Pwy all fod yn Llysgennad Gofal a Thrwsio?
Mae’r meini prawf i fod yn Llysgennad yn syml iawn, ac mae’n:
- Rhywun a gafodd wasanaeth Gofal a Thrwsio yn eu cartref (mewn rhai achosion gall fod yn addas i berthynas neu ofalwr i fod yn Llysgennad ar ran yr unigolyn).
- Rhywun sy’n hapus i siarad yn agored ac yn onest am eu profiadau o’n gwasanaethau ac yn fwy eang am yr heriau o fyw’n annibynnol ac yn ddiogel yn eu cartref eu hunain.
- Croeso cyfartal i siaradwyr Cymraeg a Saesneg.
Sut mae’n gweithio?
Weithiau bydd aelod o staff Care & Repair Cymru yn cysylltu â Llysgennad Gofal a Thrwsio a gofyn iddynt os hoffent gymryd rhan mewn cyfle sydd ar y gweill. Gallai hyn fod yn ddigwyddiad wyneb yn wyneb, cyfweliad teledu neu ddim ond sgwrs gyflym dros y ffôn.
Gall llysgenhadon ddewis beth yr hoffent gymryd rhan ynddo. Os cytunwch i’r cyfle, yna byddwn yn cerdded gyda chi bob cam o’r ffordd. Mae diogelu yn bwysig i ni a ni fyddem yn gofyn i chi wneud dim byd os oeddem yn credu nad oedd yn syniad da am unrhyw reswm.
Mae’n amlwg yr hoffem i chi siarad yn gadarnhaol am Gofal a Thrwsio, fodd bynnag efallai nad yw eich profiadau ehangach o heneiddio, tai ac iechyd mor gadarnhaol. Os felly, mater i chi yw faint y byddwch eisiau ei rannu, ond mae’n rhaid i unrhyw beth a gaiff ei rannu fod yn wir.