Ym mis Hydref ymatebodd Gofal a Thrwsio i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol.

Disgrifir presgripsiynu cymdeithasol fel ‘cysylltu dinasyddion gyda chymorth cymunedol er mwyn rheoli eu hiechyd a’u llesiant yn well’.

Drwy ei ddull ataliol cynnar, gall presgripsiynu cymdeithasol helpu i lacio’r baich ar wasanaethau rheng-flaen mwy arbenigol. Mae tystiolaeth amrywiol i awgrymu fod presgripsiynu cymdeithasol yn gostwng y nifer sy’n ymweld â meddygfeydd teulu gan 15% i 28%. Dywedodd un adolygiad fod gostyngiad o 28% ar gyfartaledd yn y galw am wasanaethau meddygon teulu yn dilyn atgyfeiriad, ac roedd y canlyniadau’n amrywio o ostyngiad o 2% i 70% mewn ymweliadau diangen at feddygon teulu.

Beth mae hyn yn ei olygu i Gofal a Thrwsio?

I Gofal a Thrwsio yn benodol, mae’n rhaid i weledigaeth ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru sicrhau ei fod yn cynnwys yr unigolyn cyfan yn ei amgylchedd cyfan. Mae’n rhaid iddo geisio trin a datrys achosion iechyd gwael a ysgogir gan amgylchedd cartref a byw..

Dylai proffesiynau meddygol fedru presgripsiynu cynlluniau i wella amodau tai a’r amgylchedd byw. Mae hyn yn golygu’r cyfle am fesurau arbed ynni, atgyweiriadau i gartrefi a chymorth llesiant anfeddygol yn cael ei bresgripsiynu ac awgrymu i wella ansawdd bywyd pobl hŷn. Mae hefyd yn rhoi cyfle i Gofal a Thrwsio alw am ehangu’r disgrifiad i gwmpasu ein gwasanaethau craidd er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth a defnydd o’n gwasanaethau.

Beth wnaeth Gofal a Thrwsio argymell?

  • Ni ddylid gweld presgripsiynu cymdeithasol fel presgripsiynu ‘cymdeithasu’ yn unig: dylid ymchwilio y gyfle i bresgripsiynu pob cymorth anfeddygol, gyda’r gwasanaethau a ddarperir gan Gofal a Thrwsio yn gymwys ar gyfer tanysgrifio ac argymhelliad gan y presgripsiynwr cymdeithasol.
  • Annog ceisiadau am gyllid ar y cyd gan sefydliadau lluosog: dylid annog cefnogi cynigion a gyflwynir gan nifer o fudiadau er mwyn annog gwaith a chefnogaeth rhyng-ddisgyblaeth. Mae hyn yn wahanol i’r dulliau presennol, lle mae mudiadau lluosog yn cynnig yn gystadleuol am yr un pot o gyllid.
  • Creu fframwaith safonau cenedlaethol: mae Gofal a Thrwsio yn annog creu fframwaith safonau cenedlaethol er mwyn gwarchod defnyddwyr gwasanaeth a chadw diogelu da ar gyfer defnyddwyr a hefyd ddarparwyr ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol. Bydd hyn hefyd yn sicrhau y rhoddir ystyriaeth i ba mor hir y cynigiwyd gwasanaethau.
  • Hysbysebu a hyrwyddo: sicrhau fod hysbysebu a phresgripsiynu ymyriadau cymdeithasol ar gael mewn amrywiaeth o fformatau cyfryngau er mwyn sicrhau fod pobl hŷn yn gweld ac y medrant fanteisio o’r gwasanaeth. Roedd llawer o drafodaeth am ddefnydd technoleg, ac er y cytunwn fod hyn yn ddefnyddiol, ni ddylai hyn fod yr unig ffordd i’r gwasanaethau hyn gael eu hysbysebu a’u cyrchu.
  • Ailddiffinio ‘atgyfeiriadau amhriodol: rhaid esbonio ystyr ‘atgyfeiriadau amhriodol’ a rhoi diffiniad, er mwyn eu holrhain yn fwy cadarn a medru dynodi atgyfeiriadau amhriodol yn fwy trwyadl. Bydd hyn hefyd yn sicrhau fod y defnyddiwr gwasanaeth yn cyrraedd y lle cywir cyn gynted ag sydd modd ac yn manteisio o’r gwasanaeth a gaiff ei bresgripsiynu iddynt.

Mae’r ymgynghoriad ar ei gam dadansoddi ar hyn o bryd a chaiff manylion y canlyniadau eu cyhoeddi maes o law.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.