Gallwch helpu i gefnogi pobl hŷn yng Nghymru drwy godi arian.
P’un ai ydych yn unigolyn, yn aelod o grŵp neu’n fusnes, mae llawer o ffyrdd y gallwch gymryd rhan mewn codi arian.
If you would like more information about fundraising for Care & Repair please email jack.bentley@careandrepair.org.uk
Faint ydych chi’n wario ar bethau nad ydych eu hangen mewn gwirionedd? Beth am roi’r gorau i siwgr, te, coffi, ysmygu, yfed alcohol, prynu dillad neu yrru i’r gwaith? Gallwch wedyn naill ai gyfrannu’r arian a arbedwch neu gael ffrindiau a chydweithwyr i’ch noddi, neu’r ddau!
Oes gennych chi lond cwpwrdd o ddillad nad ydych byth yn eu gwisgo? Nid chi yw’r unig un, mae gan y rhan fwyaf o bobl lawer mwy nag maent eu hangen. Beth am drefnu ffeirio dillad gyda ffrindiau? Mae’n ffordd hwyliog i godi arian ac adnewyddu eich cwpwrdd dillad ar yr un pryd.
O deithiau cerdded a rhedeg wedi eu noddi, i deithiau beic hwyl i’r teulu, dringo mynyddoedd, syrffio a snorcelu mwd, mae digonedd o gyfleoedd i gymryd her bersonol.
Mae pawb angen golchi eu car o bryd i’w gilydd. Gallech holi ffrindiau, cydweithwyr, cymdogion neu hyd yn oed y maes parcio yn eich archfarchnad leol. Bwced a sbwng yw’r cyfan rydych ei angen!
Mae cynnal cwis yn ffordd hwyliog i godi arian. Nid yw’n rhaid iddo fod mewn tafarn, gallech ei gynnal yn eich canolfan gymunedol leol neu hyd yn oed yn eich cartref eich hun. Codwch dâl bach am gymryd rhan a chynnig gwobrau i’r tîm buddugol. Mae’n sicr o ennyn diddordeb pobl a’u cael yn awyddus i ennill!
Pwy sy’n cofio Bob a Job neu Strive for Five? Beth am gynnig gwneud neges neu lanhau i rywun a gofyn am gyfraniad?
Mae ailgylchu pethau nad ydym eu heisiau yn ein helpu i gadw trefn ar ein bywydau, mae’n dda i’r amgylchedd ac yn ffordd rwydd i godi ychydig o bunnau i wella ansawdd bywyd ar gyfer pobl hŷn.
Mae’n dda i’ch iechyd. Mae’n gyfle i gwrdd â phobl newydd, mae’n ddifyr ac mae am ddim. Beth am drefnu taith gerdded machlud gyda grŵp o ffrindiau? Mwynhau golygfeydd ysblennydd ar yr un pryd â chodi ymwybyddiaeth a helpu i adeiladu Cymru lle gall pob person hŷn ddewis byw’n annibynnol mewn cartref cynnes a diogel.
Cynhaliwch glwb cinio lle caiff staff eu gwahodd i goginio a dod â’u cinio a gwneud cyfraniad. Gallech gael thema i’ch clwb cinio e.e. bwyd o bob rhan o’r byd.
Dim bwys beth yw’r digwyddiad, mae swîp yn hwyl ac yn rhwydd ei threfnu. Gallwn roi templed; y cyfan sy’n rhaid i chi wneud yw cael eich ffrindiau neu gydweithwyr i dalu punt neu ddwy am gymryd rhan, ac wedyn gallwch roi hanner yr hyn a wnewch i’r enillydd a hanner i Gofal a Thrwsio.
Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol heddiw.