Cynhadledd Gofal a Thrwsio 2026

Gweithredu Heddiw ar gyfer Yfory Mwy Diogel

24 Medi 2026, Gwesty Parkgate, Caerdydd

Y digwyddiad mwyaf yng Nghymru yn neilltuol ar dai pobl hŷn

Bydd cynhadledd eleni yn dod ynghyd ag arweinwyr, ymarferwyr a phartneriaid o bob rhan o Gymru i ymchwilio sut mae gweithredu ataliol mewn iechyd a thai yn adeiladu yfory mwy diogel. Wrth i’n poblogaeth heneiddio a phwysau ar iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu, daw rôl cartref yn fwyfwy tyngedfennol. Bydd y gynhadledd hon yn rhoi sylw i sut y gall ymyriad ac addasiadau cynnar wneud cartrefi yn fwy diogel ac yn fwy addas ar gyfer anghenion y preswylydd.

Drwy wybodaeth arbenigol, straeon go iawn a datrysiadau ymarferol, byddwn yn edrych yn fanwl sut y gall Cymru gymryd dull gweithredu ataliol, mwy rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn yn eu cartrefi eu hunain. O ostwng risg ac osgoi argyfwng i alluogi annibyniaeth a gwella llesiant, bydd Gweithredu Heddiw ar gyfer Yfory Mwy Diogel yn ymwneud â rhoi uchelgais ar waith.

Ymunwch â ni i fod yn rhan o weledigaeth a gaiff ei rhannu i Gymru gyfan – un lle mae’r cartref yn fwy na dim ond ble’r ydym yn byw, ond yn sylfaen ar gyfer byw’n dda.

Lleoliad

Eleni rydym yng Nghaerdydd!

Cynhelir y gynhadledd yn: Gwesty Parkgate. Y cyfeiriad llawn yw: Gwesty Parkgate, Westgate Street, Caerdydd CF10 1DA. Mae mwy o wybodaeth am y lleoliad ar gael ar wefan Gwesty’r Parkgate.

Os oes gennych fwy o gwestiynau am y digwyddiad, anfonwch e-bost at events@careandrepair.org.uk.

Rhaglen

Cyhoeddwyd rhaglen ragarweiniol ac mae’n cynnwys amserau sesiynau a phrif siaradwyr. Caiff rhaglen lawnach ei chyhoeddi yn fuan gyda manylion y gweithdai.

Archebu eich lle

When booking you will be asked for the dietary and accessibility requirements for you and all those you are booking for. Therefore, please have this information to hand before booking. Use the form below or click here to go to our Eventbrite page.

Siaradwyr y Gynhadledd

Rhian Bowen-Davies - Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

Penodwyd Rhian yn Gynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer mynd i’r afael â Thrais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol yn 2015, gan ddarparu cyngor annibynnol ac yn llunio a llywio datblygiadau deddfwriaethol, strategaeth a pholisi, yn ogystal â sbarduno gwelliannau o ran atal, amddiffyn a chefnogi pawb y mae trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt. Cyn iddi ymgymryd â’i swydd fel Comisiynydd, cafodd Rhian ei chydnabod fel Cadeirydd Arbenigol yr Adolygiadau Dynladdiadau Domestig sy’n ymwneud â phobl hŷn. Bu hefyd yn gweithio’n agos gyda chyrff cyhoeddus a sefydliadau’r trydydd sector ar hyd a lled Cymru fel ymgynghorydd annibynnol, yn darparu amrywiaeth eang o brosiectau ac ymchwil ar eu rhan er mwyn gwella polisi ac ymarfer.

Gwynne Jones — Former Managing Director, Cartrefi Conwy

Roedd Gwynne wedi gweithio mewn tai cymdeithasol am 33 mlynedd hyd at fis Gorffennaf 2020. Mae’n falch i fod yn Gadeirydd cyfredol Gofal a Thrwsio Conwy a Sir Ddinbych a bu ganddo gysylltiadau gyda’r mudiad Gofal a Thrwsio yng Nghymru ers 1996. Ar ôl gweithio i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn Lloegr a Chymru, roedd ei swydd ddiwethaf gyda Cartrefi Conwy fel Rheolwr Gyfarwyddwr. Mae’n Gymrawd y Sefydliad Tai Siartredig.

Jayne Ellis - Rheolwr Gyfarwyddwr EF Training

Mae Jayne wedi gweithio mewn gofal iechyd ers dros 30 mlynedd fel nyrs ac addysgwraig. Mae’n awdur ac yn siarad yn gyson mewn cynadleddau a digwyddiadau ym mhob rhan o Brydain. Mae EF Training yn darparu hyfforddiant ansawdd uchel a seiliedig ar dystiolaeth sy’n mynd i’r afael mewn modd rhagweithiol ag effaith lludded trugaredd ar unigolion a sefydliadau. Ar ôl profi lludded trugaredd ei hun, mae Jayne yn ymwybodol iawn o effaith emosiynol gweithio mewn rôl gofalu. Mae’n ymroddedig i godi ymwybyddiaeth am ludded trugaredd ac yn ymgyrchu dros i iechyd a diogelwch emosiynol gael eu gweld fel bod â statws cyfartal i iechyd a diogelwch corfforol ym mhob sefydliad.

Conference Exhibitors

AKW

Fel arweinwyr marchnad y Deyrnas Unedig mewn datrysiadau ystafelloedd ymolchi a cheginau hygyrch, rydym yn falch i ymffrostio mewn portffolio o dros 5,500 o gynnyrch a gafodd eu dylunio’n ddeallus gan ein tîm o beirianwyr mewnol arbenigol i’ch helpu i greu gofodau cynhwysol, eto hardd sy’n gwella bywyd ar gyfer pobl sy’n byw gyda llai o symudedd, dementia neu nam ar eu golwg.

Altro

Pan ddaw i dai cymdeithasol ac addasu cartrefi, mae’r ffordd mae cartref yn edrych yr un mor bwysig â sut mae’n gweithredu. Mae angen i ardaloedd byw gael teimlad o steil, angen i ardaloedd cymunol fod yn groesawgar, sensitif i sŵn a rhwydd eu glanhau ac angen i geginau ac ystafelloedd ymolchi gydymffurfio â’r safonau uchaf o ddiogelwch a hylendid. Bydd dewis Altro o loriau a waliau cyfoes gyda lliwiau traddodiadol, gwahanol weadau a gorffenion – yn cynnwys pren – yn rhoi popeth rydych ei angen i gwblhau adeilad newydd neu uwchraddio llety a chyfleusterau presennol.

Arthritis UK

Arthritis UK yw elusen arthritis fwyaf y DU, sy'n ymroddedig i newid bywydau pobl trwy ymchwil, ymgyrchu, cefnogaeth, addysg broffesiynol, a gwybodaeth iechyd ddibynadwy. Darparwn gyngor a gwybodaeth i bobl sy'n byw gydag arthritis, neu gyflwr MSK cysylltiedig, ar unrhyw gam o'u taith, gan eu helpu i lywio bywyd gyda chyflwr hirdymor ac i fyw'n dda gydag arthritis. Gallwn rannu awgrymiadau a thriciau ymarferol, ateb cwestiynau, a'ch cyfeirio at ein holl wasanaethau a chymorth gwych, sydd ar gael yng Nghymru a ledled y DU.

Bellman & Symfon

Mae Bellman & Symfon yn creu dyfeisiau gwrando a rhybudd cynorthwyol ar gyfer unigolion byddar neu drwm eu clyw. Mae cynnyrch yn cynnwys gwrandawyr personol a’r system Rhybudd Ymweliad, sy’n hysbysu defnyddwyr am synau pwysig fel clychau drws, larymau mwg, babanod yn llefain a galwadau ffôn drwy ddirgryniadau, goleuadau’n fflachio a synau uchel. Cynlluniwyd y datrysiadau hyn i gynyddu diogelwch, annibyniaeth a hygyrchedd mewn bywyd bob dydd.

Carers Wales

Mae Gofalwyr Cymru yn bodoli i wella bywydau'r cannoedd o filoedd o ofalwyr di-dâl ledled Cymru, sy'n helpu i ofalu am aelodau o'r teulu, ffrindiau a chymdogion ym mhob rhan o'r genedl. Byddai disodli'r gofal a ddarperir gan ofalwyr di-dâl yn costio dros £10 biliwn y flwyddyn i Gymru; eto i gyd, mae gofalwyr yn aml yn cael eu gorfodi i roi'r gorau i yrfaoedd, aberthu eu hiechyd a'u lles, a mentro wynebu caledi ariannol oherwydd eu rôl ofalu. Rydym yn bodoli i roi diwedd ar yr anghyfiawnder hwn drwy ymgyrchu ochr yn ochr â gofalwyr i sicrhau newid, darparu gwybodaeth a chyngor i ofalwyr, a chefnogi cyflogwyr i fod yn fwy croesawgar i ofalwyr.

Closomat Ltd

Yn Closomat, ymdrechwn wneud bywyd yn haws i bobl, pa bynnag heriau sy’n eu wynebu gyda’u hanghenion personol wrth ddefnyddio toiled. Dyfeisiwyd ein Toiled Golchi a Sychu dros 60 mlynedd yn ôl, ac mae degau o filoedd o bobl yn defnyddio ein cynnyrch bob dydd i wneud bywyd ychydig yn haws. Mae ein cynnyrch yn hyblyg a gellir eu haddasu i ddiwallu anghenion yr unigolyn nawr ac i’r dyfodol.

Easiaccess

Mae Easiaccess yn gynhyrchydd, cyflenwr a gosodwr blaenllaw ar gyfer rampiau modwlar a stepiau. Cynigiwn wasanaeth cyflenwi a gosod ledled y wlad. Mae gân ein systemau metal ddyluniad y gellir ei addasu’n llawn, gan roi hyblygrwydd i weddu unrhyw adeilad a gofod. Darparwn arolygon a dyfynbrisiau yn rhad ac am ddim, a ddilynir gyda darluniau 2D a 3D gan ein tîm profiadol o siaradwyr gyda gwybodaeth helaeth o’r rheoliadau a’r gofynion diweddaraf fel y gallwch gael tawelwch meddwl y bydd eich datrysiadau mynediad yn addas i’r diben ac yn cyflawni’r holl ofynion cyfreithiol.

Ffrâm24

Mae Ffrâm24 yn fframwaith aml-gyflenwr ar gyfer deunyddiau adeiladu a gwasanaethau cysylltiedig. Ein huchelgais fel Fframwaith Cymru yn unig yw darparu cadwyn gyflenwi o ansawdd ar gyfer y sectorau cyhoeddus Cymru, elusennau a sefydliadau trydydd sector er mwyn cefnogi ein cymunedau. Mae hyn yn darparu economi gylchol wych i Gymru ac yn cadw'r bunt Gymreig yn lleol. Mae Llywodraeth Cymru yn arnodi Ffrâm24 ac yn ei gefnogi fel olynydd naturiol i fframwaith deunyddiau adeiladu'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS).

Gordon Ellis & Co

Wedi bodoli am dros 160 mlynedd ac yn dal i fod yn fusnes teuluol, mae Gordon Ellis yn cynhyrchu a chyflenwi cymhorthion ansawdd uchel ar gyfer byw bob dydd. Mae ein dewis gwobrwyol yn cynnwys codwyr dodrefn, cymhorthion toiled, seddi toiled uwch, hanner stepiau awyr agored, bariau bachu a llawer mwy. Rydym eisoes yn gweithio’n agos gyda nifer o gyrff Gofal a Thrwsio yng Nghymru ac edrychwn ymlaen at ddatblygu cysylltiadau newydd yn y sector. Rydym hefyd yn cynnig hyfforddiant ar gynnyrch fel codwyr dodrefn i ffitwyr, technegwyr a therapyddion galwedigaethol.

Hearing Products International Limited

Mae Hearing Products International yn darparu technoleg gynorthwyol i unigolion gyda cholled clyw a cholled synhwyraidd tebyg i wrandawyr personol, system cylch T-Coil, gwrandawyr teledu 2 mewn 1, canfyddwyr mwg gydag offer fflachio a dirgrynu, systemau rhybudd drws gyda gwthio cloch, signalydd ffôn, synhwyrydd sain, galwr dirgrynu a phad gwely dirgrynu a llawer mwy.

HSF Health Plan

Mae HSF Health Plan yn ddarparydd cynllun arian iechyd nid-er-elw sy’n eiddo elusen The Hospital Saturday Fund. Mae ein cynlluniau yn helpu deiliaid polisi i hawlio arian yn ôl ar gostau gofal iechyd bob dydd, gan gefnogi gwaith yr elusen i wella iechyd a llesiant. Yn wahanol i yswiriant meddygol preifat, mae HSF Health Plan yn cynnig cymorth syml heb atgyfeiriadau, dim gordal a hawliadau syml. Mae buddion yn cynnwys gorchudd deintyddol ac optegol, taliadau ysbyty, mynediad i ymarferwyr fel ffisiotherapyddion, cefnogaeth ar gyfer digwyddiadau bywyd allweddol, gwasanaethau llesiant drwy HSF Assist® a chynilion bob dydd drwy HSF Perkbox.

NEST

Mae cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yn cynnig cyngor a chymorth diduedd yn rhad ac am ddim i bob aelwyd yng Nghymru. Os yw cwsmer yn gymwys, mae Nyth hefyd yn cynnig pecyn o welliannau effeithiolrwydd ynni cartref i helpu gostwng biliau ynni a gwella iechyd a llesiant, tebyg i insiwleiddio, pwmp gwres, paneli solar neu wres canolog.

RNID

RNID yw’r elusen genedlaethol sy’n cefnogi pobl sy’n fyddar, sydd â cholled clyw neu dinitws. Rydym yn darparu gwybodaeth, cymorth a gwasanaethau ymarferol i helpu pobl i gyfathrebu, aros yn gysylltiedig a chael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt. Mae ein gwaith yn cynnwys hyrwyddo iechyd y clyw, cymorth yn y gymuned, eiriolaeth, cyngor ar dechnoleg ac ymgyrchoedd i wella cynhwysiant a hygyrchedd. Rydym hefyd yn gweithio gyda gweithwyr iechyd proffesiynol, cyflogwyr a sefydliadau lleol i leihau rhwystrau a chreu cymdeithas fwy cynhwysol.

Stannah

Mae Stannah yn fusnes teuluol a fu’n gwneud lifftiau grisiau ers 1975 ac mae wedi gwerthu mwy na un filiwn yn fyd-eang. Rydym yn gwasanaethu miloedd o gwsmeriaid yn genedlaethol yn defnyddio ein dwy ffatri, 11 cangen gwasanaeth, 9 depot gosod a’n timau o beirianwyr medrus ac ymgynghorwyr gwerthu. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau ein bod yn cyflawni angen cwsmeriaid am gynnyrch dibynadwy, ansawdd uchel a diogel sy’n eu galluogi i barhau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi ein hunain. Mae ein cynllun Stannah Stairlift Reuse wedi hen ennill ei blwyf ac mae’n galluogi awdurdodau lleol i wneud arbedion drwy gyweirio ac ailddefnyddio lifftiau grisiau Stannah heb leihau gweithrediad, defnydd neu ddiogelwch.

Trusted Assessing and Care Training (TACT

Mae TACT (‘Trusted Assessing and Care Training’) yn ddarparydd blaenllaw o gyrsiau, cymwysterau, ymgynghoriaeth a rhaglenni yn arbenigo mewn asesu ar gyfer offer ac addasiadau i gartrefi. Yn ddarparydd gydag achrediad o hyfforddiant Asesydd Dibynadwy, caiff ein cyrsiau eu cyflenwi gan therapyddion galwedigaethol sy’n brofiadol mewn offer ac addasiadau. Cynhaliwn gyrsiau cyhoeddus rheolaidd yng ngogledd a de Cymru a rhaglenni a gomisiynwyd yn bwrpasol yn eich safle chi neu yn agos. Mae opsiynau yn cynnwys rhaglenni hyfforddi’r hyfforddwr gyda sefydliadau mwy gyda’u therapyddion galwedigaethol eu hunain yn medru hyfforddi a Gweithdai Asesydd Goruchwylio Dibynadwy ar gyfer therapyddion galwedigaethol mewnol. Rhowch gynnig arnom, credwn y byddwch yn hoffi ein hagwedd amheuthun.

Qualia Law

Cyngor cyfreithiol a diogelu ariannol ar gyfer pobl fregus neu niwroamrywiol. Mae ein gwasanaethau proffesiynol Dirprwy y Llys Gwarchod ac Atwrneiaeth yn helpu i ddiogelu eiddo a chyllid pobl sydd heb alluedd neu na all reoli eu materion ariannol eu hunain. Caiff pob Dirprwyaeth neu Atwrneiaeth eu rheoli gan Gyfreithiwr profiadol ac arbenigol. Fodd bynnag, yn wahanol i gwmni cyfraith traddodiadol, nid ein nod yw cynhyrchu elw ond gweithredu’n llwyr er budd gorau ein cleientiaid. Rydym yn darparu cyngor a chymorth di-duedd a rhad ac am ddim i deuluoedd, gofalwyr, gweithwyr proffesiynol gofal cymdeithasol a chyrff eraill y trydydd sector. Rydym yn helpu i lywio’r gwahanol opsiynau sydd ar gael i bobl fregus neu analluog er mwyn cynyddu annibyniaeth i’r eithaf a sicrhau’r ansawdd bywyd gorau.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.