Mae David yn beiriannydd wedi ymddeol sy’n byw ym Mhontllanffraith gyda’i wraig Margaret a’u ci, Fudge.

Ymddeolodd David yn gynnar yn 2015 ac roedd yn edrych ymlaen at fwynhau bywyd gyda Margaret, prynu tŷ a theithio ond yn lle hynny fe wnaeth ei glyw waethygu’n gyflym ac effeithiodd hynny yn fawr iawn ar ei ansawdd bywyd.

Meddai David: “Fe wnaeth fy safon bywyd ostwng yn fawr. Roedd yn anodd iawn cyfathrebu, hyd yn oed gyda Margaret. Roedden ni’n mynd yn rhwystredig gyda’n gilydd gan nad oeddwn yn medru clywed beth oedd hi yn ei ddweud. Ond nid dim ond arnaf fi roedd yn effeithio, fe wnaeth effeithio lawn cymaint ar Margaret, mae wrth ei bodd yn siarad ac fe gollodd hynny”.

Dechreuodd Margaret ofalu am faterion ymarferol tebyg i ffonio banciau, cwmnïau yswiriant a sefydliadau eraill oherwydd na allai David ymdopi gyda galwadau ffôn.

Dywedodd David fod colli ei glyw yn gyflym wedi golygu na fedrai addasu, “Dydych chi ddim yn cael amser i ddysgu sgiliau darllen gwefusau. Dynion gyda barf, pobl nad ydyn nhw’n symud eu gwefusau, mae mor anodd.” Roedd cyfathrebu gyda banciau, cwmnïau yswiriant a hyd yn oed archebu coffi yn codi braw. “Rydych chi’n colli cymaint o hyder. Mae gennych ofn i rywbeth fynd o’i le. Roedd colli annibyniaeth yn ofnadwy”.

Gan sylweddoli fod y ddau ohonynt angen cymorth, dechreuodd Margaret wneud ymchwil ar-lein a darllen am wasanaeth Ymdopi’n Well Gofal a Thrwsio. Cysylltodd â Gofal a Thrwsio Blaenau Gwent a Chaerffili ac fe wnaeth Theresa, gweithiwr achos Ymdopi’n Well, ymweld â nhw yn eu cartref.

Trefnodd Theresa offer arbennig gyda chlustffonau i wrando ar y teledu fel y gallai glywed effeithiau sain amgylcheddol hyd yn oed os oedd pobl yn siarad yn dal yn aneglur. Er bod isdeitlau yn helpu gyda teledu, esboniodd David fod gweld heb sain yn teimlo’n fflat ac un-dimensiwn. “Fe wnaeth wahaniaeth enfawr. Roeddwn yn medru clywed y synau eto.”

Trefnodd Theresa offer cloch drws ddirgrynol y gallai David ei osod arno’i hun, yn cynnwys un wrth y glwyd ar ochr y tŷ. Dywedodd David “Dim bwys lle’r wyf i yn y tŷ, rwy’n gwybod fod rhywun yno.”

Roedd diogelwch tân yn broblem fawr arall. Fe wnaeth Theresa helpu i drefnu larymau mwg yn cysylltiedig gyda phadiau dirgrynu a goleuadau strôb. Dywedodd David, “Pan ofynnodd Theresa sut fyddwn ni yn gwybod pe byddai larwm mwg yn canu, doeddwn i erioed wedi meddwl am y peth.”

Wrth i’w glyw barhau i waethygu, daeth hyd yn oed yr offer hwnnw yn anodd ei ddioddef yn emosiynol. Dangosodd apwyntiadau awdioleg bob dwy flynedd fod ei glyw wedi gostwng gan tua hanner cant y cant bob tro.

Cafodd David lawdriniaeth mewnblaniad cochlear ym mis Mai 2025. Cafodd ei fewnblaniad ei droi ymlaen ddau fis wedyn. “Fe wnaethant ei droi ymlaen a roeddwn yn medru deall pobl yn siarad yn syth. Roedd yn swnio’n debyg i robot i ddechrau ond fe wnaeth fy ymennydd addasu o fewn deg i bymtheg munud.”

Roedd clywed acen Wyddelig Margaret eto am y tro cyntaf mewn blynyddoedd yn foment emosiynol. “Roedd fel cwrdd â hi eto am y tro cyntaf. Dros gyfnod, fe wnaeth synau bob dydd ddychwelyd, adar yn canu, gwynt yn y coed, sŵn traffig. Rwy’n bwydo’r adar bob bore nawr. Rwy’n ei werthfawrogi bob tro.”

Dywedodd David fod ei hyder wedi dychwelyd: “Rwy’n medru mynd i siopa ar ben fy hun nawr, archebu coffi, sgwrsio gyda phobl pan rwyf allan gyda’r ci. Mae Margaret yn gallu gweiddi lan y grisiau ac rwy’n medru ei chlywed. O’r blaen byddai’n gorfod dod i chwilio amdanaf.”

Pwysleisiodd David fod ymweliadau Theresa yn gymorth emosiynol ac nid ond ymarferol:

“Mae cael rhywun yna sy’n deall wedi gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae awdioleg yn wych ond hyn a hyn maent yn medru ei wneud. Fe wnaeth Theresa helpu i fyw bywyd mor normal ag sy’n bosib. “Fedra’i ddim canmol digon ar Theresa a gwasanaeth Ymdopi’n Well. Maen nhw yno i gael gair. Maen nhw’n fan cyswllt ac yn gysur. Fe wnaethant helpu yn feddyliol. Mae gwybod fod rhywun yno yn gwneud gwahaniaeth enfawr. Mae Theresa wedi fy helpu i fwynhau bywyd eto”.

Gwasanaeth ymweliad cartref am ddim ydi Ymdopi’n Well sy’n cynnig cyngor a chymorth ymarferol i bobl dros 50 oed sydd wedi colli clyw, colli golwg, sydd â dementia, neu sydd wedi cael strôc. Gall ein gweithwyr achos ymroddgar a dibynadwy ddod i ymweld â chi a rhoi cyngor am ddim a chymorth ymarferol i’ch helpu chi i fyw mor annibynnol â phosib.

Rydym yn falch i gyflwyno Ymdopi’n Well mewn partneriaeth gyda’r Gymdeithas Strôc, Cymdeithas Alzheimer Cymru, RNIB Cymru a RNID i sicrhau fod y cymorth cywir ar gael ar yr amser cywir.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.