Mae pobl hŷn Fyddar neu drwm eu clyw ledled Cymru yn cael eu hannog i roi eu henwau ar gyfer cymorth a fedrai o bosibl arbed bywyd, fel rhan o bartneriaeth rhwng Care & Repair Cymru a Wales & West Utilities.

Mae 36 o systemau larwm carbon monocsid (CO) arbenigol) ar gael i bobl hŷn fregus nad yw systemau sain arferol efallai yn eu diogelu, a chaiff unigolion cymwys eu hannog i wneud cais neu ofyn am atgyfeiriad cyn diwedd mis Mawrth.

Caiff y larymau CO arbenigol dirgrynnol a gweledol eu dosbarthu fel rhan o brosiect Ymdopi’n well Care & Repair Cymru, gwasanaeth sy’n ymweld â chartrefi yn rhad ac am ddim i gynnig cyngor a help ymarferol ar gyfer pobl dros 50 oed sydd â cholli clyw, colli golwg, dementia neu a gafodd strôc.

Mae carbon monocsid yn achosi bygythiad difrifol i iechyd pobl oherwydd nad oes ganddo arogl na lliw ac na fedrir ei weld, pan na chaiff ei ganfod, ac mae larymau CO traddodiadol yn dibynnu ar rybudd sain, a all beidio bod yn effeithiol ar gyfer pobl sy’n fyddar neu drwm eu clyw. Mae’r prosiect yn anelu i ddileu’r rhwystr hwnnw drwy ddarparu technoleg hygyrch sy’n sicrhau y gall rhybuddion gael eu gweld neu eu teimlo, nid dim ond eu clywed.

Mae Care & Repair Cymru yn dosbarthu’r systemau larwm CO arbenigol, gyda phob system yn cynnwys trawsyrrydd canfod CO y gellir ei gysylltu gydag amrywiaeth o ddyfeisiau cymhathol yn dibynnu ar angen unigol, yn cynnwys galwyr dirgrynol, ysgydwyr gwely ac oriorau rhybudd gan sicrhau y caiff defnyddwyr eu hysbysu yn ystod y dydd a’r nos.

I fod yn gymwys am yr offer hwn, mae’n rhaid i unigolion fod yn 50 oed neu drosodd, bod â cholli clyw neu’n Fyddar, a heb fod â larwm CO sy’n diwallu eu hanghenion ar hyn o bryd.

Stori Michelle

“Fy enw i yw Michelle ac enw fy ngŵr yw Anthony, mae’r ddau ohonon ni yn Fyddar. Rydw i’n dod yn wreiddiol o Gaerdydd ac mae ef o’r Cymoedd. Rydyn ni wedi byw yma am tua 28 mlynedd, hwn yw ein cartref cyntaf gyda’n gilydd.

“Fe es i ddigwyddiad gan Gyngor Cymru i’r Byddar, a chwrdd â Mandy o Gofal a Thrwsio yno. Mae llawer o bobl yn yr hewl wedi cael help gan Gofal a Thrwsio felly roeddwn eisiau trafod gyda nhw am beth fedrent ei wneud i ni. Fe wnaethom siarad am ganllawiau y gallem eu cael ac wedyn hefyd am larymau CO. Ychydig wythnosau yn ôl daeth Mandy a mesur ar gyfer canllawiau, rhoi larwm CO newydd i fi ac esbonio sut mae’n gweithio.

“Mae gen i bad sy’n ysgwyd i’w roi dan y gobennydd pan fyddaf yn gwefru’r oriawr yn ystod y nos, felly os oes larwm CO mae’r gobennydd yn symud. Rydw i yn gwisgo’r oriawr yn ystod y dydd, ac os yw’r larwm yna yn canu gallwn fynd allan o’r tŷ yn gyflym.

“Mae Anthony yn aros am ben-glin newydd a rydw i’n dioddef o’r bendro, sy’n effeithio o ddifri ar fy nghydbwysedd. Felly mae’n llawer gwell gyda’r canllawiau, llawer mwy diogel.

“Mae llawer o bobl Fyddar yn cael offer gan yr awdurdod lleol neu Gyngor Cymru i’r Byddar, ond nid yw hynny yr un peth â chael yr oriawr yma neu’r canllawiau, Rydw i wedi dweud wrth fy ffrindiau am y larwm CO a’r oriawr, maent yn werth eu cael.”

Gwneud cais am Larwm CO

Cysylltwch â’ch asiantaeth Gofal a Thrwsio leol os gwelwch yn dda os byddech chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn cael budd o un o’r larymau CO arbenigol hyn. Caiff gweddill y larymau eu dosbarthu ar sail cyntaf i’r felin tra bod cyflenwad ar gael.

Yn ogystal â mynd i’r afael â phroblem dioigelwch hollwysig, mae’r larymau CO arbenigol hefyd yn rhoi’r offer mae poblogaeht fregus eu hangen i fyw’n ddiogel ac annibynnol.

Gyda’n gilydd, gallwn sicrhau na chaiff neb ei adael heb ei ddiogelu o beryglon carbon monocsid beth bynnag yw eu gallu i glywed. Ymunwch â ni yn yr ymgyrch bwysig hon i greu cartrefi mwy diogel a bywydau mwy iach ar gyfer pawb.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.