Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio yn bodoli oherwydd y byddai bod â’r ymwybyddiaeth gywir yn atal y rhan fwyaf o gwympiadau.
Nid yw syrthio yn anochel, ond mae’n rhaid i bawb ohonom gymryd camau syml i sicrhau nad ydym mewn risg. Mae’r Wythnos Ymwybyddiaeth o Syrthio ynglŷn â helpu pobl i weld y risgiau fel y gallant weithredu. Felly gofynnir i chi rannu yr adnoddau isod ynghyd â’n cyngor da am ostwng y risgiau gyda’ch cyfeillion a’ch teulu.
Os siaradwn gyda’n gilydd am syrthio, gallwn ostwng y risg.
Wyddech chi?
- Bod pobl hŷn yn syrthio ymysg y tri phrif reswm dros alw ambiwlans.
- Unwaith eich bod wedi syrthio unwaith, rydych 50% yn fwy tebygol o syrthio eto, gyda risg cynyddol o anaf.
- Gall ‘gorwedd hir’ o 12 awr neu fwy effeithio’n ddifrifol ar adferiad person ar ôl iddynt syrthio
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud, bob blwyddyn hyd at 2026, y bydd:
- 132,000 o bobl hŷn yn syrthio fwy nag unwaith yn eu cartref eu hunain
- 8,100 yn dioddef anaf difrifol a gorfod mynd i ysbyty
- 3,000 angen clun newydd
- 1,500 yn colli eu hannibyniaeth yn y 12 mis yn dilyn syrthio
- yn drist, y bydd 700 yn marw o fewn 12 fis o syrthio
Os ydym yn cael sgwrs am syrthio, gallwn ostwng y siawns o syrthio.