Mae Gofal a Thrwsio wedi cyhoeddi llyfryn newydd sy’n llawn cyngor fydd yn eich cadw’n gynnes yn ystod y gaeaf.

Wedi’i gyhoeddi wrth ochr lansio gwasanaeth newydd Hynach Nid Oerach, mae’r llyfryn yn llawn gwybodaeth am gadw eich cartref yn gynnes a’ch biliau yn is. Mae’n rhoi sylw i:

  • Ffyrdd syml i arbed ynni yn y cartref
  • Grantiau llywodraeth sydd ar gael i berchnogion cartrefi
  • Cyngor os ydych yn cael anhawster talu biliau ynni
  • Budd-daliadau a all helpu i fforddio biliau
  • Sgamiau ynni i wybod amdanynt
  • A mwy!

Pethau GWNEWCH a PHEIDIWCH os ydych yn cael anhawster gyda biliau ynni

  • GWNEWCH geisio siarad gyda’ch cyflenwr ynni i drafod ffordd i gallu sy’n gweithio i’r ddau ohonoch. Gall ein Swyddogion Ynni Cartref gysylltu gyda’ch cyflenwr ynni ar eich rhan.
  • GWNEWCH geisio cytuno ar gynllun i dalu dyled mewn rhandaliadau. Mae’n bwysig hysbysu eich cyflenwr am eich amgylchiadau. Er enghraifft, dywedwch wrthynt am unrhyw gyflwr iechyd a all fod gennych. GWNEWCH gael cyngor am ddim am effeithiolrwydd ynni. Gallwn roi cyngor arbenigol i chi ar y ffyrdd gorau i arbed ynni yn eich cartref, gan gadw eich biliau mor isel ag sydd modd.
  • GWNEWCH roi eich enw ar y Gofrestr Wasanaethau Blaenoriaeth. Gallwch roi eich enw drwy eich cwmni ynni. Bydd hyn yn golygu y bydd gennych hawl i gymorth blaenoriaeth mewn argyfwng, gwasanaeth darllen mesurydd yn rheolaidd, help gydag ailgysylltu eich cyflenwad nwy a chymorth ychwanegol pan fyddwch yn galw eich rhwydwaith.
  • PEIDIWCH ag anwybyddu llythyrau neu osgoi cysylltu gyda’ch cyflenwr ynni, fel arall gallech fod mewn risg o ddatgysylltu.
  • PEIDIWCH â chadw’n dawel os ydych mewn anawsterau. Os ydych yn talu drwy fesurydd blaendalu, efallai y bydd modd i chi gael taleb tanwydd drwy eich cyngor lleol neu wasanaeth cymorth lleol. Gallwn eich helpu i wirio os oes gennych hawl i unrhyw gymorth ariannol.
  • PEIDIWCH  â chanslo eich debyd uniongyrchol neu gytundeb credyd gyda’ch cyflenwyr ynni. Efallai y gallwch gael cymorth ariannol gan ymddiriedolaethau, ond mae hyn yn fwy tebygol os ydych wedi bod yn ceisio gwneud taliadau rheolaidd na phe byddech wedi stopio talu’n gyfan gwbl.

ANGEN GOFAL: Sgam Insiwleiddio Atig

Mae’r argyfwng costau byw ac ynni wedi golygu fod llawer o aelwydydd yn bryderus am dalu eu biliau ynni ac yn edrych ar wneud gwelliannau ynni i’w cartrefi. Yn anffodus, mae masnachwyr twyllodrus a sgamwyr wedi manteisio ar y cyfle hwn i werthu cynnyrch sy’n hawlio eu bod yn arbed arian i chi ar eich biliau ynni.

Daeth cynnych insiwleiddiad chwistrellu ewyn mewn atigau yn fwy poblogaidd mewn blynyddoedd diweddar, ond yn anffodus gallai fod yn niweidiol iawn i’ch cartref. Gall insiwleiddio ewyn yn yr atig hefyd ei gwneud yn anodd gwerthu eich cartref a gall fod yn gostus iawn i’w dynnu. Cynhaliodd Newyddion y BBC ymchwiliad i’r broblem yma yn ddiweddar, a gallwch ddarllen amdano yma.

Cael y Llyfryn

Defnyddiwch y botwm isod i lawrlwytho’r PDF o’r llyfryn am ddim neu gallwn bostio copi ar bapur atoch – i ofyn am hyn, anfonwch e-bost at Jack: jack.bentley@careandrepair.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.