Mae Care & Repair Cymru yn credu y dylai pawb yng Nghymru dderbyn y gefnogaeth maent ei angen i fyw mewn cartref cynnes, diogel, cyfleus ac sy’n diwallu eu hanghenion. Dyna pam y gwahoddwyd Care & Repair Cymru i roi tystiolaeth i Senedd Cymru i gefnogi’r Hawl i Gael Tai Digonol yng Nghymru.

Mae’r Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai wrthi’n cynnal ymchwiliad ar p’un a ddylai pawb yng Nghymru gael yr hawl i dai digonol wedi’i gynnwys yn y gyfraith. Yn dilyn cyflwyno tystiolaeth ysgrifenedig i’r Pwyllgor, cawsom ein gwahodd i ateb cwestiynau gan Aelodau o’r Senedd sy’n ffurfio’r pwyllgor am pam y credwn mai hawl cyfreithiol yw’r ffordd i sicrhau fod gan bawb yng Nghymru gartref addas ar gyfer eu hanghenion (gallwch weld y cyfarfod o’r pwyllgor yma).

Mae gwneud yr hawl i dai digonol yn rhan o’r gyfraith yn golygu fod gan Lywodraeth Cymru nod a gaiff ei warchod rhag newid mewn llywodraethau a chylchoedd cyllideb. Mae hyn yn golygu y byddai’n rhaid i unrhyw lywodraeth yng Nghymru gynnwys sicrhau Cymru lle mae gan bawb gartref digonol yn eu polisi a chynlluniau cyllideb.

Yn hanfodol, mae hawl i dai digonol yn ymwneud â chartrefi unigolion, yn hytrach na grwpio gwahanol fathau o lety gyda’i gilydd, er enghraifft anheddau y mae cynghorau yn berchen arnynt neu anheddau yn y sector rhent preifat. Mae gan Gymru eisoes nifer o bolisïau sy’n canolbwyntio ar wella cartrefi, tebyg i Safon Ansawdd Tai Cymru a’r Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio, ond mae’r rhain yn bennaf yn canolbwyntio ar bobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol. Mewn gwirionedd, gwyddom o ddata cenedlaethol a hefyd ein profiadau ein hunain yn Gofal a Thrwsio fod pobl sy’n byw yn eu cartrefi eu hunain yn llawer mwy tebygol o fod yn byw mewn anheddau anniogel neu sy’n anodd mynd o’u hamgylch.

Fe wnaethom esbonio bod Gofal a Trwsio bob dydd yn gweld pobl hŷn yn byw mewn anheddau anaddas nad ydynt yn diwallu ein anghenion. Dros gyfnod, daeth yn anos canfod datrysiadau i dai mewn cyflwr gael ac anghenion hygyrchedd. Mae’r cyllid sydd ar gael wedi gostwng, a galw wedi cynyddu. Mae gan Gymru boblogaeth hŷn, a diolch i heriau fel y cyfnodau clo a’r argyfwng costau byw, mae nifer cynyddol o bobl hŷn a bregus sy’n berchnogion cartrefi na all fforddio cynnal a chadw eu cartrefi. Byddai hawl i gael tai digonol yn sicrhau y byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi pobl hŷn i sicrhau fod eu cartrefi yn rhydd o beryglon.

Yn ystod ein sesiwn tystiolaeth, fe wnaethom hefyd siarad pam y dylai’r hawl fod yn rhan o’r gyfraith. Credwn y byddai hawl i gael tai digonol yn hyrwyddo polisi a rhoi ffordd i ddal Llywodraeth Cymru i gyfrif am y polisïau hyn. Enghraifft dda o hyn yw’r achos  dros hawl i dai hygyrch; cydnabuwyd ers amser maith bod prinder cartrefi hygyrch yng Nghymru. Rhagwelodd Swyddfa Archwilio Cymru y bydd tua 50,000 o bobl 65 oed a throsodd angen addasiadau tai bob blwyddyn erbyn 2025. Dim ond capasiti ar gyfer tua 30,000 o addasiadau tai sydd gan Cymru ar hyn o bryd. Cafodd y rhan fwyaf o’r rhain eu gwneud gan Gofal a Thrwsio. Mewn gwirionedd, y llynedd fe wnaethom gyflenwi 19,144, ein nifer uchaf ers 2014. Os byddai hawl yn y gyfraith i gael tai digonol, byddai’n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ffurfio cynllun i fynd i’r afael â ‘r angen heb ei ddiwallu am dai hygyrch ac – oherwydd mai dyna’r ddeddf – pe byddai’r angen hwn yn parhau i beidio cael ei gyflawni, byddai’n rhaid i Lywodraeth Cymru esbonio pam nad oeddent yn gwella’r sefyllfa.

Byddai’r gyfraith yn golygu na fyddai rhai o’r heriau mwyaf sy’n wynebu perchen-feddianwyr, fel tai hygyrch a chyflwr tai, yn cael eu gwthio dan y carped bellach a’u gadael gyda bylchau polisi enfawr sy’n golygu na chaiff y materion hyn eu gwirio a’u datrys. Cefnogwn yr hawl i gael tai digonol yn y gyfraith oherwydd y bydd hyn yn ein helpu sicrhau canlyniadau gwell ar gyfer pobl hŷn yn byw yn eu cartrefi eu hunain ledled Cymru.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.