Cafodd Euronwydd Godwin, sy’n 80 mlwydd oed, gwymp arswydus yn ei chartref yng Ngogledd Corneli Pen-y-bont ar Ogwr, ddwy flynedd yn ôl. Doedd y meddygon ddim yn credu y byddai’n gweld y bore ac mae wedi adnewyddu ei gwerthfawrogiad o’i phlant ei hwyrion, ei gorwyrion a’r ardd y bu’n gofalu amdani am bron 60 mlynedd.


[RHYBUDD: mae’r astudiaeth achos yma’n cynnwys disgrifiad o anaf difrifol.]

“Fe godais am 2am i fynd i’r tŷ bach. Mae gennych fy ystafell wely, wedyn y grisiau ac wedyn yr ystafell ymolchi. Defnyddiais y tŷ bach ac wedyn fynd yn ôl i’r ystafell wely. Yr unig gof sydd gennyf yw rhoi fy nhroed mas yn hollol hyderus mod i’n mynd i mewn i fy ystafell wely. Dyna pryd y dysgais pa mor gryf yw disgyrchiant a pha mor gyflym y gall eich tynnu lawr.

“Rwy’n meddwl mod i wedi syrthio ar fy mhen i waelod y grisiau ac roedd fy nghoesau o gwmpas y gornel. Roeddwn mewn sioc. Roeddwn yn gwybod fod fy ffôn wrth ochr y gwely, ar y bwrdd bach. Roeddwn i’n teimlo’n wlyb ac yn stici, ac yn ddigon call i wybod mod i’n gwaedu. Roedd yn rhaid i mi fynd lan, felly fe symudais i droi ond roedd fy arddwrn chwith yn hongian yn ôl, wedi torri. Felly fe wnes gropian ar fy mhen-elinau’r holl ffordd, gan wthio lan gyda fy mhen-gliniau. Cropiais at y gwely a llwyddo rhoi fy mhen ôl ar y gwely ac yna symud  gan bwyll bach lan y gwely. Fe es i godi’r ffôn ond fedrwn i ddim ei dal oherwydd fod fy arddwrn yn chwilfriw. Felly meddyliais ‘Dal at i feddwl, mae’n rhaid i ti ddal ati i feddwl os wyt eisiau dal i fyw.

“Ffoniais rif Darrel fy mab, mae’n byw drws nesaf ond un. Daeth draw. Sai’n cofio fe’n mynd â fi lawr grisiau. Fe ffoniodd Cheryl, fy merch, a ffonio’r ambiwlans. Fe wnaethant ddweud nad oedd ambiwlans am saith awr.

“Mae’n rhaid mod i wedi dod ataf fy hun a chlywais ‘tap, tap’ a daeth Cheryl i mewn. Dywedodd, ‘Dduw mawr’ ac yna clywais ei phen yn taro’r llechi ar lawr y gegin. roedd yn rhaid iddi gael gludo ei phen mewn tri lle!

“Wn i ddim beth ddigwyddodd wedyn, ond y stori yw fod Derrel wedi rhedeg ar draws y ffordd a nôl ei fan gwaith. Mae ganddo fainc ynddi. Fe wnaeth fy nghario mas, fe wnaeth helpu Cheryl mas. Aeth â ni yn syth i A&E.

“Fe wnaethant fy anfon lan am 9:30am yn yr uned trawma yn Ysbyty’r Waun yng Nghaerdydd. Fe wnaethant ddweud fod fy arennau yn methu, bod asennau wedi torri a bod gen i dwll yn fy ysgyfaint. Roeddwn yn gwaedu tu mewn, a doedden nhw ddim yn credu y byddwn yn gweld y bore, Ond fe wnes.

“Roedd gen i ddau geulad ar fy ymennydd, roeddwn wedi torri fy ngên uchaf a fy arddwrn. Rwy’n meddwl mod i yno am 23 diwrnod ac wedyn fe wnaethant fy anfon yn ôl i Ysbyty Tywysoges Cymru.

“Roeddwn yn gwybod fod yn rhaid i fi fynd gartref  roeddwn eisiau gweld fy ngardd, roeddwn eisiau gweld fy nghoed. Ond y peth pwysicaf i mi oedd gweld fy mhlant, fy wyrion a fy ngor-wyrion.

“Clywais am y bobl hyfryd yma yn Gofal a Thrwsio ac fe wnaethant gael pethau mas yma i o fewn dyddiau. Roedd yn rhaid clirio lawr grisiau i gyd i wneud lle i’r gwely.”

Cheryl (merch Euronwydd):

“Fel y gallwch ddychmygu fe wnaeth damwain mam godi braw mawr arnom fel teulu, ac roeddem yn teimlo ein bod wedi ei cholli. Roedd yn yr uned trawma mawr yn Ysbyty’r Waun yng Nghaerdydd am chwech wythnos, a chafodd wedyn ei throsglwyddo i Uned Gofal Dwys Ysbyty Tywysoges Cymru.

“Roedd fy nghysylltiad cyntaf gyda Gofal a Thrwsio yn teimlo fel rhaff bywyd. Roeddem ni fel teulu yn ansicr pa help y byddai’n ei gael. Roeddem yn teimlo’n nerfus ac ofnus am iddi ddod gartref, a dim ond dyddiau oedd ganddon ni i drefnu’r offer cymorth ac addasu ar gyfer ei thŷ.

“Roedd yn rhwydd cysylltu gyda Cath Dixon (Gweithiwr Achos Gofal a Thrwsio) ac roedd yn gysur mawr. Cynhaliwyd ymweliadau cartref, daeth yr offer cymorth a’r gwaith addasu ar amser ac yn gyflym.

“Mae’r profiad o Gofal a Thrwsio wedi bod yn un mor gadarnhaol. Rwyf bob amser wedi medru cysylltu â Cath i gael cyngor ac mae Cath a’i thîm bob amser wedi cyflawni. Mae’r tîm bob amser mor gyfeillgar ac pharod eu cymwynas. Byddem wedi bod ar goll hebddynt.”

Cafodd Euronwydd eu chyfweld gan y BBC am ei chwymp ac i gynyddu ymwybyddiaeth am y risgiau a sut y gall addasiadau gan Gofal a Thrwsio helpu. Gallwch ddarllen hynny yma.

I gael mwy o wybodaeth am gwympiadau a sut i ostwng y risgiau, ewch i’n tudalen cwympiadau.

 

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.