A oes gennych chi brofiad cadarnhaol o wasanaeth Gofal a Thrwsio? Os felly, gallech gefnogi ein gwaith a bod yn llais dros bobl hŷn yng Nghymru.

Mae Llysgenhadon Gofal a Thrwsio yn unigolion sy’n hapus i siarad yn agored am eu profiadau fel bod mwy o bobl yn clywed am ein gwasanaethau ac fel y caiff lleisiau pobl hŷn eu clywed gan y rhai sydd mewn grym yng Nghymru.

Edrychwn am bobl sy’n hapus i rannu’n gyhoeddus, p’un ai yw hynny o flaen camera, o flaen grŵp neu gydag Aelod o’r Senedd.

Pam dod yn Llysgennad Gofal a Thrwsio?

  • Gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl dros godi llais dros bobl hŷn.

  • Ymuno yng nghynhadledd genedlaethol flynyddol Gofal a Thrwsio.

  • Hyrwyddo Gofal a Thrwsio fel y gall mwy o bobl brofi gwelliannau cartref sy’n newid bywydau.

  • Bod â’r rhyddid i ddweud na i unrhyw gyfleoedd sy’n codi i siarad neu rannu eich stori.

  • Gallwch beidio bod yn Llysgennad Gofal a Thrwsio ar unrhyw adeg.

  • Cwrdd â Llysgenhadon eraill yng nghiniwau Llysgenhadon Gofal a Thrwsio.

Beth mae Llysgenhadon Gofal a Thrwsio yn ei wneud?

Yn syml, mae ein Llysgenhadon yn rhannu eu stori gyda phobl eraill. Gallai hynny olygu siarad am bethau tebyg i:

  • Yr hyn a wnaeth Gofal a Thrwsio i chi neu anwyliaid.
  • Eich profiad o wresogi eich cartref a thalu biliau ynni.
  • Eich profiad o ryddhau o ysbyty.
  • Eich profiad o golli golwg, colli clyw neu gael strôc yng nghyswllt bod yn annibynnol yn eich cartref eich hun.
  • Eich profiad o addasu eich cartref ar gyfer eich anghenion wrth i chi heneiddio.
  • Eich profiad o syrthio yn eich cartref a’r newidiadau a arweiniodd at hynny.

Mae Llysgenhadon yn agored i rannu cymaint neu cyn lleied ag y dymunant. Gallant hefyd ddweud na wrth unrhyw gyfle sy’n codi iddynt rannu eu profiadau.

Pa fath o gyfleoedd mae Llysgenhadon yn cymryd rhan ynddynt?

  • Rhannu eich stori a chyhoeddusrwydd llun (e.e. ar ein gwefan)
  • Siarad am eich profiadau gyda’r cyfryngau (e.e. BBC Cymru)
  • Ymuno â digwyddiadau Gofal a Thrwsio (e.e. ein Cynhadledd genedlaethol – telir yr holl dreuliau)
  • Cael ymweliad gan gynghorydd neu wleidydd lleol i rannu’r hyn a wnaeth Gofal a Thrwsio yn eich cartref
  • Cymryd rhan mewn arolygon am waith Gofal a Thrwsio.
  • Siarad gyda’n cyllidwyr am eich profiad o’n gwasanaethau.

Mae gan ein Llysgenhadon y rhyddid i gymryd rhan mewn rhai o’r pethau hyn ac nid eraill. Nid yw’r rhestr yn cynnwys popeth ond mae’n rhoi syniad o ba gyfleoedd sy’n codi fel arfer.

Pwy all fod yn Llysgennad Gofal a Thrwsio?

Mae’r meini prawf i fod yn Llysgennad yn syml iawn, ac mae’n:

  • Rhywun a gafodd wasanaeth Gofal a Thrwsio yn eu cartref (mewn rhai achosion gall fod yn addas i berthynas neu ofalwr i fod yn Llysgennad ar ran yr unigolyn).
  • Rhywun sy’n hapus i siarad yn agored ac yn onest am eu profiadau o’n gwasanaethau ac yn fwy eang am yr heriau o fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain.
  • Croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

Sut mae’n gweithio?

Weithiau bydd aelod o staff Care & Repair Cymru yn cysylltu â Llysgennad Gofal a Thrwsio a gofyn iddynt os hoffent gymryd rhan mewn cyfle sydd ar y gweill. Gallai hyn fod yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb, cyfweliad teledu neu ddim ond sgwrs gyflym dros y ffôn.

Gall llysgenhadon ddewis beth yr hoffent gymryd rhan ynddo. Os cytunwch i’r cyfle, yna byddwn yn cerdded gyda chi bob cam o’r ffordd. Mae diogelu yn bwysig i ni a ni fyddem yn gofyn i chi wneud dim byd os oeddem yn credu nad oedd yn syniad da am unrhyw reswm.

Mae’n amlwg yr hoffem i chi siarad yn gadarnhaol am Gofal a Thrwsio, fodd bynnag efallai nad yw eich profiadau ehangach o heneiddio, tai ac iechyd mor gadarnhaol. Os felly, mater i chi yw faint y byddwch eisiau ei rannu, ond mae’n rhaid i unrhyw beth a gaiff ei rannu fod yn wir.

Cymryd y cam cyntaf i ddod yn llais dros bobl hŷn yng Nghymru

Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen hon, byddwn yn cysylltu â chi o fewn dwy wythnos i drafod y camau nesaf.

Os byddai’n well gennych gael sgwrs anffurfiol am ein cynllun Llysgennad, yna ffoniwch ein swyddfa genedlaethol ar: 02920 107 580 os gwelwch yn dda.

Cartref oer?
Stepiau peryglus?
Gwteri’n gollwng?
Dyled tanwydd?
Goleuadau wedi torri?

Gallwn eich helpu.

Cysylltwch â’ch Asiantaeth Gofal a Thrwsio leol heddiw.

Cofrestru i gael ein Newyddion

Os hoffech glywed mwy am y gwaith a wnawn i wella cartrefi a newid bywydau, cofrestrwch yma.