Mae’r elusen Gymreig Care & Repair Cymru wedi ennill gwobr genedlaethol bwysig am ei gwaith yn helpu pobl hŷn fregus a phobl ag anableddau i fyw’n annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.

Gwnaeth y gwaith y mae’r elusen yn ei wneud i helpu pobl hŷn ddychwelyd i’w cartref o’r ysbyty heb oedi ac osgoi gorfod dychwelyd i’r ysbyty oherwydd tai gwael, gan leihau’r pwysau ar wasanaethau GIG, argraff fawr ar y beirniaid.

Yn dilyn proses ddethol ac asesu drylwyr, dewiswyd Care & Repair Cymru o blith mwy na 500 o elusennau ar draws y Deyrnas Unedig fel un o 10 enillydd y Gwobrau GSK IMPACT 2024 sy’n cael eu cyflwyno mewn partneriaeth â’r King’s Fund. Yn eu 27ain flwyddyn erbyn hyn, mae’r gwobrau yn nodi rhagoriaeth yn y sector elusennol, wedi eu dylunio i gydnabod gwaith eithriadol elusennau bach a chanolig sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant pobl yn y Deyrnas Unedig.

Am ennill y wobr, bydd Care & Repair Cymru yn awr yn derbyn £40,000 mewn cyllid heb gyfyngiadau yn ogystal â chefnogaeth arbenigol a datblygu arweinyddiaeth wedi ei ddarparu gan yr elusen iechyd a gofal amlwg, y King’s Fund.

Dengys gwaith ymchwil bod y lle mae rhywun yn byw yn cael effaith ddwys ar ei iechyd a’i les. Ers ei sefydlu yn 1991, mae gwaith Care & Repair Cymru yn cynnwys cefnogi rhyddhau pobl o’r ysbyty ac atal gorfod mynd i’r ysbyty trwy wella ac addasu’r cartrefi’r rhai sydd mewn perygl. Mae eu gwasanaethau yn holistaidd, yn rhoi pwyslais ar yr unigolyn, ac wedi eu teilwrio i anghenion yr unigolyn.

Yng Nghymru, mae 85% o bobl hŷn yn berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac wrth iddynt heneiddio, mae’r rhan fwyaf am aros yn byw yn eu cartrefi a’u cymunedau eu hunain. Yng Nghymru y mae’r stoc tai hynaf yn y Deyrnas Unedig gyda ychydig dros chwarter yr holl dai wedi eu hadeiladu cyn 1919. Mae tai o ansawdd gwael neu anniogel yn arwain at fwy o risg o godymau, gyda 50% o bobl 80 oed a hŷn yn cael codwm o leiaf unwaith y flwyddyn. Dangosodd yr arolwg cyflwr tai diwethaf yn 2018 bod bron i un o bob pump o gartrefi yn achosi risg i iechyd pobl, gydag oerfel, tamprwydd, a llwydni yn costio mwy na £95 miliwn y flwyddyn i’r GIG. Tadogir traean o’r marwolaethau dros ben ymhlith pobl hŷn i salwch resbiradol o fyw mewn cartrefi oer.

Care & Repair Cymru yw’r corff cenedlaethol, gan gefnogi gwaith 13 o asiantaethau Gofal a Thrwsio ym mhob un o 22 sir Cymru. Mae ei raglen Ymdopi’n Well yn targedu rhai o bobl hŷn mwyaf bregus Cymru. Mae’r gwasanaeth am ddim hwn a ddarperir gan yr asiantaethau yn galluogi rhywun sy’n byw gyda dementia, colled synhwyraidd neu sydd wedi cael strôc i gael gwiriad cartref gan weithiwr achos wedi ei hyfforddi’n arbennig. Cynigir cyngor ar dechnoleg i’r defnyddiwr gwasanaeth a all gynorthwyo eu hannibyniaeth, rhoddir arweiniad ar sut i leihau’r risg o godymau a pha fudd-daliadau y mae ganddynt hawl iddynt, ac mae’n eu galluogi i gael mynediad at wasanaethau eraill y gall fod arnynt eu hangen. Yn 2022/23 helpodd y rhaglen Ymdopi’n Well 2,757 o bobl hŷn fregus ac mae’n cael ei darparu mewn partneriaeth ag elusennau nam ar y golwg a’r clyw, yn ogystal â’r Gymdeithas Strôc a Chymdeithas Alzheimer Cymru.

Canmolodd y beirniaid Care & Repair Cymru am ddatblygu a rheoli’r rhaglen Ysbyty i Gartref Iachach sy’n ceisio lleihau’r nifer sydd yn gorfod aros cyn mynd gartref o’r ysbyty a’r cyfraddau dychwelyd i’r ysbyty. Mae asiantaethau Care & Repair yn gweithio gyda staff GIG mewn ysbytai i ddynodi cleifion a all gael eu hatal rhag gadael oherwydd eu bod yn byw mewn tai anaddas. Bydd staff Care & Repair yn camu i mewn i wneud yr addasiadau angenrheidiol yn gyflym ac am ddim fel bod cleifion yn gallu mynd gartref yn ddiogel ac yn brydlon. Mae Care & Repair Cymru yn amcangyfrif bod y rhaglen hon wedi mwy na haneru cyfraddau dychwelyd i’r ysbyty ac arbed £13.6 miliwn i’r GIG oherwydd oedi cyn rhyddhau yn ei thair blynedd cyntaf, gan gynnwys trwy arbed amcangyfrif o 25,968 o ddyddiau gwely.

Nododd y beirniaid hefyd waith yr elusen yn cynrychioli anghenion perchenogion tai Cymru ac amlygu effaith tai gwael ar iechyd pobl hŷn. Trwy gasglu a chyflwyno data mae CRC yn cefnogi Llywodraeth Cymru i wneud gwelliannau polisi ar sail tystiolaeth ac mae ar hyn o bryd yn cefnogi symudiad tuag at hawl newydd i dai fforddiadwy a digonol.

Dengys data a gasglwyd gan yr elusen yn 2022/23 bod yr 13 asiantaeth Gofal a Thrwsio, gyda chefnogaeth Care & Repair Cymru, wedi helpu 62,607 o bobl hŷn i aros yn annibynnol yn eu cartref. Ymgymerodd yr asiantaethau â £18.3m o waith trwsio a gwella cartrefi, cwblhawyd 20,438 o addasiadau, a sicrhawyd £9.5m o fudd-daliadau heb eu hawlio i’w defnyddwyr gwasanaeth.

Dywedodd Katie Pinnock, Cyfarwyddwr Partneriaethau Elusennol y Deyrnas Unedig yn GSK: “Tai, yn aml, yw’r darn coll o’r pôs i wella iechyd pobl a’u cadw allan o’r ysbyty. Mae Gofal a Thrwsio yn pledio dros anghenion tai pobl hŷn, yn chwilio am fwy o fuddsoddiad i wella tai pobl hŷn ac yn darparu annibyniaeth i’r rhai sydd am aros yn eu cartrefi eu hunain. Mae’r elusen yn dangos gwaith partneriaeth rhagorol ac yn llais cryf a dylanwadol ym myd polisi tai. Mae’r rhaglenni a ddarperir gan yr elusen yn gynlluniau effeithiol sy’n lleihau’r galw ar y gwasanaethau GIG a gofal cymdeithasol sydd dan straen yn barod trwy gefnogi rhai o bobl fwyaf bregus Cymru i fyw’n dda yn eu cartrefi eu hunain.”

Wrth roi sylw ar y wobr, dywedodd Chris Jones, Prif Weithredwr Care & Repair Cymru: Rydym yn falch iawn o dderbyn y wobr hon, sy’n cydnabod ymdrechion diflino staff Gofal a Thrwsio trwy Gymru. Rydym yn credu bod heneiddio’n iach yn cychwyn gyda chartrefi iach, dyna pam ein bod yn codi llais dros bobl hŷn yng Nghymru ac yn gweithio’n galed i addasu, trwsio a gwella cartrefi’r rhai sydd fwyaf bregus. Diolch i GSK a’r King’s Fund am gydnabod y gwaith hanfodol hwn sy’n cefnogi miloedd o bobl hŷn yn flynyddol ac yn lleddfu’r pwysau ar wasanaethau’r GIG.”

 

Nodiadau i olygyddion

Mae lluniau, cyfweliadau ac astudiaethau achos ar gael os gofynnir amdanynt. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Gemma Umali, Uwch Reolwr y Wasg a Materion Cyhoeddus yn y King’s Fund ar 020 7307 2585 neu g.umali@kingsfund.org.uk

Gwobrau IMPACT GSK

Dyluniwyd Gwobrau IMPACT GSK, a redir mewn partneriaeth â’r King’s Fund, i gydnabod gwaith eithriadol elusennau gofal iechyd cymunedol. Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.gsk.com/en-gb/responsibility/charitable-investments/#UKInvestments

Mae’r gwobrau ar agor i elusennau bach a chanolig sy’n gweithio ym maes iechyd a llesiant gydag incwm blynyddol rhwng £150,000 a £3 miliwn sydd yn dair oed o leiaf. Bydd Gwobrau IMPACT GSK 2025 ar agor ar gyfer ceisiadau ar 1 Gorffennaf 2024. Am ragor o wybodaeth ac i ymgeisio ewch i www.kingsfund.org.uk/gskimpactawards.

Eleni, bydd £430,000 o wobr ariannol heb ei chyfyngu yn cael ei dyfarnu i elusennau’r Deyrnas Unedig trwy Wobrau IMPACT GSK. Bydd pump o’r rhai agosaf i’r brig yn derbyn £4,000 yr un. Bydd deg enillydd yn derbyn £40,000 mewn cyllid heb gyfyngiad, asedau ffilm, set o ffotograffau hyrwyddo o’u gwasanaethau, yn ogystal â mynediad at weithgareddau hyfforddi a datblygu yr amcangyfrifir eu bod o werth £9,500. Yn y seremoni wobrwyo yn y King’s Fund yn Llundain ar 16 Mai 2024, cyhoeddir enw’r prif enillydd, a bydd yn derbyn £10,000 ychwanegol, gan wneud cyfanswm o £50,000. Gwahoddir y deg elusen fuddugol hefyd i ymuno â Rhwydwaith Gwobrau IMPACT GSK, rhwydwaith trwy’r Deyrnas Unedig o bron i 120 o enillwyr blaenorol sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu arweinwyr, dod o hyd i ffyrdd newydd o weithio a rhoi cefnogaeth i’w gilydd.

Aeth enillwyr 2024 trwy asesiad trylwyr, gan gynnwys trafodaeth fanwl am hanner diwrnod gydag asesydd annibynnol, ac fe’u dewiswyd gan banel beirniadu o arbenigwyr iechyd ac elusennau.

Ers ei chychwyn yn 1997, derbyniodd dros 540 o elusennau iechyd a llesiant Wobr IMPACT GSK a chyfanswm cyllid sy’n fwy na £8.5 miliwn.

Mae GSK yn gwmni bioffarma byd-eang gyda’r diben o uno gwyddoniaeth, technoleg a thalent iddynt gael y blaen ar afiechydon gyda’i gilydd. Dysgwch ragor yn gsk.com

Elusen annibynnol yw’r King’s Fund sy’n gweithio i wella iechyd a gofal yn Lloegr. Mae’n helpu i siapio polisi ac ymarfer trwy ymchwil a dadansoddi; datblygu unigolion, timau a sefydliadau; hyrwyddo dealltwriaeth o’r system iechyd a gofal cymdeithasol; a dod â phobl at ei gilydd i ddysgu, rhannu gwybodaeth a thrafod. Ei weledigaeth yw bod yr iechyd a’r gofal gorau posibl ar gael i bawb. Am ragor o wybodaeth ewch i www.kingsfund.org.uk

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.