwsio trydanol a gwaith diogelwch ataliol yn aml allan o gyrraedd pobl hŷn. 

Gan gydweithio, mae Gofal a Thrwsio ac Electrical Safety First ar y cyd wedi cynhyrchu Cynllun Grant Gwella Trydanol pwrpasol sydd ar gael i gleientiaid Gofal a Thrwsio sydd heb gyllid i wella cyflwr a diogelwch gwaith trydan yn eu cartrefi. Roedd y Gronfa ar gael ledled Cymru dros gyfnod o 5 mis i gynnig hyd at £1,000 tuag at waith cysylltiedig â thrydan ar gyfer perchnogion cartrefi a thenantiaid sector preifat 60 oed a throsodd (neu 50+ os yn byw gyda cholled synhwyraidd) ac sy’n cyflawni un neu fwy o feini prawf yn gysylltiedig â modd neu anabledd. 

Mae ein hadroddiad newydd yn asesu effaith y Cynllun Grant Gwella Trydanol. 

Mae ein canfyddiadau allweddol yn cynnwys: 

  • Gall gwaith trydan peryglus ac wedi niweidio olygu bod pobl hŷn yn byw mewn cartrefi oer, tywyll a pheryglus. Fe wnaeth nifer o’r mathau o waith oedd yn gymwys dan y Gronfa gyfrannu at wella diogelwch mewn cartrefi tu hwnt i ddim ond ansawdd y gwaith trydan: gallai gwifrau yn llusgo a goleuadau gwael gyfrannu at i bobl gael damwain neu syrthio yn y cartref a golygu nad yw pobl hŷn yn medru byw’n ddiogel ac annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. 
  • Effaith ar iechyd meddwl a llesiant – mae gan ddiogelwch trydanol ddylanwad mawr ar ba mor ddiogel a hapus mae pobl hŷn yn deimlo yn eu cartrefi. O gleientiaid Gofal a Thrwsio a ddefnyddiodd y Cynllun, dywedodd 59% nad oeddent yn teimlo’n ddiogel yn eu cartrefi a rhoddodd 14% sgôr o 1 allan o 10 i’w hapusrwydd yn eu cartrefi. 
  • Cefnogi’r symud i deleofal – fe wnaeth 74% o’r gwaith a wnaed drwy’r Cynllun helpu i wella neu alluog gosodiadau trydan safonol modern sy’n gweithio’n ddibynadwy yng nghartrefi pobl hŷn. 
  • Cefnogi pobl hŷn gyda chyflyrau iechyd – roedd 71% o bobl a gafodd gymorth drwy’r Cynllun wedi cofrestru’n anabl. Dywedodd 29% o bobl a gafodd gymorth drwy’r Cynllun wrthym eu bod y byw gyda cholled synhwyraidd. Dim ond 16% o bobl a ddefnyddiodd y Cynllun oedd heb gofrestru’n anabl neu’n byw gyda cholled synhwyraidd. 
  • Fe wnaeth y gronfa hwyluso gwaith trydanol neu waith trwsio oedd yn galluogi gwaith arall i fynd yn ei flaen i wneud y cartref yn fwy diogel ac addas ar gyfer byw annibynnol. Er enghraifft, mae’n hanfodol cael gwaith trydan ansawdd da, diogel a modern i gefnogi hygyrchedd tai a sicrhau y gall darpariaeth addasiadau statudol tebyg i’r Grantiau Cyfleusterau i’r Anabl fynd ymlaen heb oedi. 
  • Soniodd y Cynllun am bwysigrwydd Gofal a Thrwsio fel gwasanaeth ymweld â chartrefi. Drwy ein Gwiriadau Cartrefi Iach, yn aml roeddem yn medru dynodi bod gwaith trwsio diogelwch trydanol yn broblem nad oedd cleientiaid wedi paratoi ar ei chyfer ac nad ydynt yn sylweddoli ei bod yn broblem. 

Mae gwaith trydan da yn cefnogi pobl hŷn yng Nghymru i gael y gofal mae ganddynt hawl iddo yn nes at eu cartrefi eu hunain, cynnal ansawdd da o fywyd a gostwng neu oedi’r angen am ofal a chymorth tymor hirach.  

Ein argymhellion polisi

  • Gwiriadau diogelwch trydanol rhad ac am ddim ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru a gyflwynir bob pum mlynedd.

  • Grant rhwyd ddiogelwch ar gyfer cartrefi mewn cyflwr peryglus a all unioni unrhyw broblemau a ganfyddir drwy wiriad diogelwch trydan rhad ac am ddim.

  • Sefydlu gwaith trydan yn Rhaglen Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru.

  • Ymgyrchu i gynyddu ymwybyddiaeth o ddiogelwch trydan.

Mae’n ddi-os fod gwaith Electrical Safety First a Care & Repair yn arbed bywydau a hefyd gartrefi.” – Mike Hedges AS, Aelod o’r Senedd dros Ddwyrain Abertawe 

Darllen yr adroddiad

Working Together

Electrical Safety First

Ymroddedig i leihau nifer yr anafiadau a marwolaethau a achosir gan drydan ar draws y DU.

Care & Repair Cymru

Elusen Gymreig sy’n helpu pobl hŷn i fyw’n annibynnol trwy atgyweiriadau, addasiadau a chynnal a chadw cartrefi.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.