Oriel Lluniau Addasu Cartrefi

Mae’r lluniau ar y dudalen hon yn dangos y mathau o waith yr ydym wedi’i wneud a’r gwaith addasu sydd ar gael gan amlaf. Ni allwn warantu y bydd yr union un gwaith addasu ar gael yn eich ardal chi, gan fod cyllid, deunyddiau, cyflenwyr a chontractwyr yn amrywio mewn gwahanol ardaloedd. Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i ganfod beth sy’n bosibl yn eich ardal chi.

Mân Waith Addasu

Mae gwaith addasu bach neu fân yn gyffredinol yn cynnwys gwahanol fathau o ganllawiau y gellir eu gosod yn gyflym ac yn gymharol rad. Mae cymhorthion a gwaith addasu bach eraill yn cynnwys cypyrddau allwedd, codwyr soffa a seddi cawod. Mae llawer mwy heb eu rhestru yma.

Gwahanol fathau o Ganllawiau Mewnol

Gwahanol fathau o Ganllawiau Allanol

Man Gymhorthion a Gwaith Addasu arall

Gwaith Addasu Mawr

Yn gyffredinol mae gwaith addasu mawr neu sylweddol yn cynnwys rampiau, ystafelloedd gwlyb, drysau mynediad gwastad a symud drysau neu doiledau. Yn aml gall y rhain gymryd nifer o ddyddiau neu wythnosau i’w gorffen ac maent yn ddrud.

Rampiau a Mynediad Cadair Olwyn

Ystafelloedd Gwlyb a Chawodydd Cerdded-i-Mewn

Gwaith Addasu Synhwyraidd

Ar gyfer y rhai gyda cholli golwg, colli clyw neu dementia, gall fod newidiadau penodol i gartref sy’n eu gwneud yn haws ymdopi. Mae hyn yn cynnwys goleuadau tasg, offer sain deallus, clychau drws sy’n fflachio, dyfeisiau gwrando personol a larymau CO arbenigol.

Rydym yn gwneud mwy na dim ond gwaith addasu.

Ewch i’n tudalen Sut y Gallwn Helpu i weld y rhestr lawn o gymorth a gynigiwn i bobl hŷn yng Nghymru.

Sut y gallwn helpu

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.