“Roeddwn i’n sownd, a fedrwn i ddim codi. Roeddwn yno am tua 4 awr.”

SMae Stephanie yn 74 oed ac yn byw ar ben ei hun ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Roedd yn yr ystafell ymolchi un noswaith a throdd yn rhy gyflym a cholli ei chydbwysedd. Syrthiodd ar y llawr ac aeth yn sownd rhwng y gawod a’r wal.

“Fe wnes droi yn rhy gyflym, a dyna ni. Roeddwn yn sownd a fedrwn ni ddim codi. Roeddwn yno am tua pedair awr.”

Diolch byth, daeth cymydog Stephanie draw y bore wedyn a’i chanfod. Roedd wedi torri ei chlun a bu’n rhaid iddi dreulio bron ddau fis yn gwella yn Ysbyty Tywysoges Cymru.

Pan oedd yn yr ysbyty, cysylltwyd â Gofal a Thrwsio fel y gallent helpu Stephanie i aros adref. Bu modd iddynt osod cist allwedd yn ei chartref a gosod canllawiau ar hyd ei llwybrau. “Mae’r gist allwedd yn wych, mae’n rhaid i mi ddweud. Mae’n rhoi ychydig bach mwy o sicrwydd i fi,” meddai Stephanie.

Daeth Christine, gweithiwr achos o Gofal a Thrwsio Sir Pen-y-bont ar Ogwr, i ymweld â Stephanie ac i roi Gwiriad Cartrefi Cynnes am ddim iddi a Phecyn Atal Syrthio. Mae hyn yn rhoi cyngor a gwybodaeth ar atal syrthio yn y cartref, yn ogystal â gwybodaeth ar beth i’w wneud os ydynt yn syrthio a sut i gadw’n egnïol.

Mae’n hanfodol osgoi syrthio pellach drwy gadw’n weithgar a chael y mesurau rhagofal iawn yn eu lle. Mae gan Christine flynyddoedd lawer o brofiad mewn cefnogi’r rhai sydd mewn risg o syrthio.

Dywedodd: “Os mai dim ond unwaith mae rhywun yn syrthio, mae hyn yn ei gwneud bron dair gwaith yn fwy tebygol y bydd yn digwydd eto yn y flwyddyn nesaf. Gwelais gymaint o achosion lle collodd cleientiaid eu hyder ar ôl syrthio. Gwelais cleientiaid sydd bron byth yn mynd allan, neu hyd yn oed i’w gardd eu hunain, oherwydd eu bod ganddynt ofn syrthio eto.”

Roedd Stephanie wedi bod yn gorwedd ar y llawr am sawl awr ar ôl syrthio, felly penderfynwyd y dylai gael Telecare Lifeline gyda thîm, ymateb symudol. Mae hyn yn gylch o amgylch ei gwddf gyda botwm argyfwng y gall ei bwyso pe byddai’n syrthio eto. “Nid dyma fy math arferol o emwaith ond mae’n gwneud y gwaith,” meddai Stephanie.

Gallodd Christine gael Stephanie ar y gofrestr blaenoriaeth gyda Western Power rhag ofn fod toriad pŵer a chofrestr blaenoriaeth Wales & West Utilities yn achos CO neu nwy yn gollwng.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol i ganfod sut y gallwn eich cadw’n ddiogel adre.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.