Posted: 24.11.2022
Author: jack
Ar restr fer y categori Gweithio mewn Partneriaeth, fe wnaeth ein gwasanaeth Ysbyty i Gartref Iachach drechu mwy nag wyth o enwebiadau rhagorol eraill. Mae’r wobr yn cydnabod gwaith partneriaeth eithriadol y gwasanaeth gyda’r GIG yng Nghymru.
Dywedodd Faye Patton, Rheolwr Prosiect Ysbyty i Gartref Iachach:
“Rydym wth ein bodd y cafodd gwaith gwych ein gweithwyr achos ei gydnabod gyda’r wobr hon.”
“Rydym wedi gweithio’n galed i ddatblygu partneriaethau gyda byrddau iechyd ar draws Cymru a rydym yn falch fod y wobr hon yn dystiolaeth bellach fod y gwasanaeth yn adnodd defnyddiol i’r GIG. Mae’n gwneud gwahaniaeth sylweddol i staff y GIG sy’n ei ddefnyddio’n rheolaidd i helpu cyflymu rhyddhau diogel o ysbyty.”
Yn y seremoni, a gymerodd ran yng ngwesty’r Celtic Manor, daeth y timau tai gorau oll ynghyd i ddathlu llwyddiant y diwydiant eleni.
Mae gwasanaeth arloesol Ysbyty i Gartref Iachach Gofal a Thrwsio yn sicrhau y caiff pobl hŷn eu rhyddhau o ysbyty i gartref sy’n addas ar gyfer eu hanghenion.
Mae gweithwyr achos Ysbyty i Gartref Iachach yn gweithio’n uniongyrchol gyda staff ysbyty i adnabod problemau tai cleifion yn gyflym ar ôl iddynt gael eu derbyn. Mae’r gwasanaeth yn cysylltu cleifion gyda’u Hasiantaeth Gofal a Thrwsio leol i sicrhau eu bod yn dychwelyd i gartref diogel, cynnes a chyfleus.
Mae’r gwasanaeth yn bartner gwerthfawr i GIG oherwydd ei fod yn gwella llif cleifion, gostwng cyfraddau ail-dderbyn a sicrhau darpariaeth gyflym. Yn aml gellir gwneud gwaith sy’n hanfodol ar gyfer rhyddhau yr un diwrnod neu o fewn dau ddiwrnod gwaith.
Ehangodd ein gwasanaeth a draws Cymru ac mae bellach yn gweithio allan o 17 ysbyty gwahanol ac yn defnyddio 17 o Weithwyr Achos arbenigol Ysbyty i Gartref Iachach sydd wedi eu hintegreiddio i dimau rhyddhau o ysbyty.